Y cyfansoddwr David Cousins yn ymweld â’r Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau
Ddydd Gwener ddiwethaf, roedd yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau wrth ei bodd yn croesawu David Cousins, a roddodd ddwy sgwrs ysbrydoledig.
Gyda gyrfa’n ymestyn dros bum degawd, mae David yn fwyaf adnabyddus fel prif leisydd a phrif gyfansoddwr y band chwedlonol Strawbs, sydd wedi rhyddhau dros 30 o albymau ers eu halbwm hunan-deitl cyntaf clodwiw yn 1969. Rhyddhawyd eu halbwm diweddaraf yn 2023. Rhwng Strawbs a'i waith unigol, mae David wedi ysgrifennu a recordio dros 300 o ganeuon. (Dysgwch fwy am David a Strawbs yma: Gwefan Swyddogol Strawbs) Bu i David adael y band Strawbs yn 1980, a dros y ddau ddegawd nesaf, aeth ymlaen i weithio ar lefel weithredol yn y maes darlledu radio. Yn ystod y cyfnod hwnnw, arweiniodd lawer o geisiadau masnachfraint llwyddiannus ar gyfer gorsafoedd megis XFM. Dychwelodd i Strawbs ar ddiwedd y 1990au a sefydlodd hefyd gwmni recordio a chyhoeddi annibynnol, sef Witchwood Media Ltd. Yn 2023 dyfarnwyd gradd Doethur er Anrhydedd mewn Cerddoriaeth (DMus) iddo gan Brifysgol Caerlŷr, lle bu’n astudio mathemateg ac ystadegau ar ddechrau’r 1960au.
Roedd Neuadd Mathias dan ei sang â myfyrwyr pan gyflwynwyd David gan yr Is-ganghellor, yr Athro Edmund Burke. Yn sesiwn y bore, rhannodd David ei brofiadau o ddegawdau o weithio yn y diwydiant cerddoriaeth, o ganu i A&M Records yn 1968 i ffrydio a hawlfraint. Yn y prynhawn, gyda gitâr yn ei law, rhoddodd David gipolwg ar ei ddull o gyfansoddi caneuon gan ddefnyddio amryw o alawon ansafonol, sy'n nodweddu ei arddull cyfansoddi unigryw. Roedd y digwyddiad hefyd yn cynnwys perfformiad o ddwy o ganeuon gorau David – ‘Josephine (For Better or for Worse)’ a ‘Forever Ocean Blue’ – gan Gwawr Evans, sy’n fyfyrwraig Cerddoriaeth yn ei hail flwyddyn, gyda Dr Iwan Llewelyn-Jones (uwch ddarlithydd Cerddoriaeth) yn cyfeilio ar y piano.
Dywedodd John Cunningham, Darllenydd mewn Cerddoriaeth a Phennaeth Adran y Celfyddydau:”'David Cousins yw un o'r cyfansoddwyr caneuon modern gorau ym Mhrydain. Mae ei arddull gyfansoddiadol eclectig yn nodedig iawn, a'i sain yn hawdd ei hadnabod. Mae David wedi byw bywyd rhyfeddol ac wedi mwynhau gyrfa hir ac amrywiol. Roedd yn brofiad gwych i’n myfyrwyr ei glywed yn rhannu ei fewnwelediadau a’i gyngor. Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig.”