Beth yw Prentisiaeth Gradd?
Mae Prentisiaethau Gradd yn cynnig llwybr amgen at addysg uwch draddodiadol. Maent yn cyfuno gwaith llawn amser ac astudio’n rhan amser yn y brifysgol.
Mae ein rhaglenni wedi'u cynllunio ar gyfer gweithwyr proffesiynol uchelgeisiol sydd am symud ymlaen, ac maent yn cyfuno dysgu academaidd â phrofiad byd go iawn. Byddwch yn astudio'n rhan amser gan barhau i weithio'n llawn amser, a chymhwyso'r hyn a ddysgwch yn syth yn y gweithle.