Croeso i Ysgol Fusnes Albert Gubay
Mae'r byd yn newid mewn ffyrdd na ellir eu rhagweld.
Gall fod yn anodd i bobl ddeall sut i wneud gwahaniaeth gwirioneddol.
Yn Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, rydym yn credu gallwch ysgogi newid cadarnhaol ar draws y byd gyda’r addysg a’r sgiliau cywir.
Rydym yn hyderus o hyn, oherwydd mae ein staff ymchwil a'n graddedigion yn gwneud argraff lle bynnag y maent yn mynd.
Cymryd heriau busnes y byd go iawn i’w dwylo eu hunain.
P’un a yw hynny’n defnyddio dadansoddeg data i roi hwb i effeithlonrwydd y stryd fawr yn lleol, datblygu polisïau cynaliadwy cadarn ar gyfer y diwydiant twristiaeth, ymchwilio i'r berthynas rhwng brandiau a sbwriel, er enghraifft, dadansoddi ymddygiad defnyddwyr, a helpu pobl i wneud penderfyniadau sy’n well i’w hiechyd a’r amgylchedd.
Dyma'r lle i wneud gwahaniaeth gwirioneddol, ac mae hefyd yn lle hardd i wneud hynny.
Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yw lle mae traddodiad yn cwrdd ag arloesi.
Gyda chyfleusterau o'r radd flaenaf fel ein terfynellau Bloomberg dim ond taith fer o’r Ddarllenfa Shankland.
Nid damwain yw twf a datblygiad yr Ysgol Busnes.
Rydyn ni'n un o'r darparwyr addysgu bancio a chyllid hynaf yn y byd.
Mae ein ffocws ar gyflogadwyedd a sgiliau'r dyfodol yn allweddol.
Rydym yn gweithio amrywiaeth o fusnesau ac elusennau, yn lleol yng Nghymru, ledled y Deyrnas Unedig, ac ar draws y byd.
Gwella ansawdd a chwmpas ein hymchwil, ond hefyd darparu addysg ragorol trwy teithiau maes a dysgu am arbenigedd amrywiol diwydiannau.
Darparu'r sgiliau y mae cyflogwyr eu heisiau mewn gwirionedd.
Mae Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É yn fwy na lle i astudio, mae'n le i arweinwyr y dyfodol cael eu ffurfio, lle mae arloesedd yn ffynnu, a lle ymdrinnir yn uniongyrchol â heriau byd-eang.
Ni yw'r ysgol sy'n golygu busnes, a hoffem chi ymuno â ni i gyd-lunio’r dyfodol.
Ein Meysydd Pwnc
Yn Ysgol Fusnes Albert Gubay, rydym yn cynnig amrywiaeth eang o raglenni israddedig, ôl-radd hyfforddedig ac ôl-radd ymchwil, gyda dewisiadau astudio llawn-amser a rhan-amser hyblyg i gyd-fynd â’ch anghenion chi.
Cartref Newydd i Addysg Fusnes yng Ngogledd Cymru
Mae rhodd o £10.5m gan Sefydliad Elusennol Albert Gubay yn dod ag Ysgol Fusnes newydd, o'r radd flaenaf i Ogledd Cymru.
Bydd yr adeilad newydd yn ganolfan fodern i ysbrydoli a grymuso'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr busnes.
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn.
Ewch i’r dolenni isod i ddarganfod mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
Mae Ysgol Fusnes Albert Gubay yn gartref i ddwy ganolfan ymchwil ddeinamig sy'n dod ag arbenigwyr, myfyrwyr a phartneriaid ynghyd i fynd i'r afael â heriau mawr a chreu effaith yn y byd go iawn.
Ewch i’r dolenni isod i ddarganfod mwy am eu gweithgareddau, eu cyflawniadau a'u cyfleoedd i gymryd rhan.
Newyddion Diweddaraf Ysgol Fusnes Albert Gubbay
Gweld MwyDigwyddiadau Ysgol Fusnes Albert Gubay
DILYNWCH NI
Cadwch lygad ar y newyddion, y digwyddiadau a’r straeon ysbrydoledig diweddaraf gan ein cymuned myfyrwyr, a chael cipolwg y tu ôl i’r llenni ar fywyd, dysgu ac arloesi yn yr ysgol.
Albert Gubay Business School, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É LL57 2DG