Amdan yr Gwasanaeth Hap-ddosbarthu
Mae'r Gwasanaeth Hap-ddosbarthu NWORTH yn wasanaeth ar-lein 24/7 sy'n darparu hap-ddosbarthiadau ar gyfer treialon cymeradwy trwy ein system ar-lein ddiogel a chadarn. Drwy ddarparu'r gwasanaeth drwy'r we, rydym yn gallu sicrhau bod y gwasanaeth ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos o unrhyw le lle mae mynediad i'r rhyngrwyd.
Cymorth Technegol
Mae cymorth ar gael ar gyfer treialon sy'n ddefnyddio'r system ar y we yn ystod oriau swyddfa safonol (dydd Llun-dydd Gwener, 9am-5pm). Cysylltwch 芒 nworth-it@bangor.ac.uk.
Diogelwch
Mae Diogelwch ac Uniondeb Data yn cael eu cymryd o ddifrif iawn wrth gynnal hap-ddosbarthiadau drwy'r system ar y we.
Trosglwyddo Data Diogel
Mae'r system wedi'i chynnal ar weinydd gwe diogel Prifysgol 亚洲色吧 gyda mynediad yn cael ei ddarparu trwy gysylltiad https diogel. Mae hyn yn atal gwrando, ymyrryd a ffugio data.
Amgryptio Cyfrinair
Mae cyfrineiriau defnyddwyr yn cael eu hamgryptio gan ddefnyddio algorithmau amgryptio 128-bit cadarn, safonol y diwydiant, gan sicrhau nad yw cyfrineiriau byth yn cael eu storio mewn ffurf hygyrch neu ddarllenadwy.
Backup and Disaster Recovery
The system is subject to 亚洲色吧's robust Backup and Disaster Recovery procedures, ensuring that randomisation data is safe, secure and recoverable in the event of disaster.
Mynediad i'r System
Mae Systemau Gwybodaeth NWORTH yn darparu mynediad i'r system, gan ddarparu enwau defnyddwyr a chyfrineiriau ar gyfer defnyddwyr sydd wedi'u cymeradwyo. Gallwch yna fewngofnodi i'r system drwy'r ddolen Rhyngweithio yn y ddewislen.
Perfformio Hap-ddosbarthu
Er mwyn cael mynediad i'r System Hap-ddosbarthu, rhaid i chi gael enw defnyddiwr a chyfrinair yn gyntaf. Os oes angen mynediad i'r system ond nad oes gennych enw defnyddiwr a chyfrinair, cysylltwch 芒 Systemau Gwybodaeth NWORTH drwy e-bost yn nworth-it@bangor.ac.uk.
( os nad yw'r ddolen uchod yn agor)
Sut i berfformio Hap-ddosbarthu
Yn gyntaf, lansiwch y System Hap-ddosbarthu a mewngofnodwch gan ddefnyddio'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair a roddwyd i chi.
Cam 1 - Dewiswch Dreial
Dewiswch eich treial o'r rhestr ostwng.
Cam 2 - Cwblhewch yr Holiadur
Cwblhewch yr holiadur, gan sicrhau bod yr holl feysydd angenrheidiol wedi'u llenwi.
Cam 3 - Cadarnhau a Hap-ddosbarthu
Cyn cynnal yr hap-ddosbarthu, rhaid i chi wirio bod y manylion rydych chi wedi'u nodi yn ddilys ac yn gywir. Os yw unrhyw un o'r manylion rydych chi wedi'u nodi yn anghywir, cliciwch y botwm "Blaenorol" i fynd yn 么l a gwneud y newidiadau angenrheidiol. Unwaith y byddwch chi'n hapus gyda'r wybodaeth rydych chi wedi'i nodi, cliciwch y botwm "Hap-ddosbarthu" i gynnal yr hap-ddosbarthu.
Cam 4 - Allgofnodi
Ar 么l i chi gwblhau eich hap-ddosbarthu, cliciwch Allgofnodi i allgofnodi o'r system a chau'r ffenestr.
Noder
Ni fydd yr hap-ddosbarthu yn cael ei gynnal nes i chi gadarnhau'r manylion rydych chi wedi'u nodi a chlicio ar y botwm Hap-ddosbarthu. Gallwch ganslo hap-ddosbarthu unrhyw bryd cyn hyn trwy allgofnodi a chau'r ffenestr hap-ddosbarthu.
Cymorth Technegol ac Adrodd ar Broblemau
Am ymholiadau cyffredinol a chymorth technegol sy'n ymwneud ag astudiaethau parhaus, ceisiadau mynediad neu i roi gwybod am broblemau gyda'r system, anfonwch e-bost at nworth-it@bangor.ac.uk gyda manylion y cymorth sydd ei angen.