LLESIANT A CHYNHWYSIANT
Mae Gwasanaeth Llesiant a Chynhwysiant Myfyrwyr ÑÇÖÞÉ«°É yma i gefnogi dy iechyd meddwl, llesiant emosiynol ac i fynd i'r afael â rhwystrau sy'n gysylltiedig â anabledd.
Mae ein tîm yn cynnig cymorth cyfrinachol gyda phryderon sy'n gysylltiedig ag iechyd meddwl, llesiant, anabledd a chynhwysiant. Os yw straen, iechyd meddwl, neu faterion eraill yn effeithio ar dy ddysgu, cysyllta yn gynnar, rydym yma i helpu.
Rhaglen Cymorth Myfyrwyr 24/7
Rydym yn cynnig mynediad cyfrinachol i Raglen Cymorth Myfyrwyr allanol. Mae'r llinell gymorth 24 awr hon ar gael i fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É 365 diwrnod y flwyddyn gan gefnogi dy iechyd meddwl a dy lesiant.


Fel myfyriwr yma, byddi hefyd yn cael:
- Cefnogaeth gyda threfniadau rhesymol - fel addasiadau arholiadau - trwy gynllun cymorth dysgu personol (PLSP).
- Gwybodaeth am anabledd (gan gynnwys namau corfforol, cyflyrau iechyd hirdymor, awtistiaeth, colli synhwyrau) a'r gwasanaethau, cefnogaeth ac addasiadau sydd ar gael.
- Cefnogaeth i fyfyrwyr gyda gwahaniaethau dysgu penodol (SpLDs) fel dyslecsia, dyspraxia, dyscalculia ac ADHD.
- Cyngor ar strategaethau i helpu gydag astudio a thasgau bob dydd.
- Gallwn hefyd roi cyngor i fyfyrwyr y DU ar wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl (DSA), ac ar gyfer myfyrwyr nad ydynt yn gymwys ar gyfer y DSA gallwn roi cyngor ar opsiynau eraill posibl.
Yn ystod y Diwrnod Agored, tyrd draw i stondin Cymorth Myfyrwyr yn y Neuadd Arddangos i siarad â staff a fydd yn gallu rhoi cyngor a chefnogaeth gyffredinol ac egluro sut i gysylltu â'n timau arbenigol am wybodaeth fwy penodol.
CYNGOR ARIANOL A CHYLLID MYFYRWYR
Yn poeni am gyllidebu neu gyllid myfyrwyr? Nid wyt ar dy ben dy hun. Mae Tîm Cymorth Ariannol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnig:
- Arweiniad ar fenthyciadau a grantiau myfyrwyr
- Cymorth gyda chyllidebu a rheoli arian
- Cefnogaeth Cronfa Caledi a bwrsariaethau
Os oes gennyt unrhyw gwestiynau am gyllid myfyrwyr, paid â cholli'r Sgwrs Cyllid Myfyrwyr yn ystod y Diwrnod Agored (lleoliad ac amser yn amserlen y Diwrnod Agored).


CEFNOGAETH GYRFA A CHYFLOGADWYEDD
Nid yw byth yn rhy gynnar i feddwl am dy dyfodol. Mae Gwasanaeth Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd ÑÇÖÞÉ«°É yn helpu myfyrwyr i baratoi ar gyfer bywyd ar ôl y brifysgol gyda:
- Stiwdio Gyrfaoedd ‘galw heibio’ ar gyfer gwybodaeth, adnoddau a chefnogaeth gyrfaoedd
- Gweithdai CV a chyfweliadau
- Ffeiriau gyrfaoedd a digwyddiadau cyflogwyr
- Hyd yn oed cyn dod yma, gelli ddod i wybod mwy am sut rydym yn helpu myfyrwyr i adeiladu dyfodol llwyddiannus.
CWESTIYNAU CYFFREDIN DIWRNOD AGORED
Dyma ychydig o'r cwestiynau y mae ein tîm Gwasanaethau Myfyrwyr yn eu hateb yn rheolaidd yn ystod Dyddiau Agored:
- A yw'r campws yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn?
- Pa gefnogaeth sydd ar gael i fyfyrwyr gyda dyslecsia?
- Sut mae ÑÇÖÞÉ«°É yn cefnogi myfyrwyr gyda heriau iechyd meddwl?
- A oes ystafelloedd hygyrch yn y Neuaddau?
- A oes mannau tawel neu Neuaddau tawel?
- Os oes gennych gwestiynau fel y rhain, bydd ein tîm yn barod i helpu yn ystod y Diwrnod Agored, nid oes unrhyw gwestiwn yn rhy fach.

Mwy o wybodaeth
Mae mwy o wybodaeth am y gefnogaeth sydd ar gael ar wefan Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae yno wybodaeth am bob gwasanaeth, ynghyd â manylion cyswllt os wyt am siarad â rhywun cyn neu ar ôl y Diwrnod Agored.