Ein Hymchwil
Mae EcoTwin yn brojiect ymchwil arloesol sy’n canolbwyntio ar drawsnewid y ffordd rydym yn rheoli ac yn diogelu ecosystemau llynnoedd.
Rydym yn datblygu ac yn cymhwyso Gefeilliaid Digidol – replicâu amser real, rhithwir o systemau dŵr ffisegol – er mwyn integreiddio gwasanaethau ecosystem yn fwy effeithiol wrth reoli adnoddau dŵr.
Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys:
- rheoli llifogydd a sychder
- darparu cynefin
- hamdden
- cyflenwi dŵr yfed
- ailgylchu maethynnau a charbon.


O Weledigaeth i Wirionedd: Ein Dull
Ein nod yw gwella gwydnwch a chynaliadwyedd llynnoedd o ganlyniad i newid hinsawdd a phwysau dynol cynyddol.
Er mwyn cyflawni ein nod, mae EcoTwin yn dod â modelu datblygedig, data Arsylwi’r Ddaear, a mewnbwn rhanddeiliaid at ei gilydd mewn fframwaith Gefell Digidol hyblyg. Mae hyn yn caniatáu i ni efelychu sut mae llynnoedd yn ymateb i newidiadau amgylcheddol a phenderfyniadau rheoli, gan ddarparu offer pwerus ar gyfer rhagfynegi byrdymor a chynllunio senarios hirdymor.
Atebion Ymarferol trwy Bartneriaeth Gydweithredol
Rydym yn gweithio mewn cysylltiad agos â phobl sy’n gwneud penderfyniadau, gwyddonwyr, a chymunedau lleol er mwyn cydgynllunio atebion sy’n ymarferol, yn gymhwysol, ac yn flaengar – gan sicrhau bod llynnoedd yn parhau i ddarparu buddion hanfodol i bobl a natur fel ei gilydd.
Fframwaith Gefell Digidol
Mae’r fframwaith yn cyfuno data Arsylwi’r Ddaear, mesuriadau in situ a modelau rhifiadol er mwyn monitro a rhagfynegi darparu gwasanaethau ecosystem mewn llynnoedd. Mae’r fframwaith hwn wedi’i gynllunio er mwyn nodi risgiau posibl sy’n gysylltiedig â darparu gwasanaethau ecosystem mewn llynnoedd a darparu canllawiau addas ar gyfer mesurau lliniaru addas. Mae’r project yn canolbwyntio ar bedwar llyn yn Ewrop:
- Llyn Iseo (yr Eidal)
- Llyn Mälaren (Sweden)
- Llyn Balaton (Hwngari)
- Llyn Wylerberg (yr Iseldiroedd).
EIN HYMCHWILWYR
Mae’r project hwn yn dod ag ymchwilwyr arbenigol o brifysgolion a sefydliadau at ei gilydd. Rydym yn amlinellu eu harbenigedd a’u rôl yn y project isod.
Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Arbenigwyr mewn Arsylwi ar y Ddaear drwy Loeren, modelu rhifiadol, ac effeithiau newid hinsawdd ar systemau dyfrol, sydd â chefndir cryf mewn llynoleg ffisegol. Mae’n gweithredu fel cydlynydd consortiwm EcoTwin, ac yn arwain y gwaith o ddatblygu pensaernïaeth data’r project, gan sicrhau bod ffynonellau data amrywiol yn cael eu hintegreiddio’n ddi-dor i gefnogi efelychiadau Gefell Digidol ac offer gwneud penderfyniadau.
Darllenydd mewn Hinsoddeg a Llynoleg y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar asesiadau o effaith newid hinsawdd. Mae ei ymchwil yn integreiddio dulliau amrywiol - gan gynnwys Arsylwi’r Ddaear, modelu sy’n seiliedig ar brosesau, a deallusrwydd artiffisial - er mwyn ymchwilio sut mae newid hinsawdd yn dylanwadu ar nodweddion ffisegol ac eco-amgylcheddol llynnoedd.
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Mecaneg Hylif Amgylcheddol y mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar hydrodynameg mewn dŵr naturiol, gan gynnwys afonydd, llynnoedd a moroedd. Mae ei ymchwil yn integreiddio modelu rhifiadol, arbrofion labordy, a mesuriadau maes er mwyn ymchwilio i brosesau geoffisegol aml-raddfa a’u heffeithiau amgylcheddol.
Arbenigwyr mewn modelu hydrolegol llynnoedd a gwahanfeydd dŵr, sy’n rhoi pwyslais cryf ar lynoleg ffisegol, dynameg llifogydd mewn rhanbarthau mynyddig, ac effeithiau newid hinsawdd ar ansawdd dŵr. Mae’r grŵp yn cyfrannu dros 15 mlynedd o brofiad o fonitro llynnoedd, datblygu technoleg in-situ, a rheoli data amledd uchel. Mae eu rôl yn EcoTwin yn cynnwys modelu hydrodynameg llynnoedd ac asesu ffactorau sy’n achosi straen amgylcheddol.
