亚洲色吧

Fy ngwlad:
NWORTH hero banner

Gwybodaeth am yr Uned Treialon Clinigol NWORTH

NWORTH intro video thumbnail
Fideo: NWORTH intro video

Mae ein cenhadaeth yw cynnal astudiaethau clinigol o ansawdd uchel, i wella iechyd a lles pobl ledled Cymru, ac ymhellach.

Uned Treialon Clinigol NWORTH

Pwy ydym ni?

Mae UTC NWORTH yn Uned Treialon Clinigol sydd wedi'i chofrestru'n llawn gyda , sy'n seiliedig yn Ysgol Feddygol Gwynedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧.  Rydym yn gweithio mewn partneriaeth gyda ymchwilwyr uchelgeisiol ledled y DU ac yn rhyngwladol, i ddylunio a gyflwyno treialon clinigol o ansawdd uchel sy'n mynd i'r afael 芒'r chwestiynau iechyd pwysig ac sy'n gwella ymarfer clinigol.

M Arts building Covid FAQ

Rydym yn arbenigo mewn dylunio a chyflwyno treialon rheoledig ar hap, aml-ganolfan a dyluniadau astudiaeth trylwyr eraill, gan gynnwys astudiaethau peilot/dichonoldeb, a threialon rheoledig unigol a chlwstwr. Rydym yn darparu cefnogaeth i gydweithwyr drwy bob cam o gylchred bywyd treialon clinigol, gan gynnwys dylunio, cynnal, dadansoddi a lledaenu. Mae gan ein t卯m brofiad helaeth o ddatblygu ceisiadau cyllid, dylunio astudiaethau, rheoli treialon a methodoleg, llywodraethu ymchwil a sicrhau ansawdd, dal a monitro data electronig, rheoli data, dadansoddi ystadegol, a chyhoeddi.

Mae'r uned yn gweithio'n agos gyda ymchwilwyr ar draws Prifysgol 亚洲色吧 a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), i drosoli sgiliau ac arbenigedd i wella dylunio a chynnal treialon. Rydym hefyd yn gweithio gyda phrifysgolion blaenllaw eraill, ac amrywiaeth o ymchwilwyr ledled y DU ac yn rhyngwladol, ac mae ein hanes o ddarparu cymorth o ansawdd uchel yn aml yn arwain at gydweithrediadau ailadroddus.

Mae ein portffolio treialon amrywiol yn rhychwantu ar draws meysydd clinigol, gan gynnwys dementia a chyflyrau niwrolegol eraill, cyflyrau deintyddol, iechyd menywod, canser, dibyniaeth ac iechyd meddwl. Mae ein hastudiaethau yn cynnwys treialon dyfeisiau ac apiau, Treial Clinigol o Gynnyrch Meddyginiaethol Ymchwiliol (CTIMPs), treialon o ymyriadau cymhleth fel rhaglenni gofal iechyd cymunedol, a therapi gwybyddol ymddygiadol (CBT).

Ein gwerthoedd

Ein gwerthoedd - Cydweithio, Ansawdd, Effaith, Dysgu

Ein Hamcanion

Ein nod yw cefnogi a chynnal ymchwil glinigol effeithiol sy'n cyd-fynd 芒 nodau strategol Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, Strategaeth Ymchwil 2030 Prifysgol 亚洲色吧, blaenoriaethau ymchwil lleol y GIG, a Llywodraeth Cymru. Er mwyn cyflawni hyn, ein hamcanion yw:

  • I cefnogi ac arwain treialon clinigol ar hap o ansawdd uchel, perthnasedd uchel ac effaith uchel sy'n mynd i'r afael ag anghenion cymunedau lleol ac yn genedlaethol, i wella iechyd a lles pobl ledled Cymru, ac yn rhyngwladol.
  • I gweithio mewn partneriaeth 芒 defnyddwyr gwasanaeth, ymchwilwyr, darparwyr GIG lleol a phartneriaid trydydd sector yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, i ddarparu ymchwil glinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac yn wyddonol gadarn sy'n diwallu anghenion defnyddwyr terfynol.
  • I datblygu'r sgiliau a gwybodaeth y pobl sy'n cymryd rhan, ac sydd 芒 diddordeb, mewn treialon clinigol, i adeiladu gallu ymchwil a helpu i dyfu gweithlu cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
  • I arwain a chyfrannu at ymchwil fethodolegol i wella dilysrwydd, ansawdd ac effeithlonrwydd dyluniad treialon.
  • I addysgu'r cyhoedd a gwella dealltwriaeth o dreialon clinigol, er mwyn adeiladu ymddiriedaeth i helpu i sicrhau ein bod yn cael y triniaethau mwyaf effeithiol i'r rhan fwyaf o bobl, yn y ffordd fwyaf effeithlon.
  • I ymgorffori myfyrio a dysgu ar draws ein holl wasanaethau, i hyrwyddo a chyflawni rhagoriaeth a gwelliant parhaus.

Ein hanes

Tyfodd NWORTH allan o uned ymchwil o fewn yr hen Sefydliad Ymchwil Gofal Meddygol a Chymdeithasol a chafodd ei sefydlu'n ffurfiol ac enillodd achrediad yn 2007 gyda'r cylch gwaith o werthuso ymyriadau gofal iechyd cymhleth a chyflwyno ymchwil sydd 芒'r potensial i wella iechyd y gymuned leol ac ymhellach. Fe wnaethom ganolbwyntio ar wella y nifer, ansawdd a chynnydd treialon pragmatig a gynhaliwyd yng Nghymru neu a arweiniwyd o Gymru. O ganlyniad, yn 2007, daeth NWORTH yn un o'r unedau treialon yng Nghymru i gael (Cydweithrediad Ymchwil Clinigol y DU), ar 么l dangos yn llwyddiannus hanes cryf o gydlynu treialon rheoledig ar hap aml-ganolfan ar raddfa fawr, a systemau a phrosesau sicrhau ansawdd cadarn i sicrhau bod cynnal a chyflwyno ein treialon clinigol yn cyrraedd y safonau ansawdd uchaf. Ers hynny, mae NWORTH wedi llwyddo i gynnal achrediad UKCRC, sydd wedi'i gadarnhau gan Bwyllgor Adolygu Rhyngwladol o arbenigwyr, sy'n adlewyrchu'r rhagoriaeth ymchwil sydd wedi'i hymgorffori yn yr Uned.

Ers sefydlu NWORTH, rydym wedi tyfu i fod yn d卯m craidd o staff arbenigol, sydd ag arbenigedd ar draws rheoli treialon, arweinyddiaeth gweithrediadau, ystadegau, sicrhau ansawdd, rheoli data a systemau TG. Rydym i gyd wedi ymrwymo i gydweithio ag ymchwilwyr, i hyrwyddo ymchwil glinigol ac gwella gofal cleifion.