Mae rhaglen Mentergarwch Trwy Ddylunio wedi ei enwi’n enillydd y wobr catalydd mentergarwch yng ngwobrau’r National Enterprise Educator Awards 2021.
Cafodd y wobr ei chyflwyno am effaith gref y rhaglen ar fyfyrwyr a datblygiad rhanbarthol ers i’r cynllun ddechrau yn 2010, gyda 72% o’r holl fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn adnabod cynnydd yn eu sgiliau mentergarwch.
Mae’r gwobrau, sy’n rhedeg ers 2009, yn canolbwyntio ar ragoriaeth o fewn entrepreneuriaeth ac addysg mentergarwch o fewn addysg uwch ac addysg bellach yn y DU.