Mae Prifysgol ɫ yn cynrychioli’r Deyrnas Unedig ar y cyd â Choleg Imperial Llundain mewn rhwydwaith ymchwil sydd newydd ei ffurfio a gyllidir gan raglen Cooperation in Science and Technology (COST) y Comisiwn Ewropeaidd. Enw’r rhwydwaith yw ‘Language in the Human-Machine Era’ (LITHME) gydag aelodau o 52 gwlad, ac mae’n ymchwilio i sut mae datblygiadau technolegol, megis, sbectol glyfar a theclyn clust clyfar yn debygol o newid ein ffordd o gyfathrebu bob dydd a’n galluogi i gyfieithu geiriau rhywun arall ac o ganlyniad, yn newid iaith.
Mae LITHME yn ceisio pontio'r bwlch rhwng ieithyddion ac arbenigwyr technoleg, fel bod ieithyddion yn gallu elwa o well gwybodaeth dechnolegol a bod arbenigwyr technoleg yn gallu elwa o well dealltwriaeth o ganlyniadau ieithyddol a chymdeithasol posib technolegau newydd.
Fel cam mawr cyntaf, mae'r rhwydwaith Language in the Human Machine Era wedi cyhoeddi sy'n dwyn ynghyd drafodaethau gan ddwsinau o arbenigwyr ym meysydd technoleg iaith ac ymchwil ieithyddol. Byddant yn cynnal eu hysgol hyfforddi gyntaf ar 4-8 Hydref yn Ávila, Sbaen i ysgolheigion a datblygwyr technoleg o bob rhan o Ewrop a thu hwnt. Bydd Dr Cynog Prys, o Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas ym Mhrifysgol ɫ, sy'n gyd-awdur yr adroddiad, yn siarad am hawliau iaith yn yr oes ddigidol yn ystod yr ysgol hyfforddi ()
Meddai Dr Prys, sy’n gymdeithasegydd ac sydd hefyd yn aelod o bwyllgor rheoli'r rhwydwaith ac yn is-gadeirydd y gweithgor hawliau ieithyddol,
"Mae datblygiadau mewn cyfathrebu digidol wedi chwyldroi sut rydym yn cyfathrebu ac yn cyrchu gwasanaethau dros y degawd diwethaf. Mae hyn wedi cael ei ddwyn i'r amlwg a'i gyflymu gan y pandemig Covid-19 a'r newidiadau cymdeithasol sydd wedi dod yn ei sgil. Gyda datblygiad technoleg y gellir ei gwisgo a deallusrwydd artiffisial, rydym bellach ar drothwy newidiadau pellach fydd yn newid y ffordd yr ydym yn cyrchu gwybodaeth ac yn rhyngweithio ag eraill. Bydd gan y datblygiadau hyn oblygiadau pellgyrhaeddol i hawliau ieithyddol ac iaith mewn cymdeithas amlieithog.”
