Dod o hyd i'r brifysgol perffaith i chi
Mi fyddwch chi eisiau gwneud y penderfyniad iawn, felly gwnewch yn siwr eich bod chi鈥檔 gwneud eich ymchwil i ddod o hyd i'r dewis iawn i chi. Meddyliwch am y pynciau yr ydych chi鈥檔 eu mwynhau ar hyn o bryd a sut fath o swydd yr hoffech chi ei gael ar y diwedd.
Cadwch feddwl agored a pheidiwch ag anghofio edrych ar bynciau tebyg e.e. os ydych chi'n hoff o Fioleg, edrychwch ar gyrsiau fel Bioleg M么r a S诺oleg nes i chi ddod o hyd i'r cwrs sy'n fwyaf addas i chi.
Ar 么l i chi benderfynu ar y math cywir o gwrs, edrychwch ar y gwahanol brifysgolion sy'n cynnig yr hyn rydych chi'n edrych amdano. Cofiwch, er y dylai cynnwys ac ansawdd y cwrs fod yn uchel ar eich rhestr o flaenoriaethau, mae cymaint o bethau eraill i'w hystyried wrth ddewis y brifysgol berffaith i chi. Byddwch yn treulio llawer o'ch amser y tu allan i'r ystafell ddarlithio felly meddyliwch am y lleoliad, y bywyd cymdeithasol a'r llety sydd ar gael.
Cyfryngau Cymdeithasol a鈥檙 we
Ffordd wych o ddysgu mwy am yr holl brifysgolion gwahanol a'u cyrsiau yw mynd ar-lein ac ymweld 芒'u gwefannau. Byddwch chi'n gallu cael teimlad o'r brifysgol, gweld lluniau a gwylio fideos a fydd yn dweud mwy wrthych chi am sut beth yw astudio yno.
Mae hefyd yn awgrym da i ddilyn prifysgolion ar Facebook, Twitter, Instagram a Snapchat i gael yr holl newyddion, fideos, blogiau a lluniau diweddaraf.
Archebu Prospectws
Os byddai'n well gennych gael copi caled o'r holl wybodaeth, archebwch brospectws o wefan y brif