Troi caeau gwartheg yn goedwigoedd
Coedwigoedd gorllewin yr Andes yn dangos gwahanol gamau o adnewyddiad, ac yn gymysg a phorfa gwartheg.: Llun:Paul WoodcockYn 么l papur sydd newydd ei gyhoeddi yn y cyfnodolyn, , mae troi caeau gwartheg yn goedwigoedd yn ffordd rad o fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd ac arbed rhywogaethau sy'n wynebu difodiant.
Fe wnaeth ymchwilwyr wneud arolwg o stociau carbon, bioamrywiaeth a gwerthoedd economaidd o un o'r ecosystemau sydd dan fwyaf o fygythiad yn y byd, sef gorllewin yr Andes yn Colombia.
Defnyddir y tir yn bennaf yn yr ardaloedd hyn i fagu gwartheg, ond dangosodd yr astudiaeth y gallai ffermwyr wneud yr un faint o arian, neu hyd yn oed fwy, trwy adael i'w tir aildyfu'n naturiol.
Gyda'r marchnadoedd carbon sydd wedi'u sefydlu i atal cynhesu byd-eang, byddent yn cael eu talu i newid defnydd eu tir o fagu gwartheg i dyfu carbon - gan dderbyn tua US$1.99 am bob tunnell o garbon deuocsid y byddai'r coed a dyfid ganddynt yn ei dynnu o'r atmosffer.
Mae鈥檙 euryn torchog yn byw mewn ardal fechan o鈥檙 Andes yng ngorllewin Colombia ac yn rhestredig fel rhywogaeth mewn perygl ar Restr Goch yr IUCN. Llun: GilroyByddai hyn o gymorth hefyd i roi hwb i boblogaethau llawer o rywogaethau sydd dan fygythiad difrifol.
Mae peth adnoddau ariannol ar gael i fynd i'r afael 芒 newid hinsawdd a cholli bioamrywiaeth, felly mae angen symud yn