Myfyriwr doethuriaeth yn mynychu lansiad adroddiad seneddol ar newyn
Mae myfyriwr doethuriaeth a gyfrannodd dystiolaeth at adroddiad seneddol pwysig ar newyn yn y Deyrnas Unedig wedi bod yn Llundain yn lansio'r ddogfen ddilynol.
Mae doethuriaeth David Beck yn edrych ar dwf banciau bwyd yng Nghymru. Cafodd ei wahodd yn wreiddiol i rannu canfyddiadau ei ymchwil doethurol ger bron Gr诺p Seneddol Trawsbleidiol ar Newyn. Cyhoeddodd y Gr诺p Seneddol eu harchwiliad i newyn yn y Deyrnas Unedig ym mis Rhagfyr 2014.
David Beck, myfyriwr doethuriaeth (chwith), gyda Frank Fields, AS Penbedw, yn mynychu lansiad yr adroddiad diweddaraf gan Gr诺p Seneddol Trawsbleidiol ar Newyn
Roedd ei ymchwil, a gasglwyd o blith cyfweliadau 芒 defnyddwyr banciau bwyd a gwirfoddolwyr ledled Cymru, yn dangos bod cysylltiad rhwng twf banciau bwyd a'r mesurau llymder a gyflwynwyd gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig.
Daeth yr ymchwiliad i'r casgliad bod tlodi bwyd yn broblem wirioneddol yn y Brydain sydd ohoni, ac yn cynnig y dylid ffurfio corff yn seiliedig ar y "mudiad banciau bwyd", adrannau'r llywodraeth a'r ffigurau perthnasol eraill.
Defnyddiwyd ymchwil David unwaith yn rhagor wrth baratoi鈥檙 adroddiad dilynol a chafodd yr adroddiad hwnnw ei lansio yn San Steffan ddydd Iau, 10 Rhagfyr gyda chyflwyniad gan Justin Welby, Archesgob Caergaint.
Mae'n dangos bod y sefyllfa wedi gwella mymryn yn dilyn gwneud yr argymhellion cychwynnol, ond y bydd gwelliannau tymor hir efallai'n cymryd blynyddoedd lawer i'w cyflawni.
Cafodd David ei wahodd i'r digwyddiad lansio yn Portcullis House gan Frank Fields, AS Penbedw a chydawdur y ddau adroddiad, sef y g诺r y cyflwynodd David werth 18 mis o ymchwil iddo.
鈥淢ae diffyg tystiolaeth yngl欧n 芒 thlodi bwyd a thwf y banciau bwyd, a dyna pam y daeth APPG i gyswllt 芒 fi鈥, eglurodd David sydd yn wreiddiol o Bolton. 鈥淲rth wneud fy ymchwil daeth yn amlwg bod twf y banciau bwyd yn gysylltiedig 芒 thwf mewn tlodi bwyd a'r ffaith nad oes gan bobl fynediad at ddigon o fwyd. Y rheswm pennaf dros hyn yw bod pobl yn dioddef oherwydd system fudd-daliadau gosbol.鈥
鈥淩hwng 1998 a 2010, o dan y Llywodraeth Lafur, roedd 16 banc bwyd yng Nghymru. Ers 2010, o dan y Llywodraeth Geidwadol, mae'r nifer wedi codi i 157.鈥
Mae David yn gwirfoddoli ym manc bwyd Eglwys Gadeiriol 亚洲色吧, sef un o blith nifer o fanciau bwyd lleol ac annibynnol a fynychodd y digwyddiad. 鈥淵n y gynulleidfa roedd cyrff eraill hefyd a oedd wedi cyflwyno tystiolaeth, gan gynnwys y Gr诺p Gweithredu ar Dlodi Plant, Cristnogion yn Erbyn Tlodi, FaresShare ac Ymddiriedolaeth Trussell. Roedd eu hymateb i'r lansiad yn ffafriol iawn.鈥
Mae David yn nhrydedd flwyddyn ei ddoethuriaeth, sy'n dwyn y teitl 'The Changing Face of Food Poverty'.
Dyddiad cyhoeddi: 17 Rhagfyr 2015