Roedd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wrth ei bodd yn derbyn mainc a roddwyd gan y cyn-fyfyriwr Lynn James (Celfyddydau, 1967) fis diwethaf ar gyfer safle Meysydd Chwaraeon Treborth.
Rhoddodd Lynn y fainc i goffáu Hen Sêr Pêl-droed Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É – cyn-chwaraewyr tîm pêl-droed myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Fel myfyriwr, Lynn oedd Is-gapten y clwb pêl-droed rhwng 1966 a 1967, a gwasanaethodd fel Capten rhwng 1967 a 1968, a nodir gan blac ar y fainc.
Mae plac i gyn-gyd-chwaraewr Lynn, John Young (Ieithoedd Modern, 1970), hefyd yn cael ei arddangos, ynghyd ag un arall sy'n gwahodd Hen Sêr Pêl-droed eraill sydd wedi dychwelyd am benwythnos yr Hen Sêr ers dros 10 mlynedd i ddilyn esiampl Lynn a John ac ychwanegu eu manylion eu hunain.
Mae Lynn wedi bod yn gefnogwr brwd o waith y Swyddfa Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr dros y blynyddoedd, gan gynnal cysylltiad â'r brifysgol drwy fynychu digwyddiadau a rhoi rhoddion i Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É. Mae Lynn, John a nifer o Hen Sêr pêl-droed eraill yn dychwelyd i Fangor ddechrau mis Mai bob blwyddyn ar gyfer penwythnos yr Hen Sêr, ac mae wedi bod yn wych croesawu'r grŵp am aduniad ychwanegol ym mis Medi yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Dywedodd Lynn:
Mae mainc "Hen Sêr" Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn fynegiant bach iawn o'r ddyled sydd arnaf i'm profiad chwaraeon ac academaidd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É o 1964 - 8. Dim ond 2,000 o fyfyrwyr oedd gan y brifysgol bryd hynny, ond roedd ganddi 5 tîm pêl-droed. Ni fyddai dim yn fy mhlesio'n fwy na chlywed bod y brifysgol yn dychwelyd at y lefel honno o gyfranogiad.
Rydw i wedi gweithio mewn sawl prifysgol yn y Deyrnas Unedig a Gogledd America, ac nid wyf erioed wedi dod o hyd i - na chlywed am - unman lle mae cyn-fyfyrwyr chwaraeon yn dychwelyd bob blwyddyn i gynnal y traddodiad gorau o chwarae gêm "gyfeillgar" flynyddol yn erbyn timau o fyfyrwyr presennol. Hir oes i hyn, a gobeithio y bydd yn parhau i gael ei gefnogi fel y mae ar hyn o bryd gan staff y brifysgol a'r cyn-fyfyrwyr.
Dywedodd Emma Marshall, Pennaeth Datblygu a Chysylltiadau Cyn-fyfyrwyr
Rydym mor ddiolchgar i Lynn am roi’r fainc Hen Sêr i goffáu ei gyfnod yn y brifysgol. Mae'r fainc yn ychwanegiad gwych i safle Treborth ac yn atgof gwych i'n timau presennol o hanes clybiau chwaraeon y brifysgol. Mae teyrngarwch Lynn i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn beth rhyfeddol ac rydym yn diolch iddo am ei frwdfrydedd dros chwaraeon Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É dros y blynyddoedd, y mae’r fainc newydd yn ddathliad perffaith ohono.
Mae rhoddion i'r brifysgol gan ein cyn-fyfyrwyr trwy gyfrwng Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É yn helpu i sicrhau bod ein myfyrwyr yn elwa ar gyfleusterau a gwasanaethau rhagorol ochr yn ochr â’u haddysg.
Mae Cronfa ÑÇÖÞÉ«°É, a wnaed o roddion caredig gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, wedi cefnogi nifer o brojectau sy'n gysylltiedig â chwaraeon dros y blynyddoedd, gan gynnwys uwchraddio fflyd y clwb cychod, prynu chwe dingi hwylio ail-law ar gyfer Clwb Hwylio Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, darparu offer deifio hanfodol i’r Clwb Deifio Tanddwr a phrynu dau fwrdd sgôr awyr agored newydd, ar gyfer safle meysydd chwarae Treborth a’r cae hoci ar safle Ffriddoedd.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cefnogi'r brifysgol drwy Gronfa ÑÇÖÞÉ«°É, cymerwch gip ar ein gwefan, neu e-bostiwch Persida Chung, Swyddog Datblygu.