5 rheswm dros astudio Meddygaeth ym Mangor
Rydym yn gwerthfawrogi bod dechrau rhaglen Meddygaeth yn gam mawr i bob un o鈥檔 myfyrwyr newydd, ac yn cydnabod mai dyma鈥檙 rhaglen academaidd hiraf sydd ac un o鈥檙 mwyaf heriol. O鈥檙 herwydd, gwnawn yn si诺r fod cefnogaeth fugeiliol ac academaidd ar gael i fyfyrwyr drwy gyfrwng tiwtor personol dynodedig.
- Mae ein dull, sy'n canolbwyntio ar y dysgwr, yn cynnwys addysgu a dysgu mewn grwpiau bach felly byddwch yn elwa o gael mwy o amser cyswllt gyda'ch darlithwyr.
- Mae cwricwlwm blwyddyn 1 yn seiliedig ar addysgu mewn grwpiau bach, gan gynnwys Dysgu ar sail Achosion sy鈥檔 ffordd o gysylltu eich dysgu gwyddonol gyda straeon go iawn o fywydau cleifion. Mae hefyd yn gosod y claf wrth wraidd eich astudiaethau.
Mae astudio meddygaeth yng Nghymru, sy鈥檔 wlad ddwyieithog, yn eich helpu i ddatblygu sgiliau cyfathrebu gwerthfawr. Bydd gallu teimlo鈥檔 hyderus wrth drin cleifion sydd 芒 mamiaith wahanol i chi yn eich galluogi i weithio yn unrhyw le yn y byd, a byddwch yn ymgynghori鈥檔 aml 芒 chyfieithwyr ar y pryd o bob rhan o鈥檙 Deyrnas Unedig.
- Mae鈥檙 ystafell rhithrealiti yn darparu hyfforddiant enghreifftiol trochol sy'n galluogi myfyrwyr i ddod yn gymwys ag ymdrin 芒 phroblemau clinigol sydd bron byth yn digwydd ond y mae angen gallu eu hadnabod a gweithredu yn eu cylch ar unwaith.
- Caiff anatomi ei addysgu trwy fanteisio ar dechnoleg fodern, gan gynnwys bwrdd dyrannu electronig 'Anatomage', sgriniau Fideo 3D di-wydr ac apiau symudol.
- Mae llawer o gyfleoedd yn ystod y modiwl Clerciaeth Integredig Hydredol ym mlwyddyn 2 ac yn y lleoliadau ym mlynyddoedd 3 a 4 i gael profiad o feddygaeth yn ardal anghysbell, wledig, fynyddig, hardd gogledd Cymru.
- Mae鈥檙 Rhaglen yn cynnwys diwrnod unigryw i efelychu Iechyd Gwledig 'yn y maes' a ddarperir mewn partneriaeth 芒 gwasanaethau gwirfoddol, gan gynnwys y Gwasanaeth Achub Mynydd, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, Sefydliad Brenhinol y Badau Achub, a staff arbenigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a鈥檙 Brifysgol.