Mae gallu rheoli eich arian a dysgu sut i gynllunio ar gyfer talu rhent, biliau cyfleustodau, llyfrau, bwyd a chostau hanfodol eraill yn bwysig er mwyn osgoi pryderon ariannol sy'n effeithio ar eich astudiaethau.
Dyma rai awgrymiadau i'ch helpu gyda chyllidebu:
1.- Creu cyllideb
Rydym yn awgrymu eich bod yn creu cyllideb ar gyfer pob tymor oherwydd gall amrywio o ran hyd.
Fe welwch y Calendr Academaidd ar dudalen we’r Brifysgol hon: /student-administration/calendar/index.php.cy
2.- Gwnewch restr o'ch holl incwm
- Cyllid Myfyrwyr – cofiwch fod cyllid myfyrwyr fel arfer yn cael ei dalu i fyfyrwyr mewn 3 rhandaliad – Medi, Ionawr ac ar ôl y Pasg
- Cyllid y GIG – fel arfer yn cael ei dalu mewn rhandaliadau misol
- Bwrsariaethau
- Ysgoloriaethau
- Cyflogau
- Cynilion
- Cefnogaeth ariannol i'r teulu
- Arall
3.- Gwnewch restr o'ch holl gostau
- Rhent
- Biliau – trydan, nwy, cyfraddau Dŵr, Trwydded Deledu ac ati
- Bwyd
- Costau cysylltiedig â chyrsiau – teithiau maes, cotiau labordy ac ati
- Cymdeithasu
- Tanysgrifiadau – aelodaeth campfa, deintydd, lensys cyffwrdd ac ati
- Penblwyddi a Nadolig
- Teithio – adref ar gyfer ymweliadau neucostau leoliadau
- Ac unrhyw gost arall y gwyddoch sydd gennych
4.- Lawrlwythwch daflen gyllideb syml :
Os ydych yn dod i'r brifysgol yn syth o'r ysgol neu'r coleg, byddem yn eich cynghori i lunio cyllideb gyda'ch rhiant(rhieni) / gwarcheidwaid gan y gallant eich helpu.
Bydd hefyd yn helpu eich teulu i ddeall eich sefyllfa ariannol fel myfyriwr fel gallant eich helpu yn ariannol.
Gallwch Lawrlwytho taflen gyllideb Excel yma Dyma ffurflen cyllido gwag i’ch helpu plis creaqt link to budget sheet found on this webpage : /studentservices/moneyadvice/budgeting.php.cy
5.- Angen Help?
Os oes angen help arnoch i lunio cyllideb, neu os oes angen cyngor ariannol arnoch ar reoli eich arian, siaradwch ag aelod o staff yn yr Uned Cymorth Ariannol naill ai drwy e-bost: moneysupport@bangor.ac.uk neu ffoniwch: 01248 38 3566 / 3637 i drefnu cyfarfod.
Gallech hefyd gael mynediad at rai o’r gwefannau defnyddiol canlynol:
- Academy of Money Open Learn
o Mae gan bob myfyriwr fynediad i gwrs Dysgu Agored yr Academy of Money Open Learn a ddatblygwyd gan MoneySavingExpert Martin Lewis a'r Brifysgol Agored.
o Mae'r cyfle hyfforddi hwn yn darparu hyd at 12 awr o wybodaeth ac yn cynnig ardystiad ar ôl ei gwblhau.
o Cyrchwch y cwrs yma.
- Blackbullion : https://www.blackbullion.com/
- The Money Charity :
Mae cyfrifon banc myfyrwyr yn aml yn cynnwys cyfleuster gorddrafft di-log i fyfyrwyr. Mae gorddrafft yn golygu y gallwch fenthyg arian (hyd at swm penodol a gytunwyd ymlaen llaw) heb dalu llog. Bydd y rhan fwyaf o fanciau angen i’ch cyllid myfyriwr gael ei dalu i mewn i’r cyfrif hwnnw er mwyn creu cyfrif myfyriwr.
