Llygredd golau arfordirol
Ydych chi erioed wedi meddwl sut y gall llygredd golau yn ein trefi arfordirol effeithio efallai ar greaduriaid y m么r?
Mae'r Ysgol Gwyddorau Eigion ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn arwain project newydd pedair blynedd a gyllidir gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, a fydd yn gwella ein dealltwriaeth o'r ffordd mae llygredd golau o drefi a dinasoedd arfordirol yn effeithio ar fywyd ar hyd ein glannau.
Mae'r project Artificial Light Impacts on Coastal Ecosystems (ALICE) yn un o 14 sy'n derbyn cyfanswm o 拢24M gan NERC ym mhedwaredd rownd Highlight Topics, sy'n cyllido ymchwil newydd i faterion amgylcheddol o bwys.
Mae ALICE yn cyfuno arbenigedd orau'r byd ym meysydd llygredd golau ecolegol, bioleg larf芒u, ecoleg benthig m么r, bioleg m么r drofannol, a chefnforeg optegol o Brifysgol 亚洲色吧, Labordy M么r Plymouth, Prifysgol Southampton a Phrifysgol Strathclyde i fynd i'r afael 芒 bylchau sylfaenol yn ein dealltwriaeth o ymatebion ecosystem arfordirol i oleuadau artiffisial yn y nos.
Bydd yr ymchwil bedair blynedd yn dadansoddi sut y gall llygredd golau newid ymddygiadau nifer o greaduriaid arfordirol, gan effeithio ar sut ac ymhle maent yn ymgartrefu, eu diet a'u hatgenhedlu, ymhlith pethau eraill. Bydd y wybodaeth a geir o efelychiadau labordy gyda lefelau golau gwahanol yn bwydo modelau a fydd yn dweud wrthym sut y bydd ein cynefinoedd arfordirol yn newid dros yr hanner canrif nesaf - hynny yw, os na wnawn ni ddim i gwtogi ein llygredd golau
Eglurodd Dr Thomas Davies, Prif Ymchwilydd project ALICE:
"Bellach gellir canfod golau artiffisial o drefi a dinasoedd arfordirol uwchben 22% o arfordiroedd y byd bob nos. Mae'r ardaloedd hyn yn debygol o dyfu hyd yn oed ymhellach, gan fod canolfannau poblogaeth arfordirol yn debygol o ddyblu erbyn 2060.
Gwyddom fod llawer o greaduriaid m么r ger yr arfordir yn hynod o sensitif i oleuni, ac maent wedi ymaddasu fel bod cylchoedd golau'r lleuad yn effeithio ar wahanol agweddau ar eu bywydau. Mae potensial mawr i olau artiffisial o'n dinasoedd arfordirol, porthladdoedd, harbwrs a marinas ymyrryd 芒 chylcho