Gwersyll Coedwigaeth yn agor drysau i bobl ifanc
Yn ystod yr haf, cymerodd gr诺p o bobl ifanc ran mewn gwersyll preswyl unigryw a gynlluniwyd i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol coedwigaeth. Nod y gwersyll coedwigaeth, dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 a chyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a鈥檙 Scottish Forestry Trust, yw mynd i'r afael 芒 phrinder sgiliau cynyddol yn y Deyrnas Unedig yn y diwydiant coedwigaeth trwy ymgysylltu 芒 phobl ifanc sydd ar hyn o bryd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector.
Gan fod y Deyrnas Unedig yn wynebu targedau uchelgeisiol i gynyddu gorchudd coed fel rhan o'i hymrwymiadau sero net, mae鈥檔 rhaid i'r diwydiant coedwigaeth gynyddu ei weithlu hyd at 72%. Bydd mynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 her hon yn gofyn nid yn unig am fwy o bobl, ond am amrywiaeth ehangach o sgiliau a mwy o amrywiaeth ar draws y sector.
Roedd y gwersyll wythnos o hyd wedi ei ariannu'n llawn ac roedd yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sut mae coedwigoedd a choetiroedd yn cysylltu 芒 bywyd bob dydd a materion byd-eang. Trwy ddysgu yn yr awyr agored, gweithgareddau ymarferol a sgyrsiau gyda gweithwyr proffesiynol, rhoddodd y gwersyll gyfle i鈥檙 bobl ifanc feithrin hyder, datblygu sgiliau newydd ac ystyried gyrfaoedd mewn coedwigaeth a gwyddor coedwigaeth.
Rhannodd un cyfranogwr, Damyan, ei brofiad o'r gwersyll:
鈥淥 23 i 29 Gorffennaf, cefais gymryd rhan mewn cyfle prin i rywun fel fi. Mae cael mynediad at natur yn y Deyrnas Unedig yn gallu bod yn anodd ac yn ddrud, ond rhoddodd y gwersyll hwn gyfle i mi aros yn yr awyr agored, yn rhad ac am ddim.
Roedd y gwersyll yn cael ei redeg gan gr诺p o hwyluswyr a wnaeth ein helpu i ailgysylltu 芒 natur a dysgu am goedwigaeth. Rwyf wedi bod 芒 diddordeb yn y gwyddorau naturiol erioed ond roedd cael gweld pethau fel rhywun yn cynaeafu ac yn defnyddio rhisgl helyg yn dod 芒鈥檙 ddamcaniaeth yn fyw.
Roeddwn i'n mwynhau cael cyfrifoldebau fel paratoi coed t芒n a rheoli tanau gwersyll. Gwnaeth hynny gynyddu fy hyder a gwneud i mi deimlo鈥檔 fwy abl.
Cafodd pawb rywbeth gwahanol o'r profiad. I mi, roedd yn gyfle i ddod i adnabod lle newydd, gweld tirweddau newydd, a dysgu am reoli coedwigoedd gan weithwyr proffesiynol. Gwnes gysylltiadau defnyddiol a allai fy helpu yn fy ngyrfa yn y dyfodol hyd yn oed.
Roedd y gwersyll yn cynnig cymysgedd o weithgareddau ymarferol a damcaniaethol, ac roedd y diffyg signal ff么n yn rhoi cyfle prin inni ddatgysylltu a meddwl am bethau. Roedd yr hwyluswyr yn frwdfrydig ac yn gefnogol, ac roedd eu harweiniad yn amhrisiadwy.
Byddwn i鈥檔 argymell y gwersyll coedwigaeth i unrhyw un sydd eisiau ailgysylltu 芒 natur, dysgu sgiliau newydd ac ehangu eu gorwelion.鈥
Meddai trefnydd y gwersyll, Dr Bid Webb: 鈥淢ae coedwigaeth yn berthnasol i bawb sy鈥檔 ifanc, p鈥檜n a ydyn nhw鈥檔 sylweddoli hynny eto ai peidio. Mae coedwigoedd wrth wraidd rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu, o newid hinsawdd i golli bioamrywiaeth, ac mae angen amrywiaeth eang o leisiau a safbwyntiau arnom i fynd i'r afael 芒 nhw. Nod y gwersyll yw agor y drws hwnnw, dangos i bobl ifanc eu bod nhw'n perthyn i'r sgyrsiau hyn a bod eu syniadau a'u profiadau'n bwysig.鈥