Cafwyd cinio er mwyn dathlu llwyddiannau’r diwydiant, ac yn dilyn hynny gwnaed gyflwyniadau i’r enillwyr yn y deg categori. Caiff rhestr lawn o'r rhai a gyrhaeddodd y rhestr fer eu cynnwys mewn atodiad arbennig yn rhifyn mis Ionawr 2026 o’r British Potato Review.
Wynebodd Project TRIP gystadleuaeth gref yn eu categori, ac er nad oeddynt yn llwyddiannus y tro hwn, cafodd gyfraniad y project o fewn y gadwyn gyflenwi tatws glod gan y beirniaid.
Roedd Dr Katherine Steele, Darllenydd mewn Cynhyrchu Cnydau Cynaliadwy a Chyfarwyddwr Effaith ac Ymgysylltu yn yr Ysgol y Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol - a oedd hefyd yn siarad yn y digwyddiad - yn falch o enwebiad y project: "Rwy'n falch iawn bod project TRIP wedi cael ei gydnabod gan y Diwydiant Tatws, ac yn un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol ar gyfer y wobr hon. Mae'n golygu’r byd i'r tîm cyfan ac rydym wedi dysgu llawer gan ein gilydd am yr heriau a'r cyfleoedd sy'n gysylltiedig â chynhyrchu tatws cynaliadwy."
Mae’r project, Transformative Reduced Input Potatoes (TRIP), yn dod â Dyson Farming Ltd., Sefydliad James Hutton, Emerald Research, Light Science Technologies, Ymddiriedolaeth Ymchwil Sarvari a gwyddonwyr o Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a’r Ganolfan Biogyfansoddion ynghyd i brofi amrywiaeth o ddulliau amaethu atgynhyrchiol a allai leihau'r difrod amgylcheddol y mae tyfu tatws yn ei achosi. Mae consortiwm y project yn cynnwys amrywiaeth o dyfwyr tatws masnachol ledled Lloegr - o Swydd Lincoln i Gernyw - ac mae'n cynnwys ffermydd y mae Dyson Farming yn berchen arnynt ac yn eu rheoli.
Ariennir y project TRIP am dair blynedd gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) drwy Raglen Arloesi Ffermio ‘Innovate UK’. Mae’r project yn ymchwilio i fridiau newydd o datws sy'n gwrthsefyll clefydau, triniaethau maethol newydd i'w defnyddio ar ddail yn hytrach nag ar bridd, dulliau sy’n gofyn am lai o aredig gan gynnwys defnyddio tomwellt fel cyfrwng tyfu, a dulliau newydd o fonitro allyriadau nwyon tŷ gwydr o gaeau ffermwyr.