Mae ein cyrsiau PhD Archaeoleg a'n cyrsiau PhD Treftadaeth yn rhoi cyfle gwych i chi wneud darn o ymchwil academaidd manwl, dan oruchwyliaeth arbenigol, yn y maes sydd fwyaf o ddiddordeb i chi.
Mae Archaeoleg ym Mangor yn manteisio ar ein lleoliad bendigedig mewn ardal sydd ag amrywiaeth eang o henebion archeolegol - beddrodau cynhanesyddol a chylchoedd cerrig, caerau Rhufeinig, cestyll canoloesol (gan gynnwys Safleoedd Treftadaeth y Byd ym Miwmares, Caernarfon a Chonwy), ac olion y chwyldro diwydiannol. Mae diddordebau ymchwil aelodau staff Archaeoleg yn cynnwys: cynhanes cynnar Prydain ac Iwerddon, yr Oes Haearn Geltaidd yn Ewrop a Phrydain, Arfordir Gorllewin yr Iwerydd, Cymru ac Iwerddon yn yr Oesoedd Canol cynnar, a hanes archaeoleg. Mae gan sawl aelod staff brojectau maes yng Nghymru a thu hwnt.
Byddwch yn llunio traethawd ymchwil o dan arweiniad goruchwylwyr ag arbenigedd benodol, gan arwain at gyflwyno traethawd ymchwil sy'n gwneud cyfraniad gwreiddiol at wybodaeth a dadl hanesyddol. Ein nod yw rhoi arweiniad i chi ddod yn ymchwilydd annibynnol.
Pam Astudio Archeoleg a Threftadaeth?
Ym Mangor, ceir cymuned ymchwil 么l-radd fywiog sy'n tyfu a byddwch yn rhan o awyrgylch dysgu clos a chefnogol. Byddwch yn: