Adar o'r unlliw a hedant i'r unlle - Map magnetig telorion cyrs
Teloy y gors: Gan Martien Brand o Mari毛nberg, Yr Iseldiroedd (29601 Kleine Karekiet / Reed Warbler) [CC BY 2.0 (http://creativecommons.org/licenses/by/2.0)], drwy Wikimedia CommonsBydd pob un ohonom yn rhyfeddu at y mamaliaid, yr adar a'r pryfed sy'n mudo ymhell ac at eu gallu cynhenid i gyrraedd pen eu taith filoedd o filltiroedd i ffwrdd.
Mae gwyddonwyr yn dal i geisio deall yr holl fecanweithiau sydd ynghlwm 芒 hyn. Bellach, mae un gr诺p o wyddonwyr yn credu eu bod wedi canfod un system sy'n cael ei defnyddio gan rai adar sy'n mudo, ac mae'n datgelu map diddorol o'r byd y byddai sawl un ohonom yn rhyfeddu ato.
Un o鈥檙 problemau a geir wrth deithio cryn bellter yw amcangyfrif ble rydych. Tra oedd lledred yn broblem gymharol syml i'w datrys, treuliodd daearyddwyr, mapwyr, gwyddonwyr, clocwyr a morwyr ganrifoedd yn ceisio datrys sut oedd gwybod lle roeddynt o ran hydred, neu o ran yr echelin dwyrain-gorllewin, wrth groesi'r cefnforoedd. Roedd a wnelo'r system a lwyddodd yn y pen draw i ddatrys y broblem i'r fforwyr hyn 芒 chadw amser yn fanwl.
Mae un elfen o'r system a ddefnyddir gan rai adar wedi cael ei datgelu am y tro cyntaf ac mae'n ymwneud 芒 chanfod y gogwyddiad neu'r amrywiad sy'n digwydd oherwydd nad yw pegwn daearyddol y gogledd (cywir) a'r gogledd magnetig yn yr un lle.
Yn Ewrop, mae'r gwahaniaeth hwn rhwng y gogledd cywir a'r gogledd magnetig yn cynyddu wrth deithio o'r dwyrain i'r gorllewin. Wrth ddefnyddio map a chwmpawd, mae angen cyfrif am y gogwyddiad newidiol hwn, yn enwedig os ydych am gyrraedd pen eich taith gryn bellter i ffwrdd. Mae'n ymddangos fod adar yn canfod y gogwyddiad neu'r amrywiad rhwng y gogledd cywir a'r gogledd magnetig, a thrwy hynny, yn gwybod ble maent ar yr echelin hydredol.
Yn rhifyn cyfredol (Awst 2017) mae t卯m rhyngwladol o fiolegwyr, sy'n cynnwys Richard Holland a Dmitri Kishkiniev o Ysgol Gwyddorau Biolegol Prifysgol 亚洲色吧 yn egluro sut y maent, am y tro cyntaf, wedi canfod fod telorion cyrs yn eu llawn dwf yn gallu canfod y gogwyddiad o鈥檙 gogledd magnetig, a defnyddio graddfa'r gogwyddiad neu'r newid o'r gogledd cywir i'w lleoli eu hunain yn ddaearyddol i hydred, a defnyddio hynny i gyfeirio eu mudo hydrefol o Rwsia i Affrica.<