Mae angen trwydded barcio ar unrhyw un sy'n dymuno parcio ym meysydd parcio'r brifysgol ym Mangor, Porthaethwy a Wrecsam.
Mae trwyddedau parcio ar gael am ddim ar hyn o bryd tra bod y brifysgol yn adolygu ei ffioedd, rhoddir rhybudd ymlaen llaw cyn ailgyflwyno taliadau. Bydd parcio yn parhau i fod am ddim i ddeiliaid bathodyn glas.
Mae parcio ar gael ar draws yr ystad ond nid yw pob maes parcio ar gael i fyfyrwyr. Gweler y Map Campws ar-lein am ragor o wybodaeth. P'un a ydych yn byw mewn neuaddau neu'n teithio鈥檔 么l ac ymlaen bob dydd, bydd eich trwydded yn caniat谩u ichi barcio mewn unrhyw faes parcio dynodedig i fyfyrwyr. Defnyddiwch leoedd parcio wedi eu marcio yn unig gan osgoi llinellau melyn dwbl a mannau gyda llinellau croes. Cofiwch, nid yw鈥檙 ffaith bod gennych drwydded yn golygu y bydd lle parcio ar gael i chi.
Ar ddydd Llun 1 Medi, 2025 bydd dolen ar gael ar y dudalen hon i chi wneud cais am eich trwydded 2025/26.
Peidiwch 芒 gwneud cais am drwydded nes bod eich cofrestriad wedi ei gwblhau a bod eich rhif adnabod myfyriwr gennych (rhif 500) a byddwch yn ofalus wrth nodi eich manylion. Mae'r ffurflen yn gofyn am eich cyfeiriad yn ystod y tymor, a dyma lle byddwn yn anfon eich trwydded. Os byddai'n well gennych i'ch trwydded gael ei danfon i'ch neuadd breswyl, disgwyliwch nes bod manylion eich ystafell wedi eu cadarnhau cyn gwneud cais.
Rydym yn cynnig cyfnod o ras i roi cyfle i fyfyrwyr ymgartrefu a chael eu trwyddedau parcio. Daw'r cyfnod o ras i ben ar dydd Gwener 24 Hydref 2025.
Os ydych yn ddeiliad bathodyn glas neu'n fyfyriwr ag anghenion parcio cysylltiedig 芒 nam, mae cymorth pellach ar gael trwy Gynllun Cymorth Dysgu Personol. Os hoffech drafod anghenion parcio yn ymwneud ag anabledd/nam, cysylltwch 芒鈥檙 Gwasanaethau Anabledd.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach rydym yma i helpu, cysylltwch 芒 Desg Gymorth Gwasanaethau Campws neu ffoniwch 01248 382783.
Caniatewch saith niwrnod gwaith i ni brosesu eich cais.