Taflu Goleuni ar Newid yn yr Hinsawdd
Wrth i 26ain Cynhadledd Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig (Cop26) gael ei chynnal yn Glasgow, mae gwledydd yn dechrau canolbwyntio ar gynlluniau “gwyrddach a gwell” a chyfyngu ar y cynnydd mewn tymheredd byd-eang i 1.5C. Mae’r cyfeiriad yn newid wrth i'r byd symud tuag at dargedau sero net, diogelu'r amgylchedd ac adfer bioamrywiaeth mewn ffordd ddigynsail.
I lawer, mae newid yn yr hinsawdd a'r ymchwil gwyddonol cymhleth yn y maes yn aml yn ddryslyd ac yn ddirgel - dyma lle mae project wedi ei gynllunio i helpu.
Dan arweiniad Dr Shelagh Malham ym Mhrifysgol 亚洲色吧, roedd project (2017 i 2021) yn canolbwyntio ar ranbarth Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd a'i nod oedd darparu strategaethau i addasu i newid yn yr hinsawdd ledled y rhanbarth er budd cymunedau arfordirol. Roedd BLUEFISH yn asesu a lledaenu gwybodaeth am y risgiau a'r cyfleoedd i bysgod a physgod cregyn masnachol mewn gwahanol senarios yng nghyd-destun newid yn yr hinsawdd.
Meddai Shelagh:
“Mae Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd, fel arfordiroedd, moroedd a chefnforoedd eraill ledled y byd yn hanfodol i fywyd ar y blaned. Rhaid dod o hyd i atebion a'u gweithredu ar frys er mwyn gwarchod ein hecosystemau morol a'n planed i genedlaethau'r dyfodol.”
Arweiniodd y Sefydliad Morol Gweithgaredd 2.4 Nwyddau a Gwasanaethau Ecosystem a oedd yn canolbwyntio ar drosglwyddo gwybodaeth i randdeiliaid, yn cynnwys polisi a diwydiant ar y nwyddau a'r gwasanaethau a ddarperir gan ecosystem Môr Iwerddon a’r Môr Celtaidd i gymunedau arfordirol Iwerddon a Chymru ac i'r gymdeithas ehangach. Roedd pwysigrwydd taflu goleuni ar gysyniadau newid yn yr hinsawdd a chyfleu perthnasedd ymchwil gwyddonol cymhleth i'r gymuned ehangach o'r pwys mwyaf. Trwy gysylltu celf a gwyddoniaeth i ddangos ac egluro nwyddau a gwasanaethau’r ecosystem ac i ddarlunio effeithiau credadwy newid yn yr hinsawdd, datblygwyd casgliad sylweddol o waith celf a ffeithluniau sy'n unigryw i BlueFish.
Meddai Dr Paul Connolly, Prif Swyddog Gweithredol y Sefydliad Morol:
“Mae newid yn yr hinsawdd yn gofyn am fuddsoddiad cyhoeddus sylweddol er mwyn ei wrthdroi. Ni fydd yn bosib i’r buddsoddiad hwn ddigwydd os nad yw'r cyhoedd yn gefnogol, ac ni fydd modd ennill cefnogaeth os nad yw pawb yn deall y problemau sy’n dod yn sgil newid yn yr hinsawdd. Gall defnyddio celf i gysylltu â phobl fod yn ffordd effeithiol o newid agweddau ac ennill cefnogaeth i’r gweithredoedd cymdeithasol sy'n angenrheidiol i wyrdroi effeithiau newid yn yr hinsawdd”.
Gan fod cyfleoedd i fynd ar daith o amgylch arddangosfa BlueFish yn 2020 a 2021 wedi cael eu heffeithio’n fawr gan y cyfyngiadau Covid-19, mae’r Sefydliad Morol bellach yn cyflwyno’r casgliad llawn o weithiau celf trwy