Cyfansoddi: ymarfer, proffesiwn, a gyrfa portffolio
(Roseanna Dunn - Prifysgol Caergrawnt)
Sut olwg sydd ar fywyd cyfansoddwr ar ddechrau ei yrfa yn hinsawdd economaidd-gymdeithasol heddiw?
Sut ydych chi'n sefydlu a rheoli gyrfa portffolio?
Pa gamau allwch chi eu cymryd i adeiladu eich ymarfer cyfansoddi proffesiynol eich hun tra mewn addysg drydyddol?
Yn y seminar ymchwil hwn, mae Roseanna yn archwilio'r prosesau creadigol y tu ôl i ddau o'i chomisiynau cyferbyniol diweddar: 'Londe Hast Ben Longe' ar gyfer Cantorion ORA, a 'Her Mother’s Tongue' ar gyfer Gŵyl Gerdd Ryngwladol Gogledd Cymru a Dr Iwan Llewelyn-Jones. Mae Roseanna yn trafod ei gyrfa portffolio fel cyfansoddwr, arweinydd, ac ymarferydd celfyddydau, gan ddangos sut mae'r ffordd hon o weithio o fudd iddi, yn pragmatig ac yn greadigol. Yn olaf, mae Roseanna yn archwilio'r heriau sy'n wynebu cyfansoddwyr ar ddechrau eu gyrfa mewn cyfnod lle mae cyllid celfyddydau'n brin: o'r herwydd, mae hi'n rhoi cyngor pragmatig ar lywio'r heriau hyn, ac yn cynnig camau tymor byr tuag at adeiladu gyrfa hirdymor fel cyfansoddwr a/neu gerddor proffesiynol.
Bydd y gweithdy’n cynnwys perfformiad byw o ‘Her Mother’s Tongue’, a roddir gan Dr Iwan Llewelyn-Jones.