Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio gyda ni
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Marchnata yma yn Ysgol Fusnes Albert Gubay. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi. Dyma be allwch ddisgwyl fel myfyrwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Mae ein cyrsiau Marchnata yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
O gystadlaethau cenedlaethol fel The Pitch a Universities Business Challenge Worldwide i leoliad gwaith a sgyrsiau gwadd mae digon o gyfleoedd fel myfyriwr marchnata i wella eich cyflogadwyedd ac ennill sgiliau gwerthfawr ar gyfer eich dyfodol.
Wel yn gyntaf oll Llongyfarchiadau ar dderbyn cynnig i ddod atom ni i astudio yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧.
Fy enw i ydi Steffan Thomas, ac rwy'n Uwch Ddarlithydd yn yr Ysgol Busnes yn arbenigo yn y maes Marchnata.
Dwi'n edrych ymlaen at ddysgu chi ar nifer o fodiwlau fydd yn rhoi sgiliau i chi ar hyd eich amser
gyda ni yma ym Mangor ac wedyn ymlaen i'ch gyrfaoedd
wedi i chi raddio. Dwi'n edrych ymlaen at eich cyfarfod chi yn fuan.
Cwestiynau Cyffredin
Byddwch yn cael 12 awr o addysgu yn y cnawd bob wythnos. Mae'r rhain yn cynnwys cyfuniad o ddarlithoedd, gweithdai a thiwtorialau. Dylid treulio gweddill yr amser ar ddysgu hunangyfeiriedig/annibynnol h.y. darllen y bennod berthnasol yn y gwerslyfr marchnata i fodiwl penodol, gwneud ymchwil ar frand i aseiniad sydd i ddod, cymryd rhan mewn trafodaeth rithwir neu ddarllen astudiaeth achos i baratoi at diwtorial sydd ar ddod.
Bydd astudio un o鈥檙 rhaglenni gradd marchnata ym Mangor yn eich galluogi i ddatblygu i fod yn weithiwr marchnata proffesiynol rhagorol. Mae ein rhaglen BSc Marchnata wedi ei hachredu gan y Sefydliad Marchnata Siartredig, sy'n eich galluogi i gael eithriadau awtomatig o amrywiaeth o gymwysterau proffesiynol (e.e. Tystysgrif/Diploma mewn Marchnata Proffesiynol a Marchnata Digidol). Byddwch hefyd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau marchnata cenedlaethol fel CIM 'The Pitch' a byddwch yn ennill sgiliau ymarferol defnyddiol y mae cyflogwyr yn eu disgwyl, megis datblygu gwefannau. Byddwch hefyd yn cael cyfle i glywed amrywiaeth o siaradwyr gwadd o faes marchnata.
Mae'r pynciau a drafodir ar y radd marchnata yn cynnwys Marchnata Digidol, Marchnata Cyfryngau Cymdeithasol, Ymddygiad Defnyddwyr, Rheoli Brand a Manwerthu, Marchnata a Chymdeithas, Marchnata Rhyngwladol a Dadansoddeg Marchnata. Mae holl ddeunyddiau'r modiwl yn cael eu diweddaru'n barhaus i adlewyrchu tueddiadau cyfredol, ymchwil cyfredol ac arferion yn y diwydiant.
Mae ein hasesiadau yn adlewyrchu sefyllfaoedd ac amgylchiadau marchnata go iawn. Rydym yn defnyddio amrywiaeth eang o ddulliau asesu i sicrhau y byddwch yn meistroli sgiliau busnes eang ac yn datblygu'r rhain wrth ichi astudio am eich gradd. Mae'r rhain yn cynnwys sgiliau ysgrifennu, cyfathrebu, rhwydweithio a gwneud penderfyniadau gan gynnwys traethodau, adroddiadau marchnad, cyflwyniadau, blogiau, arholiadau, portffolios a phrojectau gr诺p. Rydym hefyd yn defnyddio gemau efelychu sydd gyda鈥檙 gorau yn y diwydiant i greu heriau marchnata sydd mor agos at realiti 芒 phosib yn ogystal 芒 darparu cyfleoedd dysgu yn y gwaith i chi, a chyfle i chi ymgymryd 芒 phrojectau byw yn eich blwyddyn olaf.
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr
  Dr Sara Parry
Dwi bob amser wedi ystyried Marchnata fel pwnc cyffrous a chyflym sy'n cynnig cyfleoedd i fod yn strategol ac yn greadigol. Yn bwysig, mae marchnata wedi'i seilio ar ddeall pobl (neu 'ddefnyddwyr') a'u hymddygiad, a dyna sy'n ddiddorol i mi.
Chanel sy鈥檔 gyfrifol am greu鈥檙 hysbyseb drytaf erioed yn 2004. Roedd yr hysbyseb yn cynnwys Nicole Kidman a chafodd ei chyfarwyddo gan Baz Luhrmann. $33 miliwn oedd y gost o鈥檌 chreu!
Dwi鈥檔 mwynhau addysgu gan ddefnyddio llawer o enghreifftiau o arferion Marchnata da a drwg, a chanolbwyntio ar y sgiliau y bydd eu hangen ar fyfyrwyr i ddilyn gyrfa mewn Marchnata megis cyfathrebu, creadigrwydd, gwaith t卯m a meddwl yn feirniadol.
Taylor Swift. Mae hi鈥檔 gerddor gwych, a dwi hefyd yn meddwl ei bod yn athrylith Marchnata! Mae hi鈥檔 feistr ar ddeall a bodloni ei chynulleidfa: y 鈥淪wifties.鈥
  Dr Steffan Thomas
Fy rhwystredigaeth fwyaf yw鈥檙 canfyddiad bod y cyfryngau cymdeithasol yn rhoi cyfle i fusnesau farchnata am ddim. Mae hyn yn tanseilio gwerth deall y data, yr algorithmau a phroffiliau defnyddwyr. Mae marchnata鈥檔 bwnc cyffrous a deinamig sy'n gofyn am gynllunio a defnydd manwl.
Rydw i鈥檔 ffodus i weithio gyda sawl busnes sy鈥檔 cynnig cyngor ynghylch marchnata digidol ac ymgysylltu 芒 defnyddwyr. Felly, rydw i鈥檔 lledaenu gwybodaeth yn rheolaidd ac yn gallu gweld sut y mae鈥檔 trosi鈥檔 llwyddiant masnachol.
Cymerwch ran mewn cymaint o weithgareddau 芒 phosibl, rhowch gynnig ar bethau newydd a dysgwch beth rydych chi'n angerddol amdano.
Mae gradd yn garreg gamu wych i'ch gyrfa yn y dyfodol, a pho fwyaf o amser ac ymdrech y byddwch chi'n buddsoddi ynddi nawr, y mwyaf y byddwch chi'n ei gael allan ohoni yn nes ymlaen yn eich bywyd.
Reidio fy meic modur neu hedfan fy awyren.