Myfyrwyr israddedig a 么lraddedig - gallwch dalu ffioedd eich llety yn llawn pan gyrhaeddwch neu wrth gofrestru, neu mewn rhandaliadau drwy ddebyd uniongyrchol neu gyda cherdyn credyd. Manylion llawn ar gael ar wefan y Swyddfa Gyllid.
POLISI A GWEITHDREFN RHEOLI CREDYD Y NEUADDAU PRESWYL
Dyma nodi'r weithdrefn i'w dilyn ar gyfer rheoli dyledion y myfyrwyr preswyl. Polisi'r Brifysgol yw lleihau dyledion ar bob lefel gan sicrhau bod myfyrwyr yn cael cymorth priodol i dalu'r ffioedd sy'n ddyledus mewn da bryd. Mae'r weithdrefn yn ymwneud 芒 holl ffioedd y neuaddau a'r taliadau preswyl ychwanegol sy'n daladwy i'r Brifysgol. Datblygwyd Polisi a Gweithdrefn Rheoli Credyd y Neuaddau Preswyl i alluogi'r Brifysgol i reoli dyledion yn effeithlon ac yn effeithiol.
Wrth roi'r weithdrefn ar waith, bydd y Brifysgol bob amser yn ceisio arfer cydymdeimlad a dealltwriaeth o amgylchiadau ariannol y myfyriwr. Er mwyn i'r Brifysgol roi'r weithdrefn ar waith gyda chydymdeimlad, rhaid i fyfyrwyr roi gwybod i'r Brifysgol mewn da bryd os ydynt yn cael trafferthion ariannol. Dylai'r myfyrwyr hynny sy'n cael trafferth talu ffioedd a thaliadau eu llety ofyn am gymorth cyn gynted 芒 phosibl trwy gysylltu 芒'r:
- Swyddfa Neuaddau - 01248 382667 neuaddau@bangor.ac.uk
- Y Swyddfa