Diwrnod Gwerthfawrogi Cyfranogwyr
NeuroSKILL yn cynnal diwrnod gwerthfawrogi cyfranogwyr ymchwil ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Cynhaliwyd diwrnod gwerthfawrogi aelodau o'r gymuned sydd wedi cymryd rhan mewn ymchwil seicoleg ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gan y rhaglen NeuroSKILL ar 29 Awst. Dr Mullins yn rhoi cyflwyniad am y project NeuroSKILL i gyfranogwyr ymchwil Croesawyd cleifion ac aelodau o'r gymuned leol sydd wedi cymryd rhan mewn astudiaethau ymchwil i'r digwyddiad yn Adeilad Brigantia. Trwy gyfres o sgyrsiau addysgiadol gan ymchwilwyr a myfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 cawsant wybod am rywfaint o'r ymchwil sy'n cael ei wneud a chanlyniadau'r astudiaethau hyn. Roedd y diwrnod hefyd yn ffordd o ddweud diolch wrth aelodau'r gymuned a grwpiau o gleifion sydd wedi cymryd rhan fel gwirfoddolwyr yn yr astudiaethau ymchwil. Diolchodd Dr Paul Mullins a Dr Robert Rafal i'r rhai a oedd yn bresennol am eu hamser a'u cyfraniad at ymchwil i ddelweddu ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Meddai Dr Mullins wrth y cyfranogwyr, "Ni allem wneud y gwaith heb eich cyfraniad chi, ac mae eich cyfraniad yn fwy na dim ond helpu cwpl o ymchwilwyr ym Mangor i wneud eu hastudiaethau gan y bydd yn arwain at ddulliau a thriniaethau newydd mewn gwyddorau clinigol a gwybyddol."
Clywodd y rhai a oedd yn bresennol am nifer o raglenni ymchwil yr oedd eu cyfranogiad wedi helpu i'w hwyluso. Cyflwynodd Dr Paul Mullins y project NeuroSKILL a rhoddodd wybodaeth am astudiaethau sydd ar y gweill fel rhan o'r rhaglen hon. Bu'r myfyrwyr PhD Karolina Rusiak a Kristin Koller yn s么n wrth y cyfranogwyr am yr ymchwil y maent yn ei wneud, a'r canlyniadau maent wedi eu cael.
Cyflwynodd Karolina ei gwaith am niwrogemeg a chysylltedd yr ymennydd mewn heneiddio a dementia, gan ddangos canlyniadau diweddar o ddirywiad mewn niwrogemegau penodol wrth heneiddio. Trafododd Kristin ei gwaith yn defnyddio tractograffeg trylediad i nodi a mesur y llwybrau gwynnin sy'n gysylltiedig ag ymatebion anweledol i ysogogiadau gweledol.
Cafodd y cyfranogwyr olwg gyffredinol ar ganolfan niwrowyddoniaeth glinigol a gwybyddol Wolfson gan yr Athro Robert Rafal a sut yr oedd cysylltiad y cyfranogwyr