Mae Giulia Valerio, sydd â Ph.D. mewn Peirianneg Hydrolig (Politecnico Milan), yn Athro Cyswllt hydroleg yn Università degli Studi di Brescia. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw cyfuno data maes a thechnegau modelu rhifiadol i ddisgrifio’r prosesau ffisegol sy’n digwydd mewn llynnoedd ac astudio eu heffeithiau ar ansawdd dŵr.
.
Mae Marco Pilotti, sydd â Ph.D. mewn Peirianneg Hydrolig (Politecnico Milan), yn Athro hydroleg llawn yn Università degli Studi di Brescia. Mae ei gyfraniadau gwyddonol pwysicaf wedi bod yn maes cludiant gwaddodion ac erydiad pridd, modelu llif mewn cyfryngau mandyllog ar raddfa ficro, a diogelwch argaeau hydrolig a Hafaliadau Dŵr Bas.
Arbenigwr mewn ecoleg gymunedol ac ecosystemau systemau dŵr croyw, sy’n rhoi pwyslais ar y rhyngweithiadau rhwng amgylcheddau dyfrol a’u dalgylchoedd. Mae ei hymchwil yn edrych ar effeithiau llwytho maethynnau, newid hinsawdd, a phwysau arall sy’n cael ei achosi gan ddyn ar lynnoedd a gwlyptiroedd. Yn EcoTwin, mae Prifysgol Dinas Dulyn yn arwain y pecyn gwaith ar gyd-ddatblygu cymunedol, yn cyd-arwain y gwaith o reoli’r project, ac yn cyfrannu tuag at integreiddio gwasanaethau ecosystem yn y fframwaith Gefell Digidol.
Dr Valerie McCarthy: Athro Cynorthwyol mewn Ecoleg a Bioamrywiaeth. Mae ei diddordebau ymchwil yn ymwneud ag ecoleg cymunedol ac ecosystemau damcaniaethol a dynameg maethynnau mewn systemau dŵr croyw â phwyslais penodol ar stoichiometreg ecolegol. Mae ganddi ddiddordeb mewn ymchwilio i’r cysylltiadau rhwng systemau dyfrol a’u dalgylchoedd a sut maent yn ymateb i aflonyddiadau sy’n deillio’n uniongyrchol ac yn anuniongyrchol o effeithiau sy’n cael eu hachosi gan ddyn, megis llwytho maethynnau a newid hinsawdd.
Athro Cynorthwyol mewn Systemau Amgylcheddol yn yr Ysgol Hanes a Daearyddiaeth. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall yr heriau a wynebir a’r cyfleoedd sydd ar gael i ddefnyddwyr dŵr, yn enwedig mewn rhanbarthau sy’n datblygu yn y byd. Mae ganddo ddiddordeb mewn deall y croestoriadau rhwng datblygiad (trefol a gwledig) a chyfalaf naturiol ac archwilio sut y gall cyfalaf naturiol ac atebion sy’n seiliedig ar natur wella bywydau rhanddeiliaid tra’n cynyddu’r gallu i wrthsefyll newid amgylcheddol a chymdeithasol.
AVI
Mae gan AVI wybodaeth leol helaeth am Lyn Balaton, ac mae’n dod ag arbenigedd o ymchwil flaenorol i hydroleg, hydrodynameg, ac ansawdd dŵr yn y rhanbarth. Yn ogystal, mae gan y sefydliad brofiad gwerthfawr o brojectau integredig yn ymwneud â gwyddorau cymdeithasol. Bydd AVI yn casglu data ac yn rhedeg modelau hydroleg, hydrodynameg, ac ansawdd dŵr ar gyfer Llyn Balaton, a hefyd yn cyfrannu tuag at y tasgau drwy’r project cyfan.
Mae Mark Honti Ph.D. yn uwch ymchwilydd yn AVI ac yn aelod o Grŵp Ymchwil Dŵr HUN-REN–BME. Ei faes ymchwil yw modelu hydrolegol ac ansawdd dŵr a rhagfynegi effeithiau newid hinsawdd. Mae wedi bod yn datblygu ac yn gweithredu dyfeisiau monitro hydrometeoroleg ac ansawdd dŵr ar-lein yn Llyn Balaton ers dros 20 mlynedd.
Mae Péter Torma Ph.D. yn Athro Cyswllt ym Mhrifysgol Technoleg ac Economeg Budapest. Mae’n astudio prosesau ffisegol a hydrometeoroleg llynnoedd bas ar sail mesuriadau a modelu rhifiadol â phwyslais arbennig ar gymysgu a phrosesau cyfnewid aer-dŵr.
Mae Gabriella Lükő Ph.D. yn ddarlithydd cynorthwyol ym Mhrifysgol Technoleg ac Economeg Budapest. Mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar gydbwysedd ynni llynnoedd, llifoedd tyrfol, ac anweddiad, gan gynnwys gorchudd rhew. Yn ychwanegol at hyn, mae’n astudio hydrodynameg seiliedig ar wynt mewn llynnoedd, gan integreiddio arsylwi a modelu.
