Yngl欧n 芒 Bydwreigiaeth
Mae bydwragedd yn ymdrechu i sicrhau'r iechyd gorau i famau a babanod newydd-anedig, genedigaeth ffisiolegol a'r profiad geni cyffredinol gorau i fenywod, eu partneriaid a'u teuluoedd. Mae bydwragedd yn gweithio mewn amgylcheddau ymarfer gofal iechyd ac ym maes addysg, ymchwil a rheolaeth iechyd, i gefnogi rhoi gofal o ansawdd i ferched a'u partneriaid cyn, yn ystod ac ar 么l genedigaeth eu baban. Mae tystiolaeth ymchwil genedlaethol a rhyngwladol yn sail i ymarfer bydwreigiaeth gyfoes yn y DU.
Mae bydwragedd yn gweithio'n annibynnol mewn amgylcheddau gofal dan arweiniad bydwragedd gan gynnwys y gymuned, genedigaethau gartref, canolfannau genedigaeth ac ochr yn ochr ag unedau dan arweiniad bydwragedd (wedi'u lleoli wrth ymyl unedau mamolaeth mwy mewn ysbytai). Mae bydwragedd hefyd yn cydlynu gofal i ferched a'u babanod newydd-anedig sydd angen cyngor a gofal ychwanegol gan y t卯m amlddisgyblaethol. Mae gwaith t卯m yn agwedd hanfodol ar ofal iechyd modern. Mae bydwragedd yn gweithio'n agos gyda gweithwyr proffesiynol eraill gan gynnwys bydwragedd ymgynghorol ac arbenigol eraill, obstetregwyr, meddygon teulu, nyrsys, gweithwyr iechyd meddwl, ffisiotherapyddion, dietegwyr, neonatolegwyr, ymwelwyr iechyd ac ymgynghorwyr llaetha, a llawer mwy.
Mae myfyrwyr bydwreigiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn profi rhagoriaeth mewn addysg bydwreigiaeth yn ystod profiad myfyrwyr rhagorol a lleoliadau ledled y rhanbarth gyda phartneriaid ymarfer.

Pam Astudio Bydwreigiaeth?
Mae ein gwaith partneriaeth agos gyda phartneriaid ymarfer yn sicrhau bod ein rhaglen Baglor Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yn eich paratoi i fod yn fydwraig sy'n gallu darparu gofal bydwreigiaeth rhagorol. Cewch eich dysgu mewn sefydliad addysg uwch sydd wedi ennill gwobr aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu (TEF), mewn ardal o harddwch naturiol eithriadol, gan addysgwyr bydwreigiaeth arbenigol a chan ymarferwyr profiadol yn ein sefydliadau partner dysgu ymarfer.
Cyrsiau o fewn Bydwreigiaeth
Darganfyddwch y cyrsiau sydd o fewn y maes pwnc.