ɫ

Fy ngwlad:
Accountant working on some finance sheets

Sefydliad Cyllid Ewropeaidd

Mae Prifysgol ɫ yn gartref i'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd

Ar y dudalen hon:
 Taflenni cyfrifyddu

Ein Grwpiau Cynllunio Ymchwil Cyfrifeg a Llywodraethu

Mae aelodau’r grŵp cynllunio ymchwil Cyfrifeg a Llywodraethu yn archwilio’r gwahanol ddulliau ac agweddau ar gyfrifyddu (gan gynnwys cyfathrebu corfforaethol) a llywodraethu, mewn perthynas ag ystod eang o sefydliadau a rhanddeiliaid, a defnyddio ystod eang o fframweithiau a methodolegau damcaniaethol. Y nod yw archwilio sut mae sefydliadau’n rhyngweithio â chynulleidfaoedd â diddordeb, trwy destun (e.e. dogfennau adroddiad blynyddol, adroddiad CSR, datganiadau i’r wasg, datganiadau dirprwy), datganiadau ariannol, ac ymgysylltu (e.e., pleidleisio drwy ddirprwy), a sut mae cyfathrebu, mecanweithiau llywodraethu, a sefydliadau'n dylanwadu ar ganfyddiadau a phenderfyniadau cynulleidfaoedd mewnol ac allanol, a chanlyniadau sefydliadol.

Mae aelodau ein grwp yn cynnwys:

 

Emeritws

  • Professor Doris Merkl-Davies

Myfyrwyr PhD

 

Cadw llygaid ar stociau ar y farchnad stoc

Ein Grwpiau Cynllunio Ymchwil Risg Credyd

Mae'r grŵp cynllunio ymchwil hwn yn canolbwyntio ar ymchwil empirig ar risg credyd. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys staff ar draws yr arbenigeddau cyfrifeg, bancio, economeg a chyllid. Mae'r grŵp yn bwriadu adeiladu ar ymchwil sydd eisoes yn bodoli yn yr Ysgol ac annog synergeddau newydd ac ymchwil rhyngddisgyblaethol. Mae gan dri aelod o'r grŵp enw da am ymchwil statws credyd ym Mangor dros gyfnod o fwy na deng mlynedd, ynghyd â grŵp PhD sefydledig a gweithgar. Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Aelodau Allanol:

  • Dr Noemi Mantovan - Liverpool University, UK
  • Dr Huong Vu - University of Aberdeen, UK
  • Dr Vu Tran – University of Reading, UK
  • Dr Thy Nguyen - University of Management and Technology Ho Chi Minh City, Vietnam

Myfyrwyr PhD:

I weld rhestr o'r projectau PhD mae gennym ddiddordeb eu goruchwylio, ewch i'n tudalen cyrsiau PhD.

Ap yn dangos data ar sgrin

Ein Grwpiau Cynllunio Ymchwil Dadansoddi Data a Arloesi Ariannol

Mae’r grŵp ymchwil Arloesedd Ariannol a Dadansoddi Data yn ceisio cyfuno pŵer dadansoddi data i ddatgelu dealltwriaeth newydd sy’n gwella arferion busnes a marchnadoedd ariannol. Nod ein hymchwil yw gwella'r broses o wneud penderfyniadau mewn busnes a'r sector cyhoeddus drwy ganfyddiadau sy'n cael eu llywio gan ddata. Mae meysydd ffocws allweddol penodol yn cynnwys deall ymddygiad masnachu buddsoddwyr a gwella’r broses o ganfod ac atal twyll a chamymddwyn cysylltiedig, yn enwedig o ran arloesi ym maes cyllid.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Aelodau allanol:

  • Kota Kobayashi
  • Prof Oualid Jouini (CentraleSupelec – Universite Paris-Saclay)
  • Prof Zied Jemai (CentraleSupelec – Universite Paris-Saclay)
  • Dr Mohammad Hichame Benbitour (Ecole de Management Normandie)

Myfyrwyr PhD:

  • Jiaxin Li
 Tîm busnes yn gweithio trwy rai dadansoddeg

Ein Grwpiau Cynllunio Ymchwil Bancio Cyfrifol

Mae’r grŵp ymchwil Bancio Cyfrifol yn dod ag academyddion ynghyd i gydweithio ar ymchwil academaidd amserol a chalibr uchel mewn bancio cynaliadwy, strwythurau diwydiannol, a rheoleiddio. Trwy gysylltiadau helaeth aelodau â sefydliadau amlochrog, rheoleiddwyr, a diwydiant, mae'r grŵp ymchwil yn cysylltu ymchwilwyr academaidd ag ymarferwyr a llunwyr polisi i fynd i'r afael â rhai o'r cwestiynau mwyaf sy'n wynebu'r sector bancio.