I weld a ydych yn gymwys ar gyfer cyfrif banc myfyriwr, holwch eich banc presennol neu siopiwch o gwmpas oherwydd gallai banciau gynnig cymhellion i chi agor cyfrif banc myfyriwr gyda nhw, fel cardiau disgownt neu dalebau.
Dewiswch gyfrif banc a fydd yn addas i chi a chofiwch ddarllen y T&Cs. Peidiwch â chael eich perswadio gan y gorddrafft neu’r cerdyn disgownt mwyaf.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwahanol gyfrifon sydd ar gael ar gael ar Save the Student : https://www.savethestudent.org/money/student-banking/student-bank-accounts.html neu Money Saving Expert https://www.moneysavingexpert. com/myfyrwyr/
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Mae cyfleuster gorddrafft y cytunwyd arno yn gadael i chi fenthyca arian ychwanegol drwy eich cyfrif cyfredol.
Er enghraifft, os nad oes gennych unrhyw arian ar ôl yn eich cyfrif a’ch bod yn gwario £50, balans eich cyfrif fyddai -£50. Mae hyn yn golygu eich bod yn defnyddio gorddrafft.
Dyma rai awgrymiadau i wneud i’ch gorddrafft fynd ymhellach:
- Gall mynd y tu hwnt i'ch terfyn gorddrafft a drefnwyd arwain at daliadau a gall effeithio ar eich sgôr credyd.
- Defnyddiwch eich cyfrif myfyriwr a gorddrafft yn afalus bob amser.
- Sicrhewch eich bod yn gwybod terfyn eich gorddrafft
- PEIDIWCH BYTH â mynd dros eich terfyn gorddrafft!
- Ewch i'r arfer o wirio'ch balans banc yn rheolaidd er mwyn osgoi mynd dros eich terfyn gorddrafft a gorfod talu gostau.
- Cofiwch, mae'n rhaid talu'r arian rydych chi'n ei fenthyg yn ôl yn y pen draw. Gofynnwch a fydd eich banc yn trosi eich cyfrif myfyriwr yn gyfrif graddedig ar ddiwedd eich gradd. Efallai y bydd gan gyfrif graddedig orddrafft di-log am gyfnod penodol o amser a gallai roi mwy o amser i ad-dalu’r arian a fenthycwyd gennych gan ddefnyddio’r cyfleuster gorddrafft.
I gael rhagor o wybodaeth am orddrafftiau cliciwch ar y ddolen hon: https://www.moneyhelper.org.uk/cy/everyday-money/credit/overdrafts-explained
Am ragor o gymorth a chefnogaeth cysylltwch â'r Uned Cymorth Ariannol yn moneysupport@bangor.ac.uk
Cerdyn talu/ap yw cerdyn credyd fel arfer yn cael ei roi gan fanciau neu sefydliadau ariannol i ganiatáu i ddefnyddwyr brynu nwyddau neu wasanaethau ar gredyd (i'w dalu yn ddiweddarach). Efallai y byddwch yn talu llog ar eich gwariant yn enwedig os nad ydych yn talu balans y cerdyn credyd yn llawn pan fyddwch yn derbyn cyfriflen.
Dyma rai awgrymiadau i wneud i'ch Cardiau Credyd Fynd Ymhellach:
- Defnyddiwch eich cerdyn credyd ar gyfer anghenion, nid dymuniadau.
- Talwch y balans bob mis fel arall byddwch yn talu llog. Os na allwch fforddio ad-dalu'r balans yn llawn mae'n rhaid i chi dalu'r isafswm o leiaf, ond cofiwch fyddwch chi ddim yn lleihau'r ddyled.
- PEIDIWCH BYTH ag anwybyddu taliad – gan y bydd hyn yn arwain at ffi talu'n hwyr a gall gael effaith negyddol ar sgôr credyd.
- Arhoswch o dan 30% o ufachsw eich cerdyn credyd.
- Defnyddiwch gardiau credyd i brynu eitemau drud sy'n werth dros £100 - amddiffyniad ychwanegol - ond dim ond os gall