Yn dilyn y llwyddiant yn sicrhau Statws Porthladd Rhydd yn Ynys M么n a鈥檙 cyhoeddiad heddiw ynghylch sefydlu Adweithydd Modiwlar Bach ar yr ynys, y cyntaf o鈥檌 fath yn y Deyrnas Unedig, bydd y Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial cynyddu gwerth y buddsoddiadau hanfodol hyn yn y rhanbarth hyd yn oed ymhellach. Byddant, gyda'i gilydd, yn darparu cyfle economaidd sylweddol i ogledd-orllewin Cymru ac mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi chwarae rhan allweddol yn gwireddu鈥檙 datblygiadau hyn.
Yn fyd-eang gwelir bod cwmn茂au uwch-dechnoleg yn clystyru o amgylch parthau o'r fath sy鈥檔 troi o amgylch canolfannau data enfawr. Mae'r brifysgol, ynghyd 芒 pharc gwyddoniaeth y brifysgol, M-SParc, yn uchelgeisiol ac yn llawn cyffro o gael cefnogi'r cyfle y mae鈥檙 mewnfuddsoddiad hwn yn ei gynnig, ac o gael cefnogi鈥檙 twf swyddi newydd a'r cyfle i wella'r sylfaen sgiliau yn y rhanbarth. Trwy weithio fel system gydweithredol, bydd y Parth Twf yn cyfuno 芒 mentrau eraill i roi hwb y mae mawr ei angen i economi gogledd Cymru.
Mae gan y brifysgol arbenigedd helaeth ym meysydd data a deallusrwydd artiffisial ar draws ei disgyblaethau gan gynnwys Model Iaith Mawr hynod lwyddiannus ar gyfer y Gymraeg, a ddatblygwyd gan Brifysgol 亚洲色吧 mewn partneriaeth 芒 Choleg Prifysgol Llundain ac NVIDIA. Mae'r project hwn yn enghraifft o sut y gall deallusrwydd artiffisial drawsnewid bywydau, cefnogi gwasanaethau cyhoeddus ledled Prydain Fawr, a helpu i ddiogelu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.
Mae sicrhau statws Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial i Ynys M么n a Gwynedd yn gyffrous iawn. Mae'n cydnabod potensial y rhanbarth fel canolfan ar gyfer arloesi a thwf economaidd cynaliadwy. Pan gyfunir hyn ag arlwy bwerus sylfaen ymchwil y Brifysgol, y buddsoddiad yn Ysgol Fusnes Albert Gubay a llwyddiant ysgubol Parc Gwyddoniaeth Menai, rydym mewn sefyllfa unigryw i arwain y gwaith o ddatblygu'r sgiliau, y partneriaethau a'r technolegau a fydd yn llunio dyfodol deallusrwydd artiffisial gan greu cyfleoedd busnes a chyfleoedd gyrfa ac iddynt werth uchel ar draws y rhanbarth
Mae'r Brifysgol wedi ymrwymo i weithio gyda rhanddeiliaid a phartneriaid cymunedol i sicrhau bod y Parth Twf Deallusrwydd Artiffisial yn cael ei roi ar waith yn llwyddiannus er mwyn sicrhau'r effaith fwyaf posibl i ogledd Cymru.