Anrhydeddwyd Marcel mewn seremoni a gynhaliwyd neithiwr (nos Iau, 21 Tachwedd 2025) yn y Bloomsbury Ballroom, Llundain. Caiff y digwyddiad ei drefnu gan Gyngor y Deyrnas Unedig ar gyfer Materion Myfyrwyr Rhyngwladol (UKCISA). Yn y seremoni dathlwyd cyfraniad 13 o enillwyr a oedd wedi eu dewis o blith mwy na 420 o enwebiadau gan fwy na 120 o sefydliadau ledled y Deyrnas Unedig. Ymhlith y 63 ymgeisydd yn y rownd derfynol, roedd Marcel yn serennu oherwydd ei gyfraniad eithriadol i fywyd y myfyrwyr.
Cafodd ei gydnabod gan y beirniaid am ei ddull arbennig o gefnogi myfyrwyr, ac fe gafodd ei ganmol am ei ymrwymiad a chefnogaeth tuag at y myfyrwyr. Dr Marcel Clusa yw鈥檙 prif bwynt cyswllt ar gyfer ymholiadau cymhleth am fewnfudo a chymorth lles hanfodol, a dywedodd y beirniad ei fod yn cyfuno arbenigedd technegol ag empathi, gofal a chysur emosiynol tuag at y myfyrwyr.
Mae Marcel hefyd yn chwarae r么l ganolog wrth groesawu myfyrwyr rhyngwladol i鈥檙 Deyrnas Unedig. O gydlynu cyrraedd meysydd awyr i ddarparu rhaglenni cynefino sydd wedi鈥檜 cynllunio i wrthsefyll unigrwydd a hyrwyddo trochi diwylliannol, mae鈥檔 sicrhau nad yw unrhyw fyfyriwr yn teimlo ar eu pen eu hunain yn ystod eu hamser ym Mangor.
A hithau鈥檔 ddwy ar bymtheg o flynyddoedd ers iddo symud i Brifysgol 亚洲色吧 fel myfyriwr rhyngwladol, mae Marcel yn credu ei bod yn bwysig gwneud i fyfyrwyr rhyngwladol deimlo鈥檔 gartrefol, dywedodd: 鈥淢ae cael ein cydnabod cydnabod am y gwaith rydym yn ei wneud ym Mhrifysgol 亚洲色吧 i gefnogi myfyrwyr o bob rhan o鈥檙 byd yn wych!鈥
鈥淢ae myfyrwyr rhyngwladol yn dod 芒 rhagoriaeth, angerdd ac ymroddiad nid yn unig i鈥檔 hystafelloedd dosbarth ond i鈥檙 gymuned leol gyfan. Mae helpu myfyrwyr i ymgartrefu, eu cefnogi drwy eu hamser ym Mangor a鈥檜 gweld yn ffynnu yn rhywbeth bendigedig. Rwy鈥檔 teimlo鈥檔 hynod o anrhydeddus i fod yn rhan o鈥檜 taith ac yn falch o wobr sy鈥檔 dathlu nid yn unig yr hyn rwy鈥檔 ei wneud i wneud i fyfyrwyr deimlo鈥檔 gartrefol, ond yr hyn mae鈥檙 t卯m cyfan yn Llwyddiant Myfyrwyr yn ei wneud hefyd.鈥
Dywedodd Danielle Barnard, y Pennaeth Llwyddiant Myfyrwyr, 鈥淒an ni鈥檔 andros o falch o Marcel a dan ni wrth ein boddau鈥檔 gweld ei ymroddiad o鈥檔 cael ei gydnabod ar lefel genedlaethol. Mae ei ymrwymiad o wrth gefnogi myfyrwyr rhyngwladol yn eithriadol, ac mae ei ofal, ei empathi a'i broffesiynoldeb o yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau鈥檔 myfyrwyr ni. Mae cyfraniad Marcel yn cael ei werthfawrogi鈥檔 fawr ledled y Brifysgol, ac mae'r wobr yma鈥檔 gwbl haeddiannol.鈥