Mae aelodau ein grŵp yn cynnwys:

Staff Emeritus:

Aelodau Allanol

Myfyrwyr PhD:

Ein Bwrdd Rheoli

Dewch i gyfarfod â'r aelodau o staff sy'n rhan o Fwrdd Rheoli'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd.

Ymchwil Ôl-raddedig

Dysgwch fwy am y cyfleoedd ymchwil sydd ar gael i fyfyrwyr ôl-raddedig o fewn ein meysydd pwnc

Cyfrifeg, Bancio a Chyllid

Uchafbwyntiau

Yn sgil eu harbenigedd a'u henw da byd-eang, mae aelodau'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd yn ymddangos yn aml yn y cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal, mae aelodau yn aml yn ysgrifennu blogiau byr mewn ymateb i ddigwyddiadau cyfredol, yn lledaenu canfyddiadau ymchwil, ac yn hysbysu amrywiaeth eang o randdeiliaid. Mae manylion am sylw yn y cyfryngau ac ymddangosiadau, a blogiau, i'w gweld isod.

  • Llongyfarchiadau i Danial, a'n cyn-gydweithiwr Aziz, y mae ei bapur o'r enw "On Quality of Earnings in SPAC Transactions" wedi'i dderbyn i'w gyhoeddi yn The European Journal of Finance.
  • Mae Yener wedi treulio'r wythnos hon yn ymweld â Phrifysgol Calabria, gan roi sawl seminar ymchwil yn ogystal â chyflwyno papur yn eu gweithdy a hyrwyddo ei gydweithrediad presennol â'u grŵp ymchwil Mafia.
  • Mae Danial a Khaled wedi cael eu gwahodd i draddodi Anerchiadau Allweddol a chymryd rhan mewn sesiwn panel "Cwrdd â'r Golygyddion" yn y Gynhadledd Ryngwladol ar Drawsnewid Digidol, FinTech, ac Arloesi Busnes (ICDFB 2025), a gynhelir gan Brifysgol Al-Ahliyya Amman, Gwlad Iorddonen, ar 26–27 Hydref 2025. Teitl anerchiad allweddol Danial yw "Genetic AI as artiffisial economic agent? Avenues for new research in finance and accounting". Teitl anerchiad allweddol Khaled yw "Corporative Narrative Reporting on Digital Technologies".
  • Croeso i Dr Fahad Almudhaf, Athro Cyswllt Cyllid ym Mhrifysgol Kuwait, sydd wedi ymuno â ni fel ysgolhaig gwadd am 12 mis. Mae Khaled yn cynnal Fahad a bydd yn gweithio ar ymchwil sy'n archwilio datgeliadau naratif a chynaliadwyedd mewn ymddiriedolaethau buddsoddi eiddo tiriog (REITs) yn y DU.
  • Mae erthygl fisol Ed ar gyfer Newyddion Busnes Cymru yn edrych ar y Fargen Ffyniant Technoleg. Mae gan Gymru'r arbenigedd a'r uchelgais i arwain mewn lled-ddargludyddion, deallusrwydd artiffisial a seilwaith digidol os yw'n gweithredu'n feiddgar i droi potensial yn ffyniant parhaol.  
  • Llongyfarchiadau i Heather, Laurence, Adrian, a'u myfyriwr PhD Jiaxin Li, y mae eu papur o'r enw “ESG Investment Among Retail Investors: A Systematic Literature Review and Future Research Agenda” wedi'i dderbyn i'w gyhoeddi yn y Journal of Accounting Literature.
  • Llongyfarchiadau i Khaled, y mae ei bapur o'r enw "Beyond the Bin: The Effect of Waste Reduction on Real Earnings Management" wedi'i dderbyn i'w gyhoeddi yn yr International Journal of Finance & Economics.
  • Llongyfarchiadau i Bruce ac Adrian, y mae eu papur o'r enw “Benchmarking deep reinforcement learning approaches to trade execution” wedi'i dderbyn i'w gyhoeddi yn y Pacific-Basin Finance Journal.  

 

Papurau a Chyhoeddiadau

Mae'r Sefydliad Cyllid Ewropeaidd yn enw sy'n gyfystyr â rhagoriaeth ymchwil. Mae aelodau'n cynnal dadansoddiad academaidd trwyadl ac yn cyfuno gwybodaeth ac offer o wahanol ddisgyblaethau i gwrdd â heriau'r presennol a'r dyfodol. Mae manylion cyhoeddiadau’r aelodau i’w gweld isod.

  • (Rhagfyr 2025)
  • ” (Medi 2025)
  • (Medi 2025)
  • “ (Awst 2025)
  • ” (Gorffennaf 2025)
  • (Gorffennaf 2025)
  • (Mai 2025)
  • (Mai 2025)

 

Archif

Cliciwch yma i weld ein projectau blaenorol.

Archif

Cliciwch yma i weld ein projectau blaenorol.