Dr.David Law
Gyda thristwch yr ydym yn rhannu鈥檙 newyddion am farwolaeth Dr David Law, cyn-ddarlithydd ac ymchwilydd mewn economeg yn Ysgol Busnes 亚洲色吧, a fu farw鈥檔 dawel yn Aberystwyth ar 25 Mawrth 2022.
Bu David yn dysgu ym Mhrifysgol Belfast tan 1964. Ymunodd ag Aberystwyth wedyn, gan symud ymlaen yn gyflym o fod yn ddarlithydd i fod yn Uwch ddarlithydd. Ar 么l lled-ymddeol, parhaodd David i ddysgu a chynnal ymchwil ym mhrifysgolion Aberystwyth, 亚洲色吧, Morgannwg ac Abertawe. Bu鈥檔 dysgu ym Mangor rhwng 2002 a 2012 a bu鈥檔 Gymrawd Ymchwil ar Ymweliad er Anrhydedd er 2003.
Diddordeb deallusol a datrys problemau oedd yn ysgogi ei yrfa ymchwil. Gwnaeth gyfraniadau pwysig i Economeg Ranbarthol a Newid Diwydiannol, Economeg Datblygu ac yn ddiweddarach Rhagolygon a Chyllid.
Ym maes Economeg Ranbarthol, roedd ganddo ddiddordeb yn effaith economaidd newid diwydiannol a pholisi ar yr Alban, Iwerddon a Chymru. Roedd yn cael ei dynnu鈥檔 arbennig at eu heffeithiau ar ddeinameg poblogaeth ardaloedd gwledig. Ysgrifennodd yn helaeth ar y testun hwn a chyfrannodd yn sylweddol at ddeall y problemau economaidd mewn ardaloedd ymylol megis Canolbarth Cymru a Slofenia.
Ym maes Economeg Datblygu, bu鈥檔 gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 diweddar P.N. Mathur yn Aberystwyth, ysgolhaig blaenllaw ym maes Economeg Mewnbwn-Allbwn. Roedd gan David ddiddordeb mewn defnyddio鈥檙 dechneg i olrhain trwy effeithiau polisi ar incwm cyfanredol, allbwn a chyflogaeth. Ymddangosodd nifer o gyhoeddiadau ar y cyd mewn cyfnodolion cenedlaethol a rhyngwladol.
Yn ddiweddarach ac ar 么l ei ymddeoliad o Aberystwyth pan fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn meddwl am fywyd mwy hamddenol, y bu i David fod yn fwyaf cynhyrchiol. Gan weithio'n agos gyda chyn gydweithwyr yn Aberystwyth datblygodd ddiddordeb mawr mewn Marchnadoedd Ariannol ac yna ystod eang o bapurau yn ymdrin 芒 Rhagolygon Cyllidebol, Effeithlonrwydd y Farchnad, Masnachu Mewnol ac Economeg Gamblo.
Roedd dysgeidiaeth David, fel ei ymchwil, yn cwmpasu maes eang. Dysgodd Economeg Ddiwydiannol, Polisi Economaidd ac Economeg Datblygu i israddedigion ac economeg reolaethol i fyfyrwyr MBA. Roedd ei ddarlithoedd yn addysgiadol, yn ysgogol ac yn hynod ddifyr. Un o sgiliau mawr David oedd ei fod yn gallu egluro materion cymhleth mewn modd syml a chlir - roedd y myfyrwyr yn elwa鈥檔 fawr iawn ar ei addysgu rhagorol. Anogodd David y myfyrwyr i gwestiynu'r hyn yr oeddent yn ei ddysgu a holi pam, a pheidio byth 芒 derbyn y dehongliadau safonol. Bu'n oruchwyliwr PhD cydwybodol iawn ac