Proffil Unigolyn sy'n Graddio: Emma Watson
Aeth Emma Watson, 24, o Wrecsam, i Goleg Cambria cyn graddio o Brifysgol 亚洲色吧 gyda gradd mewn S诺oleg a Chadwraeth.
Sut mae'n teimlo i fod ar fin graddio?
Mae'n rhyfeddol, mae wedi bod yn amser hir yn dod ac rydw i mor falch bod yr holl waith caled wedi talu ffordd o'r diwedd!
Cefndir...
Roeddwn i eisiau astudio S诺oleg yn y brifysgol erioed, ond dim ond gradd C mewn Gwyddoniaeth TGAU y llwyddais i'w gael ac roeddwn angen B i astudio Bioleg Lefel A. Er fy mod wedi cael B mewn Bioleg, nid oedd hynny'n ddigon, felly fe wnes i gynilo arian a thalu i ailsefyll fy arholiadau TGAU Gwyddoniaeth ar yr un pryd 芒'm harholiadau Lefel AS. Yn anffodus, cefais union yr un marc 芒'r flwyddyn flaenorol, felly gadawais y coleg hanner ffordd drwy'r ail flwyddyn. Gweithiais am ychydig flynyddoedd mewn manwerthu a gadewais swydd goruchwyliwr i ddilyn cwrs Mynediad i Addysg Uwch yn fy ngholeg lleol. Ar 么l blwyddyn llwyddais i ennill y cymwysterau angenrheidiol i astudio S诺oleg gyda Chadwraeth ym Mangor.
Pam 亚洲色吧?
Gan mai fi oedd y cyntaf o'm teulu i fynd i'r brifysgol, roeddwn eisiau mynd i rywle agos ond heb fod yn rhy agos, ac ar 么l bod yn y Diwrnod Agored (ar Galan Gaeaf) syrthiais mewn cariad 芒'r brifysgol a'r ddinas. Hefyd, roedd y cyfle i fynd i Dde Affrica ar daith maes yn demtasiwn mawr!
Gweithio wrth astudio...
Gweithiais drwy gydol cyfnod fy nghwrs a theithio o Wrecsam i Fangor bob dydd. Roedd gweithio a theithio yn anodd ond yn angenrheidiol, felly wnes i erioed hel meddyliau amdano.
Profiad fel Myfyriwr...
Cefais le ar y daith maes i Dde Affrica yn 2017 a dyna oedd amser gorau fy mywyd. Yna gofynnwyd imi fynd ar daith maes arall i Uganda yn 2018 fel cynorthwyydd maes yn helpu'r flwyddyn oddi tanom gyda'u gwaith. Gwirfoddolais gyda'r Llinell Gymorth Genedlaethol i Ystlumod a hefyd yn Sw Mynydd Cymru trwy gydol fy nghyfnod yn y brifysgol. Rhoddodd fy nhraethawd hir ar f么r-wenoliaid bach yng Ngronant brofiad ymarferol i mi yn ogystal 芒'r cyfle i greu rhwydwaith o gysylltiadau. Cefais ddigon o wybodaeth yn sgil fy nhraethawd hir i wneud cais am swydd warden gyda Chyngor Sir Ddinbych yr haf hwn, ac fe gefais y swydd!