ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Bwrdd Cymunedol

Aelodau o'r Bwrdd

Mae aelodaeth y Bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol:

Cyfarfodydd

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (5 Fehefin 2025) a gynhaliwyd yn Neuadd Reichel, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É; Cyngor Gwynedd; Adra, Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É, Storiel; Canolfan Dysgu Morwrol ÑÇÖÞÉ«°É, Menter Iaith ÑÇÖÞÉ«°É, Parc Cenedlaethol Eryri, Gisda, Cyngor Ynys Môn, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN), Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica (NWAS).

Materion dan sylw: Gydag Iwan Williams yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; cyflwynodd Dr Martin Hanks, ar ran Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É, sawl brosiect sy’n ymwneud ar ddathliadau ar gyfer pen-blwydd y Ddinas yn 1500 mlwydd oed yn cynnwys dathliadau Diwrnod VE yn ddiweddar. Ar ran tîm Cydlyniant Cymunedol Gogledd Orllewin Cymru, cyflwynodd Catrin Jones diweddariad ar ran ei gwaith o fewn ein cymunedau. Cyflwynodd Danielle Williams, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ddiweddariad ar lwyddiant Gwobr Efydd Siarter Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol. Ar ran Undeb Myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, fe gyflwynodd Mya Tibbs sawl prosiect sydd wedi cael ei chefnogi eleni gan fyfyrwyr y Brifysgol. Ar ran Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, cyflwynodd Brian Laing crynodeb o’r prosiect ‘Gogledd Cymru Well’. Derbyniwyd rhagor o ddiweddariadau (yn ysgrifenedig) gan Parc Cenedlaethol Eryri, Sefydliad Confucius, a Mantell Gwynedd.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned ar sawl digwyddiad dros y wythnosau nesaf gan gynnwys; Gŵyl Draig Beats yn Nhreborth, Gŵyl Archeolegol Ecoamgueddfa, Diwrnod Cymunedol Grŵp Llandrillo Menai a phresenoldeb y Brifysgol yn Eisteddfod Wrecsam yng nghanol yr haf.Derbyniwyd diweddariad ar Gronfa Gymunedol y Brifysgol gyda pedwar prosiect wedi eu cefnogi eleni. Cefnogwyd cynllun Bwrsariaeth Myfyrwyr Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É pedwar bwrsari yn dilyn proses drylwyr, a bydd y tîm Ymgysylltu Dinesig yn diweddaru’r Bwrdd wrth i'r prosiectau ddatblygu dros y misoedd nesaf.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref 2025. 

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (23 Fawrth 2025) a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É; Cyngor Gwynedd; Adra, Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É, Storiel; Canolfan Dysgu Morwrol ÑÇÖÞÉ«°É, Menter Iaith ÑÇÖÞÉ«°É, Grŵp Llandrillo Menai, Cyngor Dinesig ÑÇÖÞÉ«°É, Parc Cenedlaethol Eryri, Ecoamgueddfa, Gisda, Cyngor Ynys Môn, CVSC.

Materion dan sylw: Gyda’r Gwenan Hine yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; ar ran Sefydliad Confucius, darparodd Lina Davitt drosolwg o’r gwaith y sefydliad yn enwedig yn y gymuned. Cyflwynodd Dr Martin Hanks, ar ran Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É, sawl brosiect sy’n ymwneud ar ddathliadau ar gyfer pen-blwydd y Ddinas yn 1500 mlwydd oed. Cyflwynodd Dr Einir Young, ar ran yr Ecoamgueddfa, ar y prosiect sydd wedi ei leoli lawr ym Mhen LlÅ·n. Derbyniwyd rhagor o ddiweddariadau (yn ysgrifenedig) gan Fenter Iaith ÑÇÖÞÉ«°É, Parc Cenedlaethol Eryri, CVSC, Prosiect Wystrys Gwyllt Bae Conwy a Gisda.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned, gan gynnwys diweddariad ar y GwÅ·l Hanes diwedd y flwyddyn, mewn partneriaeth gyda Chyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É. Derbyniwyd diweddariad am y Gronfa Gymunedol yn dilyn y pedwerydd galwad yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd pedwar prosiect ei gefnogi eleni. Dros y wythnosau nesaf bydd y Brifysgol yn lansio Bwrsariaeth Myfyrwyr Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É, cynllun sy’n ceisio cryfhau’r cysylltiad rhwng yr ymchwil academaidd a wneir ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a phenderfyniadau strategol Cyngor Dinas ÑÇÖÞÉ«°É.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mehefin 2025.

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (7 Hydref 2024) a gynhaliwyd yn Siambr y Cyngor, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canlynol yn y cyfarfod: Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É; Cyngor Gwynedd; Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr; Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru (NWREN); Storiel; Cadeirlan ÑÇÖÞÉ«°É; Canolfan Dysgu Morwrol ÑÇÖÞÉ«°É, Cymdeithas Gogledd Cymru Affrica (NWAS), Mantell Gwynedd, Menter Iaith ÑÇÖÞÉ«°É, Grŵp Llandrillo Menai.

Materion dan sylw: Gyda’r Athro Andrew Edwards yn cadeirio, cafwyd y cyflwyniadau canlynol; ar ran y tîm Gwasanaethau Myfyrwyr, darparodd Alan Edwards drosolwg o brofiad Myfyrwyr Rhyngwladol y Brifysgol. Cyflwynodd Danielle Williams, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ddiweddariad ar gynnydd cais Siarter Cydraddoldeb Hiliol y Brifysgol. Cyflwynodd Darren Morley Glinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sy'n agor yn ddiweddarach y mis hwn. Rhoddodd Dr Nia Jones, ar ran Ysgol Feddygaeth Gogledd Cymru, drosolwg o'r Ysgol Feddygaeth i'r grŵp. Cafwyd rhagor o ddiweddariadau gan Ganolfan Dysgu Morwrol ÑÇÖÞÉ«°É, Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru a Mantell Gwynedd.

Derbyniwyd diweddariad gan y tîm Ymgysylltu â'r Gymuned, gan gynnwys llwyddiant yn yr Eisteddfod Genedlaethol a'r Sioe Frenhinol. Nodwyd bod y digwyddiad IWA terfynol wedi'i gynnal ar 3 Hydref yn Pontio a bydd y Brifysgol nawr yn cychwyn cynllunio digwyddiadau eu hunain yn gynnar y flwyddyn newydd. Disgwylir i'r Gronfa Gymunedol gael ei lansio yn ystod yr wythnosau nesaf a bydd partneriaeth ranbarthol newydd, gyda chefnogaeth MEDR, yn gweld Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cydweithio â Phrifysgol Wrecsam, Grŵp Llandrillo Menai a Choleg Cambria ar gyfres o weithgareddau dros y 12 mis nesaf.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Mawrth 2025.

Cyfarfod Bwrdd Cymunedol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (17 Fehefin 2024) a gynhaliwyd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Yn bresennol roedd cynrychiolwyr o’r cyrff/sefydliadau canly