Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae鈥檙 cwrs hwn wedi'i achredu gan Sefydliad y Coedwigwyr Siartredig ac mae鈥檔 cyflawni gofynion mynediad i Aelodaeth Broffesiynol yn rhannol.
Rhaglen integredig o'r radd flaenaf dros gyfnod o ddwy flynedd yw鈥檙 cwrs sydd 芒'r nod o gymhwyso graddedigion i ymdrin 芒'r heriau enfawr sy'n wynebu coedwigoedd, amaethyddiaeth a defnydd tir cynaliadwy mewn rhanbarthau tymherus. Mae'r staff addysgu yn ymchwilwyr brwd a bydd y myfyrwyr yn elwa o'r ystod eang o weithgareddau ymchwil a chysylltiadau sydd gennym yn y Deyrnas Unedig a thramor.
Mae鈥檙 cwrs unigryw hwn yn cyfuno profiadau addysgu ac ymchwil pum sefydliad addysg blaenllaw yn Ewrop ac yn cynnig rhaglen addysgol fanwl sydd ar flaen y gad o ran addysgu ar sail ymchwil a gyda chysylltiadau cryf 芒鈥檙 realiti yn llawer o wledydd Ewropeaidd a thu hwnt i Ewrop.
Cynigir y cwrs Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy gan gonsortiwm sy'n cynnwys pum sefydliad:
- Canolfan Coedwigoedd, Tirwedd a Chynllunio Denmarc, Cyfadran Gwyddoniaeth, Prifysgol Copenhagen, Denmarc
- Ysgol yr Amgylchedd ac Adnoddau Naturiol, Prifysgol 亚洲色吧, 亚洲色吧, Gwynedd
- Cyfadran Gwyddor Coedwigoedd ac Ecoleg, Prifysgol Goettingen, G枚ttingen, yr Almaen
- Canolfan Ymchwil Coedwigoedd De Sweden, Prifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden, Alnarp, Sweden
- Cyfadran Amaethyddiaeth, Prifysgol Padova, Padova, yr Eidal.
Ceir gwybodaeth fanwl am gwrs Meistr Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy ar gael yn
Mae'r dudalen we hon yn disgrifio'r cwrs Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy fel y mae wedi ei strwythuro yn y sesiwn academaidd gyfredol. Er bod nodau'r rhaglen a strwythur eang y radd yn debyg o flwyddyn i flwyddyn, gall manylion newid dros amser i fodloni gofynion y proffesiwn ac archwiliadau academaidd, ac i sicrhau bod y rhaglen yn parhau i fod yn effeithiol ac yn gyfoes.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Y Flwyddyn Gyntaf
Caiff blwyddyn gyntaf y cwrs ei threulio yn astudio yn un o dri sefydliad (亚洲色吧, Copenhagen, G枚ttingen) a chaiff yr ail flwyddyn ei threulio yn arbenigo mewn pynciau gwahanol a gynigir gan y pum sefydliad. Mae'n ofynnol i'r myfyrwyr dreulio'r ail flwyddyn mewn prifysgol wahanol i鈥檙 flwyddyn gyntaf. Nod y flwyddyn gyntaf yw cynnig cyflwyniad trylwyr ac eang i reoli coedwigoedd a thir yn gynaliadwy. Mae'r deilliannau dysgu yn debyg ar gyfer y tri sefydliad yn y flwyddyn gyntaf ac yn caniat谩u i fyfyrwyr ddewis fel y mynnant o blith y pum opsiwn arbenigol yn yr ail flwyddyn. Daw'r flwyddyn astudio gyntaf i ben gyda Modiwl Haf ar y Cyd, sy'n cael ei redeg fel gwibdaith am bythefnos i un o wledydd y Consortiwm.
Yr Ail Flwyddyn
Gallwch arbenigo yn yr ail flwyddyn o fewn y pynciau canlynol:
- Rheoli Coedwigoedd a Natur ar gyfer Cymdeithas (Copenhagen)
- Rheoli Coedwigoedd a Natur mewn Hinsawdd sy鈥檔 Newid (G枚ttingen)
- Rheoli Coedwigoedd yng Ngwledydd Llychlyn a Rhanbarth y Baltig (Alnarp)
- Rheoli Coedwigaeth Mynydd a Gwahanfeydd D诺r (Padova).
Wrth arbenigo bydd rhaid gwneud traethawd ymchwil yn seiliedig ar ymchwil a gwaith maes y tu mewn neu'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Pan fydd y myfyrwyr wedi caffael 120 o gredydau drwy astudio mewn dau o sefydliadau鈥檙 Consortiwm (o leiaf 60 credyd ym mhob un) byddant yn cael gradd ddwbl mewn Rheolaeth Coedwigoedd a Natur Cynaliadwy a Diploma Ychwanegol. Gellir cwblhau holl weithgareddau modiwlaidd y rhaglen yn Saesneg. Dyfernir y graddau canlynol: MSc mewn Coedwigaeth yn Copenhagen, MSc mewn Coedwigaeth Amgylcheddol ac MSc mewn Cadwraeth a Rheoli Tir ym Mangor, MSc mewn Coedwigaeth yn G枚ttingen, MSc mewn Coedwigaeth yn Alnarp, ac MSc mewn Gwyddorau Coedwigaeth a'r Amgylchedd yn Padova.
Modiwlau Gorfodol 亚洲色吧:
- Asesu Adnoddau Coedwigoedd: Mae'r modiwl hwn yn rhoi cyflwyniad i adnoddau a pholisi coedwigoedd ledled y byd.
- Coedwriaeth: mae'r modiwl hwn yn darparu dealltwriaeth o goedwriaeth a rheoli coedwigoedd mewn rhanbarthau tymherus. Mae hefyd yn amlygu'r rhyngweithio rhwng systemau rheoli a'r amgylchedd ffisegol.
- Rheoli Adnoddau Naturiol : Mae'r modiwl hwn yn rhoi dealltwriaeth ddamcaniaethol ac ymarferol i fyfyrwyr o systemau rheoli adnoddau naturiol i ddarparu gwahanol wasanaethau ecosystemau.
- Gwybodaeth Lleoliad-benodol a gwaith maes mewn rheoli coedwigoedd a natur mewn rhanbarthau tymherus: Mae'r modiwl hwn wedi'i gynllunio yn ei hanfod i alluogi paratoi manwl ar gyfer gwaith maes mewn rheoli coedwigoedd a natur mewn rhanbarthau tymherus.<