Dr Aled Llion Jones
Pennaeth Ysgol / Darllenydd mewn Llenyddiaeth Gymraeg a Chanoloesol (Ysgol y Gymraeg)
–
 
    Rhagolwg
Addysg a Chyflogaeth
Fe'm haddysgwyd ym Mhrifysgolion Leeds, Caerdydd a Harvard, ac enillais raddau ym meysydd Athroniaeth a Saesneg (BA), Cymraeg (MPhil) ac Astudiaethau Celtaidd (PhD). Rwyf wedi bod yn Ddarlithydd neu'n Athro mewn prifysgolion yng Ngwlad Pwyl (Lublin), Iwerddon (Gaillimh), UDA (Harvard) a Chymru (ÑÇÖÞÉ«°É), ac wedi darlithio'n achlysurol neu addysgu ar ysgolion haf mewn sefydliadau ledled Ewrop a Gogledd America.
Ymchwil
Rwy'n gweithio ar draws cyfnodau a disgyblaethau, gan ddwyn athroniaeth a theori lenyddol ddiweddar i ddialog â llenyddiaeth fodern a chanoloesol Cymru ac Iwerddon. Pwysig i’r gwaith hwn hefyd ydy theori amlieithrwydd a chyfieithu.ÌýGweler yn enwedig fy monograff,Ìý¶Ù²¹°ù´Ç²µ²¹²ÔÌý(GPC 2013), a hefyd fy erthygl yn Translation Studies, 9.
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig ffigyrau megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd. Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig. Gweler fy erthygl ynÌýYsgrifau Beirniadol ar yr olaf.
Rwyf hefyd yn edrych yn agos ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r brosiect hon yn archwilio nid yn unig nodweddion megis y deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb a'r iwtopig. Gweler fy erthygl ynÌýProceedings of the Harvard Celtic Colloquium ar hyn.
Cyflwyno a Siarad Cyhoeddus
Rwyf wedi traddodi ystod o bapurau mewn cynadleddau o orllewin Romania i dde Califfornia (ac yn y rhan fwyaf o’r gwledydd rhyngddynt): siaradaf gan fwyaf ar lenyddiaeth Gymraeg a Gwyddeleg (ganoloesol a modern), ond hefyd ar athroniaeth, ac astudiaethau diwylliannol yn ehangach.
Caf fy ngwahodd yn aml i gyflwyno mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau cyhoeddus, o brifysgolion i neuaddau pentref, ac mae fy ngwaith fel athro iaith (Cymraeg, Pwyleg, Gwyddeleg) hefyd yn fodd o gysylltu â’r gymuned leol ac ehangach. Rwy'n barod iawn i drafod ar y cyfryngau darlledu: rwy'n gyfforddus yn siarad a darlithio mewn nifer o ieithoedd.
Cyfieithu Llenyddol
Rwyf wedi cyfieithu a thrafod yn gyhoeddus farddoniaeth sawl bardd Pwyleg, a hefyd wedi cael fy nghomisiynu gan Gyfnewidfa Llenyddiaeth Cymru i gyfieithu rhyddiaith o'r iaith honno. Cyhoeddais amryw gyfieithiadau o'r Wyddeleg i'r Gymraeg.
Fe'm cymhwyswyd drwy arholiad ar gyfer aelodaeth o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru (Cym-Saes; Saes-Cym).
Addysgu
Byddaf yn dysgu bob blwyddyn ar fodiwlau blwyddyn gyntaf, ail a thrydedd y gwahanol gynlluniau BA. Dysgaf sgiliau iaith a llythrennedd (Cymraeg a Gwyddeleg) yn ogystal â llenyddiaeth, hanes llenyddiaeth, ac athroniaeth. Rwy'n cyfrannu'n gyson hefyd i fodiwlau a gaiff eu cyd-addysgu, a’r rheiny’n amrywio o lenyddiaeth ganoloesol a modern cynnar i ieithyddiaeth, sosioiethyddiaeth a chynllunio ieithyddol. Fi yw sylfeinydd a chyfarwyddwr y cwrs MA 'Y Celtiaid', a byddaf yn cyfrannu at ddysgu ar gyrsiau MA eraill ar draws yr Ysgol a'r Coleg. Rwy'n hapus i drafod prosiectau PhD.
