Dyma rai enghreifftiau o’n gwaith presennol a gorffennol o fewn y themâu eang hyn o’r Ganolfan:
Yn ogystal â bod o fudd i weithwyr a chyflogwyr, bydd WCBC o fudd hefyd i ddefnyddwyr a chwsmeriaid trwy nwyddau, prosesau a gwasanaethau newydd neu well, a bydd yn cynorthwyo gwneuthurwyr polisi a fydd yn cael gwell dealltwriaeth o’r ffordd y gall diwydiant sbarduno newid.
Bydd WCBC yn gweithio’n uniongyrchol ag unigolion a busnesau yn y meysydd canlynol:
Iechyd a Diogelwch Seiliedig ar Ymddygiad – cymhwyso’r gwyddorau ymddygiadol at ddiogelwch seiliedig ar ymddygiad (BBS), wedi’i seilio ar fodelu, mesur, adborth cadarnhaol a strategaethau gwobrwyo, yn arbennig mewn perthynas ag amgylcheddau lle mae diogelwch yn hollbwysig.
Cynhyrchiant a Lles – galluogi gweithwyr a chyflogwyr i sefydlu patrymau gwaith sy’n fwy effeithlon a chynhyrchiol, gyda’r canlyniad o gael gweithlu cryfach a gwell busnes, drwy hyrwyddo adnoddau gwybyddol ac emosiynol cadarnhaol i adeiladu ‘gwytnwch’ mewn gweithwyr a sefydliadau.
Cynaladwyedd ac Ymwybyddiaeth Ynni – Newid Ymddygiad yw’r elfen greiddiol i gynnal ein hamgylchedd a bydd y project yn cynllunio, cyflawni a hyrwyddo’r dulliau amgylcheddol gorau a fydd yn galluogi defnyddio ei adnoddau i’r eithaf. Bydd WCBC yn gweithio’n agos ag arbenigwyr Cynaliadwyedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn Synnwyr Busnes Business Sense (SBBS) sydd wedi’u lleoli yn Sefydliad Adnoddau Naturiol Cymru. Mae gan SBBS brofiad helaeth o ymwneud â byd busnes a diwydiant i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gynaliadwyedd a chyfleoedd cyfartal mewn ffordd gynhwysfawr.
