5 rheswm i astudio Ieithoedd Modern
Mae ein dosbarthiadau'n llai na'r mwyafrif, sy鈥檔 golygu ei fod yn llawer haws i chi ddod i adnabod eich cyd-fyfyrwyr a鈥檙 staff dysgu. Y tu allan i鈥檙 dosbarth, rydym yn trefnu teithiau a digwyddiadau cymdeithasol i鈥檔 myfyrwyr. Mae lle hefyd i chi ymlacio ac astudio gyda鈥檆h cyd-fyfyrwyr yn ein hystafell adnoddau bwrpasol, ystafell ymlacio neu yn y Ganolfan Iaith. Mae'r Gymdeithas Ieithoedd Modern hefyd yn rhan fawr o'n cymuned yma, cymdeithas sy'n trefnu digwyddiadau sy'n canolbwyntio ar ffilm, bwyd a diwylliannau ieithoedd.
Nid oes ots gennym gyfaddef mai鈥檙 flwyddyn dramor yw un o elfennau mwyaf cyffrous eich gradd! Gallwch dreulio amser mewn gwlad lle mae'r iaith rydych yn ei hastudio yn cael ei siarad gan bawb er mwyn gwella eich sgiliau iaith. Mae gennym dros 30 o brifysgolion partner yn Ewrop a Tsieina gydag amrywiaeth o leoliadau, yn brifddinasoedd mawr ac yn leoliadau llai, mwy gwledig. Gallwch hefyd ddewis gweithio dramor, gallwch wneud cais i fod yn gynorthwyydd iaith ar gynllun cynorthwyydd iaith y Cyngor Prydeinig neu chwilio am leoliad gwaith eich hun.
Rydym yn gwybod bod y flwyddyn dramor yn gallu ymddangos fel rhywbeth mawr, felly rydym yn gwneud yn si诺r eich bod yn gallu paratoi'n drylwyr gyda rhestr o ddigwyddiadau a chydlynwyr penodol ar gyfer pob iaith a fydd yn cadw mewn cysylltiad 芒 chi tra byddwch i ffwrdd. Mae ein Swyddfa Rhaglenni Cyfnewid Rhyngwladol a鈥檔 T卯m Cymorth Ariannol wrth law i helpu i drefnu鈥檙 gwaith papur ac i wneud yn si诺r eich bod yn gallu gwneud yn fawr o鈥檙 flwyddyn.
Mae llawer o sgiliau trosglwyddadwy y byddwch yn eu hennill wrth astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Ar yr un pryd 芒 datblygu eich sgiliau Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg neu 罢蝉颈别颈苍毛别驳, byddwch yn dysgu am ddiwylliant gwledydd, fydd yn rhoi agwedd fyd-eang ac ymwybyddiaeth ddiwylliannol i chi. Mae ysgrifennu, darllen a siarad i safon uchel i gyd yn sgiliau allweddol y byddwch yn eu dysgu ond mae鈥檙 gallu i ymchwilio a rheoli llawer iawn o wybodaeth, dadansoddi dadleuon a deall cynildeb diwylliannol, a gweithio鈥檔 effeithiol yn annibynnol ac fel rhan o d卯m hefyd yn sgiliau y gallwch ddisgwyl eu dysgu.
Gall astudio Ffrangeg, Sbaeneg, Almaeneg neu 罢蝉颈别颈苍毛别驳 agor drysau i amrywiaeth o yrfaoedd. Mae rhai o鈥檔 graddedigion wedi mynd ymlaen i swyddi ym maes addysg, cyfieithu, sylwebu chwaraeon a bancio. Mae ein cynllun Cyfaill Iaith, sy'n paru myfyrwyr 亚洲色吧 gyda myfyrwyr cyfnewid o'n prifysgolion partner i ymarfer eu sgiliau iaith a gwneud ffrindiau newydd, yn ychwanegiad gwych at eich CV!
Ym Mhrifysgol 亚洲色吧, nid ydym yn mynnu eich bod wedi astudio iaith ar gyfer Lefel A. Mae gan bob un o鈥檔 rhaglenni ddau lwybr lle gallwch barhau 芒鈥檆h astudiaethau Lefel A ar lefel uwch neu ddewis y llwybr i ddechreuwyr. Mae hyn yn rhoi hyblygrwydd i chi; gallech ddewis dysgu iaith newydd gyda ni neu barhau ag un iaith o Lefel A a dysgu iaith newydd. Er enghraifft, os ydych yn astudio Ffrangeg ar gyfer Lefel A ond eisiau rhoi cynnig ar ddysgu Sbaeneg, gallwch wneud hynny. Byddwch yn mynd i'r llwybr '脭l Lefel A' ar gyfer Ffrangeg a鈥檙 llwybr 'Dechreuwyr' ar gyfer Sbaeneg. A chofiwch ym Mangor, gallwch astudio hyd at dair iaith ar yr un pryd!
Rydym yn hoffi cadw ein graddau mor hyblyg 芒 phosib. Os byddwch yn dewis astudio tair iaith yn eich blwyddyn gyntaf, gallwch benderfynu ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf a ydych am barhau 芒'r tair neu fynd i lawr i ddwy neu un iaith. Mae gennym hefyd amrywiaeth o fodiwlau dewisol i astudio diwylliannau, gallwch hefyd ddewis ymgymryd 芒 modiwlau o'r brifysgol ehangach (os ydynt ar gael). Er enghraifft, efallai y byddwch am wneud modiwl mewn ysgrifennu creadigol, cerddoriaeth neu seicoleg.
Mae gan y rhan fwyaf o'n graddau ieithoedd modern yn cynnwys blwyddyn dramor, ond gallwch ddewis peidio ag astudio dramor fel rhan o'n gradd Astudiaethau Ieithoedd Modern 3 blynedd.
Darganfyddwch y cwrs Ieithoedd Modern i chi
Ein graddau Ieithoedd Modern
Oeddech chi'n gwybod gallwch chi astudio un iaith neu gyfuniad o ddwy neu dair iaith ar ein prif raglenni.
Oeddech chi'n gwybod gallwch chi astudio un iaith neu gyfuniad o ddwy neu dair iaith ar ein prif raglenni.