Gwybodaeth Cyswllt
Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd
Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Ffordd y Coleg
ÑÇÖÞÉ«°É
LL57 2DG
aled.llion@bangor.ac.uk
+44 (0)1248 382243
Cymwysterau
- PhD
 Harvard University, 2005–2011
- MA
 Harvard University, 2005–2007
- MPhil
 Caerdydd, 1997–2000
- BA
 Leeds University, 1993–1996
Addysgu ac Arolygiaeth
Addysgu BA
Blwyddyn 0
- CXC-1036 Cyflwyno Llenyddiaeth Gymraeg (Dechreuwyr)
Blwyddyn 1
- CXC-1002 Llên y Cyfnod Modern Cynnar
- CXC-1005 Ysgrifennu Cymraeg (trywydd ail-iaith)
- CXC-1026 Golwg ar Lenyddiaeth (trywydd ail-iaith)
Blwyddyn 2 a 3
- CXC-3202/2202 Athroniaeth a LlenyddiaethÌý
- CXC-3029/2029 Chwedlau'r Oesau Canol
- CXC 2203/3203 Blas ar yr Wyddeleg
- CXC-3009 Traethawd EstynedigÌýÌý
Addysgu MA
Fi yw cyfarwyddwr cwrs MA 'Y Celtiaid'. Byddaf hefyd yn goruchwylio myfyrwyr MA (Cymraeg). Cyfrannaf at ddarlithoedd/seminarau sawl cwrs MA arall (e.e. Astudiaethau Arthuraidd; Cyflwyno'r Oesau Canol; Llenyddiaethau Cymru)
Goruchwylio PhD
Yn ddiweddar goruchwyliwyd gennyf y rhain:
- bu prosiectÌýPhilip DaviesÌýyn astudiaeth gymharol o ddisgyrsiau cenedlaetholgar yng Nghymru a Gwlad y Basg tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg;
- maeÌýAngelika RüdigerÌýyn astudio'r datblygiad o fotiffau llên gwerin Gymraeg rhwng y cyfnod canoloesol a'r modern.
Croesawaf gynigion ar gyfer prosiectau ymchwil ar amryw agweddau o lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd - yn enwedig Cymraeg a Gwyddeleg, a rhai'n ymwneud â methodoleg theoretig/athronyddol.Ìý
Arholi PhD
Bûm yn arholwr mewnol i nifer o draethodau ymchwil PhD, yn Ysgol y Gymraeg a hefyd Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg, ac Ysgol Athroniaeth a Chrefydd.
Arholi Allanol
- Newydd orffen cyfnod fel Arholwr Allanol, Prifysgol y Drindod Dewi Sant (Cynllun AUR,ÌýY Gyfadran Allanol)Ìý
Diddordebau Ymchwil
Rwy'n ymchwilio i lenyddiaethau'r ieithoedd Celtaidd yn gyffredinol (Cymraeg a Gwyddeleg yn arbennig), ac mae gennyf hefyd ddiddordeb mawr mewn Llenyddiaeth Gymharol, yn enwedig yng nghyd-destun diwylliannau llai Ewrop a'r ieithoedd Slafeg (y Bwyleg yn arbennig).
Yn fy ymchwil fy hun a'm goruchwylio mae gennyf ddiddordeb neilltuol mewn gwaith ac iddo ogwydd theoretig: mae fy ymchwil (gw. manylion cyhoeddiadau a chynadleddau) yn ymwneud â disgyrsiau sydd ar y ffin rhwng ffiloleg ac athroniaeth iaith/celf (e.e., proffwydoliaeth, amlieithrwydd, cyfieithu, barddoneg ac estheteg, ac ecofeirniadaeth).Ìý
Yn ddiweddar mae fy ngwaith ymchwil wedi bod yn troi o gwmpas dau brif faes, sef athroniaeth yr ugeinfed ganrif (yn enwedig meddylwyr megis Martin Heidegger, Maurice Blanchot, Martin Buber, Jacques Derrida, J.R. Jones) a llenyddiaeth Gymraeg y canol oesoedd (barddoniaeth a rhyddiaith). Digwyddiad pwysig sy'n clymu'r meysydd hyn ynghyd yw cyfieithiad Martin Buber o Bedair Cainc y Mabinogi yn 1914, ac rwyf wedi bod yn edrych ar y croes-ffrwythloni cysyniadol rhwng y chwedlau Cymraeg a'r traddodiadau dyneiddiol-Hasidig.
