Ers y lansiad ym mis Tachwedd 2024, gwnaed dros 900,000 o chwiliadau gan ddefnyddio Ecosia ar ddyfeisiau鈥檙 brifysgol.
Yn seiliedig ar gyfrifiad Ecosia, mae鈥檔 cymryd tua 50 o chwiliadau i dalu am blannu un goeden, ac felly mae defnydd Prifysgol 亚洲色吧 o'r peiriant chwilio wedi cynhyrchu'r hyn sy'n cyfateb i 20 cae p锚l-droed o goed.
Newidiodd y brifysgol yr holl gyfrifiaduron a reolir yn ganolog i Ecosia fel rhan o'i hymrwymiad ehangach i gynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd ddechrau mis Tachwedd 2024.
Mae hyn wedi rhoi 亚洲色吧 ar frig rhestr o sefydliadau addysg uwch sy'n arloesi gyda dewisiadau digidol sy'n amgylcheddol gyfrifol.
Dywedodd yr Is-brofost, yr Athro Oliver Turnbull, a arweiniodd y newid i Ecosia: 鈥淢ae鈥檙 newid syml hwn wedi cael effaith mawr mewn blwyddyn.
鈥淢ae鈥檔 dangos beth sy鈥檔 bosib pan fydd cymuned prifysgol yn dod at ei gilydd gyda phwrpas cyffredin.鈥
鈥淢ae pob chwiliad ar-lein bellach yn gwneud cyfraniad bach ond pwysig at ailgoedwigo byd-eang ac mae hynny鈥檔 rhywbeth y gall ein myfyrwyr a鈥檔 staff deimlo鈥檔 wirioneddol falch ohono,鈥 ychwanegodd.
Mae Ecosia yn defnyddio elw a gynhyrchir trwy chwiliadau gwe i dalu am blannu coed mewn mannau lle mae bioamrywiaeth dan fygythiad, adfer tirweddau, cefnogi cymunedau a helpu mynd i'r afael 芒 newid yn yr hinsawdd.
Meddai鈥檙 Athro Christian Dunn, Dirprwy Is-ganghellor Cynorthwyol dros Gynaliadwyedd: 鈥淢ae newid i Ecosia wedi dangos nad oes rhaid, o reidrwydd, gwneud dim byd cymhleth i helpu鈥檙 amgylchedd.
鈥淢ae brwdfrydedd ein myfyrwyr - a awgrymodd ein bod yn defnyddio Ecosia - wedi bod yn ysbrydoliaeth, ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y llwyddiant hwn gyda mwy o fentrau o fudd i natur yn y flwyddyn nesaf.鈥
Canmolodd Fred Henderson, Rheolwr Llwyddiant Defnyddwyr Ecosia, Brifysgol 亚洲色吧, gan ddweud: 鈥淢ae鈥檔 wych gweld myfyrwyr a staff 亚洲色吧 yn arwain y ffordd a phlannu dros 18,000 o goed drwy newid eu cyfrifiaduron i ddefnyddio Ecosia yn unig - rhywbeth y gall unrhyw gwmni, ysgol neu brifysgol ei wneud i gael effaith.鈥
鈥淢ae Prifysgol 亚洲色吧 yn gwneud cyfraniad anhygoel at ymladd yn erbyn yr argyfwng hinsawdd a natur,鈥 ychwanegodd.
Bydd Prifysgol 亚洲色吧 yn parhau i weithio gyda staff, myfyrwyr a phartneriaid lleol ar y gyfres nesaf o fentrau cynaliadwyedd a mentrau o fudd i natur ar draws y brifysgol.