Bence Fülöp M.Sc., peiriannydd systemau amgylcheddol, a sylfaenydd AVI, sy’n arbenigo ym maes amlddisgyblaethol cysylltu ymchwil wyddonol â phrosesau gwneud penderfyniadau, yn enwedig mewn cysylltiad â mesurau addasu i newid hinsawdd. Mae hefyd yn un o aelodau cyntaf ‘szabadonbalaton’, sefydliad sylfaenol sy’n cyfuno celf, gwyddoniaeth ac ymgyrchu.
Arbenigwyr mewn modelu a monitro prosesau gwahanfeydd dŵr a llynnoedd, â phwyslais ar effeithiau newid hinsawdd ar ecosystemau llynnoedd. Mae Prifysgol Uppsala wedi cyfrannu tuag at astudiaethau arloesol ar effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd yn Ewrop drwy brosiectau fel EU REFLECT a CLIME ac ar hyn o bryd mae’n cydlynu Sector Llynnoedd ISIMIP, sy’n gwerthuso cyflwr llynnoedd yn fyd-eang. Mae’r tîm hefyd yn arwain prosiect Water4All, MEWS, sy’n canolbwyntio ar eithafion hydrohinsoddol a’u heffaith ar gyflenwadau dŵr. Ar gyfer EcoTwin, bydd Uppsala yn datblygu modelau i asesu gwasanaethau ecosystem sy’n gysylltiedig â dŵr yfed a hamdden, ac yn eu cymhwyso i Lyn Mälaren yn Sweden. Bydd gefell digidol Mälaren yn cyfoethogi canfyddiadau MEWS drwy ddarparu efelychiadau manylach ac amlach i randdeiliaid.
Mae Ana I. Ayala, sydd â Ph.D. ar y cyd mewn Llynoleg a Gwyddorau Amgylcheddol (Prifysgol Uppsala a Phrifysgol Genefa), yn ymchwilydd ym Mhrifysgol Uppsala. Mae ei phrif ymchwil yn canolbwyntio ar fodelu prosesau ffisegol a biogeocemegol mewn llynnoedd, â phwyslais ar effeithiau newid hinsawdd.
Uwch Wyddonydd Ymchwil yn Labordy Erken ym Mhrifysgol Uppsala, sy’n canolbwyntio ar fonitro llynnoedd awtomataidd a rheoli llynnoedd mewn dull sy’n ymateb i’r hinsawdd. Bu’n arwain gwaith modelu ansawdd dŵr ar gyfer cronfeydd dŵr Dinas Efrog Newydd. Ar hyn o bryd mae’n ymwneud â phrojectau rhyngwladol ar effeithiau newid hinsawdd ar lynnoedd, gan gynnwys ISIMIP, MEWS, ac InventWater.
Arbenigwyr mewn modelu a monitro swyddogaethau ecosystem Llynnoedd a darparu gwasanaeth â chefndir cryf mewn cyd-greu a chyd-gynllunio gyda rhanddeiliaid. Fel un o’r sefydliadau mwyaf yn Academi Frenhinol Celfyddydau a Gwyddorau yr Iseldiroedd (KNAW), mae yn rhagori mewn ymchwil ecolegol, sy’n amrywio o organebau unigol i ecosystemau cyfan, â phwyslais ar fioamrywiaeth, newid hinsawdd, a defnydd cynaliadwy o dir a dŵr. Mae NIOO yn arwain uned wyddoniaeth drawswladol AKWA, gan ganolbwyntio ar ecoleg drosi, lle mae ecolegwyr, rhanddeiliaid, a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn cydweithio ar heriau amgylcheddol. Mae gan NIOO gefndir cryf mewn gwasanaethau ecosystem, a bydd yn arwain y gwaith o Integreiddio Gwasanaethau Ecosystem ym mhrosiect EcoTwin.
Yr Athro Dr. Lisette N. de Senerpont Domis: Mae gan yr Athro Dr. Lisette N. de Senerpont Domis ddiddordeb yn y ffordd y mae gwahanol gydrannau o newid hinsawdd sy’n cael ei achosi gan ddyn, er enghraifft cynhesu hinsawdd, ewtroffigedd, a micro-lygryddion, yn effeithio ar weithrediad ecosystemau dyfrol a darparu gwasanaethau ecosystemau mewn llynnoedd. Yn ogystal ag arwain grŵp ymchwil AKWA yn NIOO-KNAW, mae’n athro llawn mewn Dulliau Clyfar o Fonitro Ecoleg Systemau Dyfrol.
Ymchwilydd Ôl-ddoethurol mewn Ecoleg Ecosystemau y mae ei hymchwil yn canolbwyntio ar feintioli ac integreiddio gwasanaethau ecosystem mewn tirweddau a reolir. Mae ei gwaith yn cyfuno biogeocemeg, ecoleg ficrobaidd, a modelu ecolegol i gysylltu dangosyddion cyflwr ecosystem â darparu gwasanaeth ecosystem, a chefnogi’r gwaith o ddatblygu offer digidol ar gyfer rheolaeth amgylcheddol sy’n ystyriol o randdeiliaid.
Newyddion Diweddaraf
Gweld MwyCysylltu â Ni
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y prosiect hwn, cysylltwch â Dr Haoran Shi neu Dr Iestyn Woolway.
.