Rwyf erbyn hyn yn edrych yn benodol ar gysyniadau o amser, cronoleg a hanesyddiaeth yn llên ganoloesol y Gymraeg a'r Wyddeleg. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn archwilio nid yn unig Ìýagweddau megisÌýy deictig ond hefyd y ffyrdd y mae ffurfiau llenyddol a throsiadau rhethregol yn mynegi profiadau cysyniadol (ac anghysyniadol) o amser, lle, tragwyddoldeb ac iwtopia.
Rwyf wrthi hefyd yn paratoi cyflwyniad hygyrch i Athroniaeth Llenyddiaeth, i'w gyhoeddi ar ffurf llyfr. Hwn fydd y cyflwyniad cyntaf o'i fath yn y Gymraeg, ac yn trafod llên Cymru yn benodol.
Cyfleoedd Project Ôl-radd
Cyhoeddiadau
2025
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., Awst 2025, Imagination and Innovation in Celtic Cultures. Fulton, H. & Henley, G. (gol.). Gwasg Prifysgol Cymru, t. 41-56 15 t.
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2024
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
 Jones, A. L., 2024, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Festschrift.
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
2023
- Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg
 Richards, R. & Jones, A. L. (Golygydd), 2023, (Wedi ei Dderbyn / Yn y wasg) Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2022
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., Hyd 2022, Yn: Barn.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
- Cyhoeddwyd
 Evans Jones, G. & Jones, A. L. (Golygydd), Medi 2022, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru. 368 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2021
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., Mai 2021, Yn: O'r Pedwar Gwynt. t. 39 1 t.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., 3 Meh 2021, Yn: Barn. t. 6-7 2 t.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2020
- Cyhoeddwyd
 Rosser, S. & Jones, A. L. (Golygydd), 15 Rhag 2020, Gwasg Prifysgol Cymru. 336 t. (Cyfres y Meddwl a'r Dychymyg Cymreig)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., 10 Medi 2020, Yn: The Medieval Review.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
2019
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., 12 Maw 2019, Proceedings of the 38th Harvard Celtic Colloquium. Andrews, C., Newton, H. & Parker, S. (gol.). 2018 gol. Cyfrol 38.
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2018
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 31 Gorff 2018, Yn: O'r Pedwar Gwynt. 7, t. 6-7 2 t.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. (Cyfieithydd), Miguelez-Carballeira, H. (Cyfieithydd) & Costas Gonzalez, X.-H. (Golygydd), 2018, Vigo : Universidade De Vigo.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad arall › Cyfraniad Arall
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 30 Mai 2018, Y geissaw chwedleu. Jones, A. L. & Fomin, M. (gol.). ÑÇÖÞÉ«°É, 14 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8).
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 2018, Yn: ɾ±²µ²õ±ð. 40
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. (Golygydd) & Fomin, M. (Golygydd), 30 Mai 2018, ÑÇÖÞÉ«°É: Ysgol y Gymraeg, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. 189 t. (Studia Celto-Slavica; Cyfrol 8)
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2017
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell, Cyfrol The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain.
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., Maw 2017, Yn: Renaissance Quarterly. 70, 1, t. 325-326 2 t.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Adolygiad Llyfr/Ffilm/Erthygl
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 18 Awst 2017, The Encyclopedia of Medieval Literature in Britain. Fay, J. A., Futton, H. & Rector, G. (gol.). Wiley-Blackwell
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
2016
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 1 Rhag 2016, Ysgrifau Beirniadol 34. Price, A. (gol.). Gwasg Gee, t. 209-238 29 t.
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 2016, Golden Epochs and Dark Ages: Perspectives on the Past. Antonowicz, A. & Niedokos, T. (gol.). Lublin: Wydawnictwo KUL, Cyfrol 14. 15 t. (Studies in Literature and Culture ).
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 1 Maw 2016, Yn: Translation Studies. 9, 2, t. 137-151 14 t.
