Cefnogaeth eang ymhlith aelodau sefydliadau natur i ladd ceirw gwyllt
Mae astudiaeth newydd wedi canfod bod cefnogaeth eang ymhlith aelodau sefydliadau natur yng Nghymru a Lloegr i ladd ceirw gwyllt mewn dull rheoleiddiedig er mwyn lleihau eu niferoedd a'u heffaith.
Yn 么l ymchwil dan arweiniad Prifysgol 亚洲色吧 a gyhoeddwyd yn , hon oedd yr arfer o reoli ceirw a gefnogir ac a ddefnyddir fwyaf.
Mae awduron yr astudiaeth yn credu y gallai'r canfyddiadau helpu sefydliadau natur a鈥檙 sawl sy鈥檔 gwneud penderfyniadau i deimlo'n fwy hyderus yngl欧n ag argymell defnyddio鈥檙 dull hwn.
Cyd-ddyluniodd ymchwilwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 a phrifysgolion Reading a Southampton holiadur gyda sefydliadau natur Forest Research, Woodland Trust, y Sylva Foundation a鈥檙 Game and Wildlife Conservation Trust i ymchwilio i ganfyddiadau tuag at geirw gwyllt a sut i鈥檞 rheoli.
O'r 3,936 o bobl a holwyd, roedd 85% naill ai'n cefnogi neu'n cefnogi'n gryf reolaeth angheuol, ac yna defnyddio dyfeisiau gwarchod coed (82%), ac yna ffensio ceirw (69%).
Dosbarthwyd yr holiadur i aelodau pum sefydliad natur cenedlaethol. Mae dau o'r sefydliadau hyn (Sylva Foundation; The Woodland Trust) yn canolbwyntio ar reoli coetiroedd, tra bod tri (British Association for Shooting and Conservation; British Deer Society; Game and Wildlife Conservation Trust) yn canolbwyntio ar reoli bywyd gwyllt.
Bu i鈥檙 t卯m ymchwil, a oedd hefyd yn cynnwys academyddion o Brifysgol Victoria yn Wellington yn Seland Newydd a Phrifysgol Leeds, gasglu data gan ffermwyr, rheolwyr tir, helwyr ceirw, coedwigwyr, cadwraethwyr, a phobl nad ydynt yn ymwneud 芒 rheoli tir.
Mae poblogaethau ceirw gwyllt yn cynyddu ar draws hemisffer y gogledd, gan greu heriau i'r amgylchedd a phobl. Yn ogystal 芒 niweidio cnydau bwyd a choed, mae niferoedd cynyddol o geirw yn achosi niwed sylweddol i ecoleg ein coetiroedd gan leihau amrywiaeth y planhigion, pryfed ac adar sy'n defnyddio'r cynefinoedd hyn. Mae pryderon hefyd ynghylch mwy o wrthdrawiadau rhwng ceirw a cherbydau a throsglwyddo clefydau i dda byw a phobl.
Yn ogystal, mae niferoedd cynyddol o geirw yn cyflwyno her i bolis茂au llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n anelu at ehangu coetiroedd a newid i sero net erbyn 2050.
Ariannwyd y gwaith gan broject Ymchwil ac Arloesi'r Deyrnas Unedig (UKRI) iDeer, sy'n cael ei arwain gan Dr Becks Spake, Athro Cyswllt mewn Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Southampton. Diben y project yw gwella sut yr eir ati鈥檔 strategol i greu a rheoli coetiroedd yn y ffordd yr effeithir leiaf ar geirw.
Dywedodd Dr Elena Cini, Swyddog Ymchwil 脭l-ddoethurol ym Mhrifysgol 亚洲色吧, 鈥淕all dwysedd a dosbarthiad cynyddol ceirw gwyllt fygwth y gwaith o greu coetiroedd, a gwytnwch y coetiroedd hynny, ac effeithio ar fioamrywiaeth trwy bori a chwilota dwys. Mae hyn yn cyflwyno her i bolis茂au llywodraeth y Deyrnas Unedig sy'n anelu at ehangu coetiroedd a newid i sero net erbyn 2050. Gan fod ceirw gwyllt yn crwydro cryn dipyn, dylid gweithredu strategaethau i reoli eu poblogaethau, fel rheolaeth angheuol, ar draws ardaloedd mawr er mwyn bod yn effeithiol. Mae hyn yn gofyn am gydweithrediad rhwng tirfeddianwyr a chefnogaeth gyhoeddus eang.鈥
Dywedodd Dr Freya St. John, Darllenydd mewn Gwyddor Cadwraeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧, 鈥淣ododd y rhan fwyaf o鈥檙 ymatebwyr fod ganddyn nhw geirw gwyllt ar eu heiddo, a鈥檜 bod wedi profi effeithiau ceirw, fel difrod i goed a gwrychoedd. Roedd cefnogaeth gref i ladd ceirw ar draws ein sampl. Fodd bynnag, mae barn wahanol ar geirw a rheoli tir yn ei gwneud hi'n heriol i gymdogion gydweithio i reoli ceirw. Gallai cefnogaeth eang i reolaeth angheuol helpu sefydliadau natur a gwneuthurwyr penderfyniadau i deimlo'n fwy hyderus yngl欧n ag argymell defnyddio鈥檙 dull hwn, gan eu bod yn aml yn dibynnu ar gefnogaeth y cyhoedd.鈥
Dywedodd Dr Becks Spake, Athro Cyswllt mewn Newid Hinsawdd ac Amgylcheddol ym Mhrifysgol Southampton, 鈥淢ae cymdeithas yn synio鈥檔 wahanol iawn am geirw; yn ecolegol, diwylliannol, esthetig ac economaidd, ond gallant hefyd gyflwyno heriau gwirioneddol i blannu coed. Wrth i ni greu fwy o goetiroedd i gyrraedd targedau sero net, mae deall sut mae gwahanol grwpiau'n ymdrin 芒鈥檙 gwrthdaro hwn yn hanfodol. Mae ein hymchwil yn dangos, er bod cefnogaeth eang i ymyriadau rheoli, gan gynnwys rheolaeth angheuol, y gall safbwyntiau gwahanol rhwng cymdogion wneud cydweithio'n heriol. Mae deall safbwyntiau amrywiol yn hanfodol i ddatblygu strategaethau tirwedd sy'n gweithio i randdeiliaid amrywiol ac yn cyflawni targedau creu coetiroedd.鈥