Graddedigion 亚洲色吧 yn gwneud gwahaniaeth ar broject World Challenge
Mae dau o gyn-fyfyrwyr Prifysgol 亚洲色吧 yn gweithio ar broject amgylcheddol ym Madagascar, sydd ar restr fer ar gyfer World Challenge. Cystadleuaeth fyd-eang yw hon i ganfod projectau neu fusnesau bychain o amgylch y byd sydd wedi dangos mentergarwch ac arloesedd ar lefel sylfaenol. 鈥淔el menter gymdeithasol rydym yn cael ein hysgogi gan ein nod o greu dulliau newydd a chynaliadwy o gyllido a gweithredu mentrau cadwriaethol,鈥 meddai Gildas Andriamalala, swyddog ymestyn allan Blue Ventures yn ne Madagascar. 鈥淢ae鈥檙 mentrau hyn yn rhoi cyfle i bobol leol bennu eu dyfodol eu hunain, ac mae ein gwaith yn rhoi cymorth i gymunedau arfordirol yn rhai o鈥檙 ardaloedd mwyaf difreintiedig wrth iddynt wynebu sialens dirywiad adnoddau m么r.鈥 Lluniwyd y rhestr fer gan y beirniaid allan o dros 800 o enwebiadau, gan gydnabod bod gwaith Blue Ventures ym Madagascar yn dystiolaeth rymus o鈥檙 modd y gall menter gymdeithasol fod yn hwb effeithiol i ddatblygu mentrau cadwraeth cynaliadwy. Pleidleisiwch dros eich hoff broject cyn 12 Tachwedd 2010 yn:
Sean Clement ym Madagascar
Graddiodd Sean Clement mewn Bioleg M么r/Cefnforeg yn Ysgol Gwyddorau Eigion Prifysgol 亚洲色吧, sydd wedi dod i fri鈥檔 rhyngwladol, a Jennifer Craighill mewn S诺oleg gyda S诺oleg M么r o鈥檙 Ysgol Gwyddorau Biolegol, sydd hefyd ac enw da iddi. Graddiodd y ddau yr un flwyddyn (2007) a bellach maent ill dau yn gweithio fel gwyddonwyr maes ar yr un project ym Madagascar i gwmni Blue Ventures.
Mae Project Blue Ventures, 鈥極ne Reef at a Time鈥, yn gweithio efo cymunedau lleol sy鈥檔 byw ar gyrion r卯ffau cwrel Madagascar, gan eu galluogi i greu bywoliaethau cynaliadwy.
Swyddogaeth y gwyddonwyr maes yw hyfforddi鈥檙 gwirfoddolwyr brwd mewn technegau ymchwil m么r, i arwain a chyfeirio鈥檙 ymchwil a monitro ar y safle. Maent hefyd yn gyfrifol am roi gwybod am y canlyniadau trwy adroddiadau, cyhoeddiadau a chyflwyniadau i鈥檙 gymuned a鈥檙 gymuned wyddonol.
Meddai Sean Clement: 鈥淢ae Blue Ventures yn unigryw wrth ystyried anghenion cymunedau economegol ddifreintiedig yn ysbrydoliaeth ar gyfer cadwraeth r卯ffau de orllewin Madagascar. Mae gweithio mewn mannau mor anghysbell efo pysgotwyr a gwragedd, sydd ddim yn unig yn deall pwysigrwydd datblygu pysgodfeydd cynaliadwy yn y rhanbarth, ond sydd hefyd yn brwydro i gyflawni hynny, yn aml ar gost fawr iddynt eu hunain, wedi bod yn brofiad anhygoel i mi ac mae gen i obeithion mawr am ddyfodol r卯ffau cwrel Madagascar a dyfodol y dynion a鈥檙 merched sy鈥檔 dibynnu arnynt.鈥
Jennifer Craighill
Meddai鈥檙 Athro Colin Jago, Pennaeth Coleg Gwyddorau Naturiol Prifysgol 亚洲色吧: 鈥淪ialens amgylcheddol ein hoes yw sut i hybu ansawdd bywyd gwell i bobol wrth gynnal cynaladwyedd amgylcheddol. Mae hyn yn arbennig o allweddol mewn amgylcheddau arfordirol sydd dan bwysau cynyddol oherwydd gweithgareddau dynol a newid hinsawdd. Mae gan ein graddedigion y wybodaeth wyddonol a鈥檙 sgiliau cyfathrebu i fedru gwneud gwahaniaeth mawr yn y maes ac mae hyn yn esiampl wych o鈥檙 ffordd y gallant ddefnyddio eu sgiliau yn ymarferol. Rwy鈥檔 dymuno pob llwyddiant iddynt gyda鈥檙 her hon ac yn eu gyrfaoedd yn y dyfodol.鈥
Dyddiad cyhoeddi: 9 Tachwedd 2010