Beth yw pwnc yr astudiaeth hon?
Mae nam gwybyddol yn cael ei gydnabod fwyfwy fel un o brif elfennau Covid hir, ac amcangyfrifir ei fod yn bresennol mewn 25-75% o unigolion yr effeithir arnynt. Mae'r nam hwn yn effeithio ar ansawdd bywyd ac mae colli gallu swyddogaethol yn cael canlyniadau mawr i bobl yr effeithir arnynt, eu teuluoedd a'r economi ehangach o ystyried anhawster pobl i ddychwelyd i'r gwaith.
Rydym yn cynnig astudiaeth dau gam ar gyfer ymchwilio a thrin "Covid gwybyddol".
Bydd Cam 1 yn pennu'r agweddau hynny ar swyddogaeth wybyddol sy'n cael eu heffeithio'n arbennig mewn Covid gwybyddol a difrifoldeb y nam. Byddwn hefyd yn archwilio'r berthynas rhwng nam gwybyddol ac agweddau eraill ar Covid hir, sef blinder, pryder, iselder ac aflonyddwch cwsg. Defnyddir sganio MRI i fesur strwythur a chysylltedd yr ymennydd, i nodi'r rhwydweithiau ymennydd yr effeithir arnynt mewn Covid gwybyddol a allai fod yn sail i'r camweithrediad gwybyddol.
Bydd Cam 2 yn canolbwyntio ar helpu pobl i wella o Covid gwybyddol. Bydd hyn yn cynnwys defnyddio strategaethau adsefydlu sydd 芒'r nod o wella swyddogaeth yn y swyddogaethau gwybyddol hynny a nodwyd yng Ngham 1 fel yr effeithir arnynt fwyaf, ac asesu budd adsefydlu ar ansawdd bywyd a gallu pobl i ddychwelyd i swyddogaeth bob dydd. Bydd y strategaethau hyn yn cael eu cyd-gynhyrchu mewn cydweithrediad 芒 gr诺p o bobl sy'n byw gyda Covid gwybyddol. Ar ddiwedd Cam 2 byddwn yn cynhyrchu 鈥淐anllaw Adferiad Gwybyddol Covid-19鈥 sydd ar gael am ddim ar gyfer pobl yr effeithir arnynt, eu cysylltiadau agos a chlinigwyr.
Contact
Dr Dennis Chan Dennis.chan@ucl.ac.uk
Sponsor
University College London (UCL)
Funder
National Institute of Health Research (NIHR)