Cafodd myfyrwyr o ysgolion a cholegau ledled Gogledd Cymru wybod rhagor am sut mae ymchwiliadau’r heddlu’n cael eu cynnal mewn ‘Diwrnod Ymchwilio i Lofruddiaeth’ drefnwyd gan arweinwyr cyrsiau troseddeg, cymdeithaseg a’r gyfraith ym Mhrifysgol ɫ ddydd Mercher 13 Rhagfyr.
Syniad Alun Oldfield, darlithydd ar radd Plismona Prifysgol ɫ oedd y digwyddiad, a daw Alun â 30 mlynedd a mwy o brofiad plismona i’w rôl yn y brifysgol, gan ddarparu mewnwelediad i ymchwiliadau i droseddau difrifol a’u gwneud yn hygyrch i fyfyrwyr prifysgol a Lefel A.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru Amanda Blakeman, “Rwy’n falch iawn o gefnogi’r cydweithio rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol ɫ. Heddiw, ar y Diwrnod Ymchwilio i Lofruddiaeth cyntaf un yma, bydd myfyrwyr yn cael cipolwg gwerthfawr ar yr hyn sy’n cael ei wneud yn ystod ymchwiliad i lofruddiaeth, gan gynnwys sut mae’r lleoliad cychwynnol yn cael ei ddiogelu yr holl ffordd at erlyn y troseddwr. Rydych chi'n mynd i brofi'r heriau sy'n wynebu plismona wrth iddynt ymateb i'r digwyddiadau mwyaf difrifol, lle rydym wedi’n ymrwymo’n llwyr i ddod â throseddwyr o flaen eu gwell i gefnogi dioddefwyr a darparu'r gwasanaeth gorau y gallwn i'n cymunedau.
“Mae gen i dros ddeng mlynedd ar hugain o brofiad plismona erbyn hyn mewn amrywiaeth o swyddogaethau, a does dim un mwy heriol na’r hyn rydyn ni’n ei ofyn gan ein hymchwilwyr a’n ditectifs. Nid yw cyfleoedd i weithio ar y troseddau mwyaf cymhleth a mwyaf difrifol yn dod yn fwy heriol nag ymchwiliad i lofruddiaeth. Rwy’n hynod o falch o fod yn heddwas ac yn hynod falch o fod yn Brif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru, ac rwy’n gobeithio y bydd heddiw’n rhoi cyfle ichi feddwl am yrfaoedd pellach, naill ai ym maes plismona, troseddeg neu’r gyfraith ac yn fodd i sicrhau cydweithio pellach rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Phrifysgol ɫ.”