Dathlu ymchwil glinigol yng Ngogledd Cymru mewn symposiwm rhanbarthol
Heddiw (dydd Gwener, 21 Tachwedd) estynnodd Prifysgol 亚洲色吧 groeso i gydweithwyr o bob cwr o'r rhanbarth i Symposiwm Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru, sef digwyddiad hanner diwrnod i arddangos ehangder, effaith a photensial ymchwil glinigol yng ngogledd Cymru.
Cafwyd cefnogaeth i gynnal y Symposiwm, lle daeth academyddion, clinigwyr a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol ynghyd i archwilio cyfleoedd ar gyfer cydweithio ac i amlygu gweithgarwch ymchwil sy鈥檔 mynd rhagddo ar hyn o bryd. Agorwyd y digwyddiad gyda gair o groeso gan yr Is-ganghellor, a bwysleisiodd ymrwymiad y brifysgol i ymchwil sy'n gwella iechyd a llesiant yng ngogledd Cymru.
Ymhlith y siaradwyr gwadd roedd yr Athro Lucy Chappell, Prif Ymgynghorydd Gwyddonol yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phrif Weithredwraig y Sefydliad Cenedlaethol dros Ymchwil Iechyd a Gofal, a Gareth Cross, Cyd-gyfarwyddwr, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a Dirprwy Gyfarwyddwr yr adran Gwyddoniaeth, Ymchwil a Thystiolaeth yn Llywodraeth Cymru.
Mae鈥檔 hyfryd gweld y fath egni a diddordeb mewn ymchwil glinigol yn y symposiwm hwn heddiw. Mae鈥檔 amlwg bod llawer o gyfleoedd yn Ysgol Feddygol Gogledd Cymru i sicrhau bod ymchwil sy'n bwysig i gleifion a'r cyhoedd yn cael ei ymgorffori yn rhan annatod o iechyd a gofal. Mae gan Brifysgol 亚洲色吧 feysydd o ragoriaeth gwirioneddol mewn amryw o ddisgyblaethau eraill, ac mae'r timau'n manteisio ar yr arbenigedd hwnnw i dorri tir newydd. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut y gallwn ysgogi ymchwil i wella canlyniadau iechyd i bawb.
Cafwyd trafodaeth banel gan gyfarwyddwyr canolfannau ymchwil Ysgol Feddygol Gogledd Cymru dan gadeiryddiaeth Dr Emily Holmes, Cyfarwyddwr Ymchwil yr ysgol. Yn y sesiwn rhoddwyd sylw i r么l gynyddol Ysgol Feddygol Gogledd Cymru wrth lunio dyfodol ymchwil glinigol a chefnogi ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa.
Dywedodd Dr Nia Jones, Deon Meddygaeth a Dirprwy Bennaeth Ysgol Feddygol Gogledd Cymru, 鈥Roedd y Symposiwm Ymchwil hwn, sef y cyntaf i Ysgol Feddygol Gogledd Cymru ei gynnal, yn gyfle gwych i ddod ag ymchwilwyr, clinigwyr ac addysgwyr ynghyd i gydweithio, cyfnewid syniadau a sbarduno arloesedd. Yn dilyn cyflwyniadau ysbrydoledig gan ein prif siaradwyr, bu cyfle heb ei ail yn ystod y bore i rwydweithio ac adeiladu ymhellach ar gydweithrediadau sydd eisoes yn mynd rhagddynt, gan bwysleisio bod ymchwil yn berthnasol i bob clinigwr ac yn cyd-fynd yn agos 芒 gwerthoedd yr Ysgol. Drwy gydweithio, gallwn gryfhau ac ehangu ar gyfleoedd ymchwil ledled Cymru a gwella gofal cleifion ar gyfer y dyfodol, gan fod y gwerthoedd hynny yn bwysig i ni i gyd.鈥
Daeth y digwyddiad i ben gyda sesiwn holi ac ateb a oedd yn cael ei ffrydio鈥檔 fyw, dan y teitl 'Sut fedra i gymryd rhan mewn ymchwil glinigol?', dan arweiniad Dr Nicola Williams, Cyfarwyddwraig Genedlaethol Cefnogaeth a Chyflawniad Ymchwil, Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, ac ymchwilwyr clinigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Roedd y sesiwn yn cynnig cyngor ymarferol i gydweithwyr sy'n awyddus i gyfrannu at ymchwil ochr yn ochr 芒'u cyfrifoldebau clinigol.
Dywedodd Olivia Harrison, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Ddysgedig Cymru, 鈥淩ydym wrth ein boddau bod y gefnogaeth yr ydym yn ei chynnig i gymrodyr y gymdeithas wedi gallu cefnogi鈥檙 symposiwm rhagorol hwn sy鈥檔 tynnu sylw at y manteision hanfodol y bydd ymchwil glinigol yn eu dwyn i Gymru a thu hwnt. Nid yn unig y bydd y digwyddiad hwn yn dod ag ystod eang o bobl ynghyd o bob cwr o Gymru, ond rydym yn edrych ymlaen at weld y canlyniadau ymarferol a ddaw yn ei sgil.鈥