ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Statws System Gwasanaethau Campws

Nid yw pob gwasanaeth yn gweithredu yr un fath ag arfer.

Fel arfer caiff y dudalen ei diweddaru rhwng 9am-5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, ac eithrio Gwyliau Banc a’r dyddiau eraill y bydd y brifysgol ar gau.

Enw GwasanaethStatws Gwasanaeth
ArlwyoGweithredol
GlanhauGweithredol
TrydanolGweithredol
GwresogiGweithredol
Lifftiau1) Un o brif lifftiau cyntedd Pontio allan o wasanaeth.
2) Lifft hygyrch Craig Mair allan o wasanaeth.
ParcioGweithredol
DiogelwchGweithredol
Cyfleusterau ChwaraeonGweithredol
¶Ùŵ°ùGweithredol
Cyfleusterau Lles/Mannau NewidGweithredol

 

Cynnal a Chadw wedi'i Drefnu

Ym misoedd Ebrill a Mai, bydd contractwyr SFS yn harchwilio y larwm ymyrraeth ar draws y campws. Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.

Ym misoedd Ebrill, Mai, Mehefin a Gorffennaf, bydd contractwyr Evans Maintenance Services yn gwasanaethu’r boeleri nwy a gwresogyddion mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Er y ceisiwn sicrhau y bydd cyn lleied â phosib o amser segur, bydd yn rhaid diffodd y cyflenwadau gwresogi a dŵr poeth dros dro i hwyluso’r gwaith o wasanaethu’r boeleri a’r pibellau.

Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.

Ym mis Mai, bydd contractwyr NW Automatic Doors Ltd yn gwasanaethu’r drysau awtomatig a drysau troi mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Bydd y cyfnod gwasanaethu ar bob drws yn fyr.

Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.

Ym misoedd Mai, Mehefin, Gorffennaf, Awst a Medi, bydd contractwyr CDS yn archwilio'r systemau larwm tân mewn amrywiol adeiladau ar y campws. Mae'r rhai y bydd y gwaith yn effeithio arnynt yn uniongyrchol wedi cael gwybod ymlaen llaw gan Ddesg Gymorth Gwasanaethau’r Campws.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Desg Gymorth Gwasanaethau Campws.