5 Rheswm i Astudio Cerddoriaeth
Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae鈥檙 adeilad Cerddoriaeth wedi elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar, yn ogystal 芒鈥檔 Stiwdios Cerddoriaeth Electronig. Yn yr adeilad Cerddoriaeth, mae ein prif neuadd ddarlithio (gyda phiano cyngerdd Steinway newydd) sy鈥檔 lleoliad delfrydol ar gyfer datganiadau ac ymarferion. Mae gennym hefyd ddwy neuadd gyngerdd arall 芒 chyfarpar proffesiynol, gyda phianos cyngerdd Steinway newydd hefyd. Cynhelir cyfres fywiog o ddatganiadau a chyngherddau o bob math o gerddoriaeth yma ac yn Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi'r brifysgol.
Byddwch yn astudio gyda staff sy鈥檔 enwog am eu harbenigedd gyda鈥檙 gorau yn y byd, ac sy鈥檔 dod 芒鈥檜 gwybodaeth a鈥檜 profiad i鈥檙 ystafell ddosbarth. Mae dosbarthiadau ac asesiadau wedi鈥檜 cynllunio i fod yn heriol ac yn ysgogol yn ddeallusol ar draws ein tair disgyblaeth: cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio. P鈥檙un a fyddwch yn gwerthuso cerddoriaeth o鈥檙 gorffennol neu鈥檙 presennol, byddwch yn datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol a chreadigrwydd, sy鈥檔 drosglwyddadwy iawn i fyd gwaith.
Mae ein cwrs yn hyblyg, fel y gallwch ddatblygu eich diddordebau mewn meysydd cyfarwydd (megis hanes cerddoriaeth, cyfansoddi neu berfformio) a darparu cyfleoedd cyffrous i astudio mewn meysydd llai cyfarwydd (megis Cerddoriaeth mewn Iechyd a Lles, Nodiant a Golygu, a chyfansoddi Acwsmatig ).
Mae creu cerddoriaeth gydag eraill yn rhan annatod o brofiad gradd mewn cerddoriaeth. Gallwch ddewis astudio perfformiad unigol ar eich prif offeryn neu lais, ond mae opsiynau hefyd i berfformio mewn ensembles fel rhan o'ch cwrs. Y tu allan i鈥檙 rhaglenni gradd, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, boed mewn ensembles a gynhelir gan y brifysgol (Cerddorfa Symffoni Prifysgol 亚洲色吧; Corws y Brifysgol; C么r Siambr) neu yn y grwpiau niferus gaiff eu cynnal gan fyfyrwyr, yn cynnwys Cerddorfa a Ch么r y Gymdeithas Gerddoriaeth, y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jas a'r Gerddorfa Linynnol. Mae ensembles myfyrwyr bob amser yn cael lle amlwg yn ein cyngherddau gala yn ogystal ag yng Ng诺yl Gerddoriaeth
Rydym yn ymfalch茂o mewn cynnig profiad sy鈥檔 canolbwyntio ar fyfyrwyr. Cewch eich croesawu i gymuned fywiog a chefnogol o staff yr ysgol Cerddoriaeth a chyd-fyfyrwyr. Mae llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn creu cerddoriaeth a gweithgareddau allgyrsiol eraill. Pan fyddwch yn cyrraedd byddwch yn cael arweinydd cyfoed i'ch helpu i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas ac ymgartrefu ym Mangor. Byddwch yn derbyn cefnogaeth academaidd gan eich darlithwyr a thiwtoriaid, sydd bob amser yn hapus i ateb cwestiynau a chynnig cyngor. Mae gan bob myfyriwr hefyd diwtor personol, aelod staff academaidd sydd yno i ddarparu gofal a chefnogaeth fugeiliol. Mae'r brifysgol hefyd yn cynnig amrywiaeth eang o gefnogaeth bellach drwy'r Gwasanaethau Myfyrwyr.
Mae paratoi myfyrwyr fel bod ganddynt gyfleoedd cyflogadwyedd rhagorol yn rhan ganolog o鈥檔 cyrsiau. Mae astudio, perfformio a chreu cerddoriaeth yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau hanfodol megis meddwl yn feirniadol, creadigrwydd, datrys problemau a gwaith t卯m. Byddwch hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd i roi eich sgiliau ar waith trwy leoliadau cymunedol, fel y gallwch edrych ar y defnydd o gerddoriaeth mewn gwahanol gyd-destunau, megis canolfannau cerddoriaeth a chartrefi gofal. Rydym hefyd yn cynnig amrywiaeth o gefnogaeth gydag ysgrifennu CV, cyfweliadau a datblygiad proffesiynol. Mae鈥檙 sgiliau a鈥檙 profiadau y byddwch yn eu hennill yn cael eu gwerthfawrogi鈥檔 fawr gan ddarpar gyflogwyr ac yn caniat谩u i鈥檔 graddedigion ddilyn amrywiaeth eang o yrfaoedd.
Darganfyddwch y cwrs Cerddoriaeth i chi

