Pam Astudio Cerddoriaeth?
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned fywiog o gyfansoddwyr, ysgolheigion a cherddorion o bob cwr o'r byd, byddwch yn elwa o'r cyfleoedd i rannu syniadau a chreadigrwydd mewn amrywiol ddulliau cerddorol. Mae ein cyfleusterau gyda'r gorau yn y byd, gan gynnwys pum stiwdio electroacwstig o'r radd flaenaf, casgliadau unigryw yn yr archifau a'r llyfrgell, cyfleusterau ymarfer 24 awr, offerynnau gwych, a neuaddau cyngerdd godidog. Cewch eich dysgu a'ch goruchwylio gan gerddolegwyr, cyfansoddwyr ac ymarferwyr byd-enwog, ac mi gewch eich sbarduno a'ch ysgogi'n ddeallusol gan siaradwyr ac artistiaid gwadd. Y tu allan i'r cwrs, cewch ymuno 芒 chorau, cerddorfeydd ac ensembles eraill, a gallwch elwa o'r llu o gyfleoedd sydd ar gael ichi fel aelod o brifysgol draddodiadol fywiog.
Profiad Myfyrwyr
Mae ein myfyrwyr yn siarad am eu profiad yn Prifysgol 亚洲色吧 hyd yn hyn ac yn rhannu cyngor ar pam y dylech ystyried astudio Cerddoriaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧
00:00.00 - 00:05.00
Fy enw i yw Dai Mito ac rwyf wedi Astudio Cyfansoddi Cerddoriaeth a Chelf Sonig
00:05.00 - 00:14.00
Dwi wedi mwynhau creu cerddoriaeth yn enwedig cerddoriath i film distaw
00:15.00 - :00:27.00
mae yn llefydd gwych yn y Prifysgol, fel esiampl ystafell Piano, Stiwdio ac hefyd digonedd o llyfrau yn y llyfrgell. mae hyn yn help mawr i fy astudiaethau
00:27.00 - :00:37.00
Mae rhaid i mi creu cerddoriaeth benodol a effeithiau sain, mae yn defnyddiol hefo y fordd rydw i yn meddwl
00:37.00 - 00:57.000
syd i wneud i teledu, film a gemau. fyswn i yn hoffi gweithio yn wneud golygu, recordio a creu i cwmi Japaneaidd gorfforaeth ddarlledu, fel y BBC
00:57.00 - 01:00.00
breuddwyd fawr yw hon.
Cyfleoedd Gyrfa o Cerddoriaeth
Mae astudio ar lefel Meistr ym Mangor yn fan cychwyn delfrydol ar gyfer gyrfa arbenigol mewn cerddoriaeth. Mae graddedigion ein graddau Meistr wedi mynd ymlaen i weithio fel cyfansoddwyr proffesiynol, perfformwyr, addysgwyr, awduron, darlledwyr, ymchwilwyr a rheolwyr mewn amrywiol sefydliadau celfyddydol. Aeth nifer rhagddynt i astudio graddau PhD, ac yna i yrfaoedd o fri mewn prifysgolion a conservatoires ledled y byd.