Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Caiff y cwrs byr, lefel 6 rhan-amser hwn ei gyflwyno ar ein campws ym Mangor.
I bwy mae鈥檙 cwrs hwn yn addas?
Mae'r cwrs byr hwn yn addas ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol sy'n gweithio naill ai yn yr adran achosion brys neu mewn amgylchedd m芒n anafiadau, h.y. nyrs, parafeddyg, ffisiotherapydd neu fferyllydd.
Pam astudio鈥檙 cwrs?
Ffocws y modiwl yw datblygu sgiliau a chymhwysedd mewn amrywiaeth o feysydd megis asesu cleifion, anafiadau cyffredin i'r coesau a鈥檙 breichiau, clwyfau gan gynnwys m芒n losgiadau, pwytho a chau clwyfau, asesu m芒n anafiadau i'r pen, anafiadau a chyflyrau offthalmig cyffredin, a brathiadau gan bryfed, anifeiliaid a phobl.
Cefnogaeth yn y gweithle: rhaid bod gan ymgeiswyr gefnogaeth eu rheolwr a chaniat芒d i ymarfer dan oruchwyliaeth mewn maes priodol fel ymarferydd brys. Felly, rhaid i ymgeiswyr fod 芒 chytundeb 芒 goruchwyliwr addas (e.e. ymarferydd brys neu feddyg profiadol) cyn gwneud cais.
Pa mor hir mae'r cwrs yn cymryd i'w gwblhau?
Mae鈥檙 cwrs byr rhan-amser hwn yn rhedeg dros 7 mis. Bydd gofyn i ymgeiswyr fynychu 12 diwrnod o addysgu ar y campws ar y dyddiadau canlynol:
- 19 Medi
- 26 Medi
- 10 Hydref
- 17 Hydref
- 24 Hydref
- 14 Tachwedd
- 21 Tachwedd
- 28 Tachwedd
- 5 Rhagfyr
- 9 Ionawr 2025
- 23 Ionawr 2025
- 6 Chwefror 2025
- 6 Mawrth 2025 (diwrnod asesu)
Gwybodaeth am asesiadau
Bydd asesiadau鈥檙 cwrs byr hwn yn cynnwys:
- aseiniad ysgrifenedig
- dogfen asesu ymarfer gan gynnwys cymwyseddau
- arholiad 1.5 awr heb ei weld yn flaenorol
- 2 Arholiad Clinigol Strwythuredig Gwrthrychol (OSCE) (breichiau a choesau)
Tiwtorau
Gillian Roberts ac Heather Bloodworth

Mae gan Gillian wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, ymarferydd brys a nyrsio practis cyffredinol.

Mae gan Heather wybodaeth a phrofiad helaeth yn ymwneud ag ymarfer uwch, endocrinoleg, gofal brys a nyrsio practis cyffredinol
Enillodd Gill a Heather wobr Catalyst yn 2023 am ddysgu ac addysgu. Mae'r wobr ryngwladol flynyddol hon yn cydnabod ac yn anrhydeddu arloesedd a rhagoriaeth yng nghymuned ymarfer fyd-eang Anthology.
Enillwyd y wobr trwy ddylanwadu'n gadarnhaol ar brofiad addysgol myfyrwyr a'u goruchwylwyr clinigol sy'n cefnogi'r modiwl nyrsio practis cyffredinol.
.