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl › adolygiad gan gymheiriaid
- Cyhoeddwyd
 Jones, A., 1 Chwef 2016, Ollam: Studies in Gaelic and Related Traditions in Honor of Tomás Ó Cathasaigh . Boyd, M. (gol.). Lanham: Fairleigh Dickenson University Press, 16 t. Chapter 2
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Pennod › adolygiad gan gymheiriaid
2013
- Cyhoeddwyd
 Jones, A. L., 15 Rhag 2013, University of Wales Press.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2012
- Cyhoeddwyd
 Ford, P. K. & Jones, A., 2012, The Princeton Encyclopaedia of Poetry and Poetics. Greene, R. (gol.). Princeton: Princeton University Press
 Allbwn ymchwil: Pennod mewn Llyfr/Adroddiad/Trafodion Cynhadledd › Cofnod mewn Gwyddoniadur/Geiriadur › adolygiad gan gymheiriaid
2010
- Cyhoeddwyd
 Chance, C., Radiker, L., Zall, C., Bempechat, P. & Jones, A., 2010, Cambridge, MA: Harvard University Press.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr › adolygiad gan gymheiriaid
2009
- Cyhoeddwyd
 Jones, S., Jones, A. (Golygydd) & Knight, J., 2009, Cambridge, MA: Harvard University Press.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
2004
- Cyhoeddwyd
 Davies, M. P. & Jones, A., 2004, Yn: Taliesin. 121, t. 90-102
 Allbwn ymchwil: Cyfraniad at gyfnodolyn › Erthygl
2003
- Cyhoeddwyd
 Llwyd, I., Jones, A. (Golygydd), Jones, A. (Cyfieithydd), Bianchi, A. (Cyfieithydd) & Siviero, S. (Cyfieithydd), 2003, Mobydick.
 Allbwn ymchwil: Llyfr/Adroddiad › Llyfr
Gweithgareddau
2024
- This is a co-sponsored event by the Learned Society of Wales and ÑÇÖÞÉ«°É, hosted and delivered by the Centre for Arthurian Studies, in the series of anniversary events. It is also part of the international collaboration with the Rossell Hope Robbins Library, University of Rochester, US - 23 Tach 2024 - Cysylltau: Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu â'r cyhoedd a gwaith maes - Erthygl neu gyfranogiad yn y cyfryngau (Cyfrannwr)
2023
- Sgwrs ar lenyddiaeth Arthuraidd, i nod 7 mlwyddiant sefydlu'r Ganolfan Arthuraidd - 1 Maw 2023 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Siaradwr gwadd yn seminar 'CELTIC 138: The Mabinogion: Stories from Medieval Wales' (i drafod erthygl o'm heiddo sydd ar y maes llafur). - 21 Chwef 2023 Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)
2020
- Athro ar Ymweliad (Visiting Professor) - 1 Awst 2020 – 30 Rhag 2020 Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)
- Gwersi Ar-lein i Diwtoriaid y Gogledd - 14 Mai 2020 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2019
- Papur cynhadledd yn trafod pwysigrwydd cyfeiriad posibl at Historia Regum Britanniae yn y chwedl Culhwch ac Olwen. - 20 Medi 2019 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Teitl: 'Why Arthur is Always Wrong: Culhwch ac Olwen as self-defeating prophecy' - 13 Medi 2019 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Trefnir gan PEN Cymru. Yr her eleni yw cyfieithu dwy gerdd gan Julia Fiedorczuk o'r Bwyleg i'r Gymraeg. - Gorff 2019 - Cysylltau: 
- Fe'm gwahoddwyd i gyflwyno dwy gyfres o ddarlithoedd a seminarau i gyflwyno'r iaith Gymraeg yn ei chyd-destun hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol. - 23 Ebr 2019 – 31 Mai 2019 Gweithgaredd: Mathau o waith ymgysylltu academaidd allanol - Ymchwilio a Dysgu mewn Sefydliad Allanol (Cyfrannwr)
2018
- Cadeirio viva PhD (Ysgol y Gymraeg) - 11 Rhag 2018 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
- Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - 26 Tach 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Cyflwyniad i ddisgyblion chweched dosbarth o ysgolion led-led Cymru, ar gwrs Preswyl Glan-llyn a drefnwyd gan Ysgol y Gymraeg a'r Urdd - 21 Tach 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol, a drefnwyd ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol - 7 Tach 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- 'Good time(s), bad time(s): myths and metaphysics in some medieval literature' - 6 Hyd 2018 - Cysylltau: 
- Sgwrs i drafod taith i Jerusalem i archif Martin Buber, cyfieithydd y Mabinogi i'r Almaeneg - 25 Ebr 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- 18 Ebr 2018 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Prif siaradwr)
- Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch - 13 Ebr 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 'Amser a gofod: darllen llenyddiaeth ganoloesol y Gymraeg gyda Stephen Hawking'. Defnyddio theoriau gwyddonol diweddar ynghylch amser a gofod i ddarllen llenyddiaeth Gymraeg ganoloesol. - 10 Ebr 2018 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg/Ysgol Athroniaeth a Chrefydd - Chwef 2018 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2017
- Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol - 22 Tach 2017 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
- Sesiwn i gyflwyno manteision BA mewn Cymraeg i ddisgyblion yr ysgol - 17 Tach 2017 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
- Sesiwn awr yn disgrifio manteisio gradd mewn Cymraeg, o ran cyflogadwyedd, etc. - 10 Gorff 2017 - Cysylltau: 
- Gwers iaith enghreifftiol i diwtoriaid iaith, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion, Plas Tan-y-Bwlch - Mai 2017 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2016
- 'Buber, Benjamin, Cynddelw, Rhonabwy: amser, iaith a hanes yn llenyddiaeth Gymraeg y Canol Oesoedd'. - Tach 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- 'Cyfriniaeth, Seioniaeth a Phedair Cainc y Mabinogi' - 22 Hyd 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Papur cynhadledd - 26 Meh 2016 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- '"Fel y torraist ti fy nghalon": medieval and early-modern Welsh love poetry'. Darlith i fyfyrwyr lleol a dysgwyr o bell. - Mai 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Plas Tan-y-Bwlch, Cynhadledd Cymraeg i Oedolion - Ebr 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- 'Amlieithrwydd mewn llenyddiaeth Gymraeg' - Maw 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Agweddau cyfredol ar sosio-ieithyddiaeth y Gymraeg - Ion 2016 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- 2016 – 2019 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Trefnydd)
2015
- Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi - Rhag 2015 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- 'Yr Athronydd yn Annwn: Martin Buber, Cyfriniaeth Iddewig a'r Mabinogi' - Rhag 2015 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr)
- Bendigeidfran yn Berlin: y Mabinogi a rhai o athronwyr yr Almaen, c. 1914 - Rhag 2015 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- 'Martin Buber and the Mabinogi: a very tenuous Polish connection'. Welsh Days 2015. - Hyd 2015 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Hyd 2015 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Cyfweliad yn Bwyleg ynghylch iaith a diwylliant Cymru - Hyd 2015 Gweithgaredd: Cyflwyniad llafar (Siaradwr)
- 'Mabinogi Martin Buber: y cyfieithiad cyntaf o'r Pedair Cainc i'r Almaeneg' - Medi 2015 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- 'Poetry, Language, Grammar, Death: Reading the Gogynfeirdd with Heidegger' - 26 Maw 2015 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- Arholwr Mewnol ar gyfer Ysgol Hanes, Hanes Cymru ac Archaeoleg - 2015 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2014
- 'Zombies Gwyddelig, Moch yr Apocalyps a phroblemau eraill Cymry'r Mabinogi' - Tach 2014 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Prif siaradwr)
- Hyd 2014 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- 'Mesur, Cynghanedd a Pherson: sylwadau ar strwythur rhai cerddi canoloesol' - Medi 2014 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Dysgu (Cymraeg: Iaith a Llên) ar gwrs preswyl Astudiaethau Celtaidd - Meh 2014 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Siaradwr gwadd)
- 'Language and transcendence in the poetry of the Welsh Princes' - Ebr 2014 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
2013
- Hyd 2013 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Trefnu a chydlynu Ysgol Haf i fyfyrwyr o wledydd Ewrop a Tsieina - Gorff 2013 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn gweithdy, seminar, cwrs Academaidd (Trefnydd)
- Darlith wadd: ‘Athronwyr y tywysogion? Sylwadau ar iaith y Gogynfeirdd, y frawddeg enwol a'r apophatig’ - Meh 2013 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- 15 Mai 2013 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
- ‘Y Canu Darogan, Peniarth 50 ac Amlieithrwydd’ - Mai 2013 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
- Ion 2013 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr gwadd)
2012
- Hyd 2012 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- ‘National Library of Wales, MS Peniarth 50: Welsh Political Prophecy and Multilingualism’ - Gorff 2012 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- ‘Rhys Fardd a rhyddfrydwyr eraill yr Oesau Canol’ - Gorff 2012 Gweithgaredd: Cymryd rhan mewn cynhadledd Academaidd (Siaradwr)
- Ebr 2012 Gweithgaredd: Sgwrs wadd (Siaradwr)
- Arholwr mewnol (Ysgol y Gymraeg) - 2012 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2011
- Arholwr Mewnol Ysgol y Gymraeg - 2011 Gweithgaredd: Arholiad (Arholwr)
2010
- Athro ar Ymweliad (Visiting Professor) - 1 Awst 2010 – 30 Rhag 2020 Gweithgaredd: Ymweld â sefydliad academaidd allanol (Ymchwilydd Gwadd)