Arbenigwyr yn galw am weithredu brys ar gam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn Nh欧鈥檙 Cyffredin
Daeth arbenigwyr blaenllaw ynghyd yn Nh欧鈥檙 Cyffredin i alw am weithredu cenedlaethol brys i fynd i鈥檙 afael 芒 cham-drin geiriol yn ystod plentyndod.
Wedi'i gynnal gan Sharon Hodgson AS a'i gynnull gan yr elusen Words Matter, amlygodd y drafodaeth dan arweiniad arbenigwyr yr angen hanfodol i gynnwys atal cam-drin geiriol yng nghenhadaeth y Llywodraeth er mwyn magu鈥檙 genhedlaeth iachaf o blant mewn hanes a chwalu rhwystrau i gyfleoedd.
Mae cam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn cael ei gydnabod bellach fel y math mwyaf cyffredin o gam-drin plant .
Roedd y siaradwyr yn y digwyddiad cyntaf am gam-drin geiriol yn ystod plentyndod yn Nh欧鈥檙 Cyffredin yn cynnwys yr Karen Hughes, Athro Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol 亚洲色吧 a chynghorydd arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd.
Mae ymchwil helaeth yn dangos y gall cam-drin geiriol 鈥 gan gynnwys beio, sarhau, sgaldio, beirniadu, neu fygwth plant 鈥 fod mor niweidiol 芒 cham-drin corfforol neu rywiol. Mae ei effeithiau hirdymor yn cynnwys gorbryder, iselder ysbryd, anhwylderau bwyta, anawsterau cysgu, camddefnyddio sylweddau, hunan-niweidio a hunanladdiad.
Mae 2 o bob 5 plentyn (41%) yn y Deyrnas Unedig yn profi cam-drin geiriol, gyda dros hanner yn ei brofi bob wythnos, ac 1 o bob 10 bob dydd . Rhieni, gofalwyr, athrawon ac arweinwyr gweithgareddau/hyfforddwyr yw'r prif ffynonellau. Mae'r mater yn croesi'r holl ffiniau cymdeithasol a rhanbarthol 鈥 mae'n fater eang a diwah芒n.
Dywedodd yr Karen Hughes, Athro Iechyd Cyhoeddus, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol 亚洲色吧, a chynghorydd arbenigol i Sefydliad Iechyd y Byd, 鈥淓r bod cyfraddau cam-drin plant yn gorfforol yn lleihau, nid yw hyn yn wir o ran cam-drin geiriol. Gall cam-drin geiriol niweidio iechyd a lles hirdymor plentyn yn ddifrifol, gan gynyddu鈥檙 risg o brofi problemau iechyd meddwl, camddefnyddio sylweddau a thrais. Mae atal cam-drin geiriol yr un mor hanfodol 芒 mynd i'r afael 芒 cham-drin corfforol. Mae creu amgylcheddau diogel ac anogol yn golygu sicrhau bod rhieni, llunwyr polisi, a phob oedolyn yn deall y niwed o gam-drin geiriol 鈥 a鈥檜 bod yn meddu ar y sgiliau a鈥檙 gefnogaeth sydd eu hangen i fagu plant mewn ffordd gadarnhaol.鈥
Dywedodd Sharon Hodgson AS, 鈥淢ae cynnydd pwysig wedi鈥檌 wneud wrth fynd i鈥檙 afael 芒 cham-drin corfforol a rhywiol trwy ymwybyddiaeth ac ymyrraeth. Ond mae cam-drin geiriol wedi aros o dan y radar. Fel y clywsom heddiw, dyma鈥檙 math mwyaf cyffredin o gam-drin plant erbyn hyn, gyda niwed sylweddol a pharhaol. Rwy鈥檔 falch o gefnogi Words Matter i ddod ag arbenigwyr ynghyd i ddechrau鈥檙 sgyrsiau hanfodol sydd eu hangen i feithrin ymyriadau, chwalu rhwystrau i gyfleoedd, a helpu pob plentyn i ffynnu.鈥
Roedd siaradwyr eraill yn cynnwys Athro Peter Fonagy, Pennaeth yr Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith, Coleg Prifysgol Llundain (UCL) a chynghorydd i鈥檙 Llywodraeth; yr Athro Eamon McCrory, Prif Swyddog Gweithredol Anna Freud ac Athro Niwrowyddoniaeth Ddatblygiadol a Seicopatholeg, UCL; Yr Athro Andrea Danese, Athro Seiciatreg Plant a Phobl Ifanc, King鈥檚 College, Llundain ac Ysgrifennydd Cyffredinol y European Association for Child & Adolescent Psychiatry; a Jessica Bondy, Sylfaenydd Words Matter.
Mae astudiaeth arloesol gan yr economegydd blaenllaw, Dr Xiangming Fang, yn amcangyfrif bod cost economaidd fyd-eang o gam-drin geiriol yn ystod plentyndod - drwy ei effeithiau ar iechyd yn unig - yn 拢239 biliwn y flwyddyn. Nid yw鈥檙 ffigur hwn hyd yn oed yn cyfrif am effeithiau ehangach ar addysg, cyflogadwyedd, a chynhyrchedd yn y dyfodol.
Dywedodd yr Athro Peter Fonagy, Pennaeth yr Is-adran Seicoleg a Gwyddorau Iaith yn UCL: 鈥淩haid i ni ddod 芒 cham-drin geiriol allan o鈥檙 cysgodion a rhoi鈥檙 un sylw iddo 芒 mathau eraill o gam-drin. Mae'n un o'r achosion mwyaf ataliadwy o broblemau iechyd meddwl. Gall geiriau llym wanhau sylfaen yr ymennydd yn ystod datblygiad. Mae angen i oedolion gyfathrebu 芒 phlant mewn modd caredig a chefnogol 鈥 mae鈥檔 hanfodol wrth feithrin eu hunaniaeth a鈥檜 gwytnwch emosiynol.鈥
Dywedodd Jessica Bondy, Sylfaenydd Words Matter: 鈥淥s ydym wir eisiau magu鈥檙 genhedlaeth iachaf mewn hanes a chwalu鈥檙 rhwystrau i gyfleoedd, rhaid inni ganolbwyntio ar sut mae oedolion yn siarad 芒 phlant. Mae geiriau鈥檔 bethau grymus. I blentyn, gall iaith galed eu rhwygo ac effeithio ar bob rhan o鈥檜 bywyd - gartref, yn yr ysgol, yn eu perthnasoedd yn y dyfodol a鈥檜 cyfraniad i gymdeithas. Wrth barchu plant 芒鈥檔 geiriau, rydym yn dangos iddynt i barchu eu hunain ac eraill.鈥
Wrth i'r Llywodraeth symud ymlaen 芒'i strategaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer plant, mae Words Matter yn galw ar atal cam-drin geiriol i ddod yn bwyslais craidd 鈥 gyda hyfforddiant, ymwybyddiaeth, a chefnogaeth i bob oedolyn sy鈥檔 rhan o fywydau plant.