
Ryan Eddowes
Swoleg gyda Herpetoleg, 2015

鈥淩ydw i鈥檔 dathlu 10 mlynedd o weithio gydag anifeiliaid ar ol gael gwybod gan arbenigwyr meddygol na fyddai bywyd o weithio gydag anifeiliaid yn bosibl鈥
鈥淔e ddes i ar dri diwrnod agored i Brifysgol 亚洲色吧 gan i mi syrthio mewn cariad 芒 thirwedd naturiol yr ardal, y brifysgol hanesyddol a鈥檙 holl gyfleusterau sydd yma, megis yr Amgueddfa Byd Natur.
Mae鈥檙 darlledwr a鈥檙 naturiaethwr Syr David Attenborough wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i fi ac fe hoffwn ddilyn yn 么l ei droed drwy ddod 芒 materion cadwriaethol pwysig i sylw cenedlaethau鈥檙 dyfodol. Felly, peth naturiol ddigon oedd i fi ddewis prifysgol lle gallwn astudio bioamrywiaeth. Mae gan Brifysgol 亚洲色吧 enw rhagorol am wyddorau biolegol ac am y cyfleusterau natur sydd yma, o'r amgueddfa byd natur i鈥檙 llong ymchwil. Dyma鈥檙 lle delfrydol i ddatblygu fy sgiliau a meithrin yr angerdd sydd gen i am fyd natur.
O鈥檙 dechrau mae fy mywyd i wedi bod yn dra gwahanol; cefais fy ngeni gyda chyflwr Troed Mewndro Cynhenid Dwyochrog, a elwir hefyd yn 鈥淭roed Glwb鈥. Mae'n gyflwr cyffredin sy鈥檔 effeithio鈥檙 coesau, ac mae 1 o bob 1000 o fabanod yn cael eu geni gyda鈥檙 cyflwr. Mae'r cyflwr hwn yn effeithio ar eich traed a'ch fferau ac yn achosi i'ch traed droi at i mewn.

Wrth dyfu i fyny, byddai nain a taid yn mynd 芒 fi i鈥檙 sw yn aml, ac ar deithiau i warchodfeydd natur ac ar wyliau i'r Arfordir Jwrasig. Chwilio am ffosilau deinosoriaid, cerdded trwy amgueddfeydd byd natur a gweld beth oedd yn crwydro ein planed 66 miliwn o flynyddoedd yn 么l sydd wedi fy ysbrydoli i garu鈥檙 byd naturiol o鈥檓 cwmpas.
Pan oeddwn yn 13 oed, awgrymodd arbenigwyr meddygol y byddwn mewn cadair olwyn cyn i mi fod yn 30 oed. Cefais gyngor hefyd na fyddai gyrfa yn ymwneud ag anifeiliaid yn bosibl, oedd yn golygu na fyddai modd i fi wireddu fy uchelgais sef cael bod yn geidwad sw.
Wnes i ddim gadael i鈥檙 prognosis hwnnw fy rhwystro, a chofrestrais yn ddiweddarach ar gwrs Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Rheoli Anifeiliaid yng Ngholeg Rodbaston, Swydd Stafford, lle cefais Ragoriaeth *** a phrofiad gwerthfawr yn helpu i sefydlu Sw'r Coleg.
Ar 么l gadael y coleg, gwnes gais i wneud BSc (Anrh.) mewn S诺oleg gyda Herpetoleg ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Tra oeddwn yn y brifysgol teithiais i Corfu i chwilio am ymlusgiaid gwenwynig gyda chymdeithas Herpetolegol Prifysgol 亚洲色吧, ac ymweld 芒 Thenerife lle gwnes ymchwil annibynnol i ymddygiad cysgu morfilod pengrwn.
Yn fy ail flwyddyn, fel rhan o'r cwrs, mae cyfle i deithio dramor. Fe wnes i ddewis De Affrica. Fe wnaethom deithio o amgylch parc cenedlaethol Kruger, lle gwelais anifeiliaid mwyaf Affrica megis yr eliffant a鈥檙 rhinoseros. Hyd heddiw dwi'n dal i gofio mynd i gerdded trwy鈥檙 gwylltir a theulu o eliffantod yn cerdded heibio i ni ac fe geisiodd un o鈥檙 eliffantod ifanc smalio rhuthro tuag atom, cyn penderfynu cerdded i ffwrdd yn lle, roedd hynny鈥檔 hollol syfrdanol.
Syrthiais mewn cariad 芒 De Affrica felly dychwelais yno yn 2017 i wneud interniaeth yn gwneud ffilmiau am fywyd gwyllt gyda chwmni o鈥檙 enw Affrica Media. Dysgais sut i ffilmio bywyd gwyllt a chyflwyno o flaen camera am ryfeddodau鈥檙 byd naturiol. Cefais fy nysgu gan Ryan Johnson, sy鈥檔 arbenigo mewn gwneud ffilmiau bywyd gwyllt ac sydd wedi gwneud ffilmiau ar gyfer y BBC a鈥檙 National Geographic. Mae cael fy nysgu gan arbenigwr yn y diwydiant wedi fy ngalluogi i ennill sgiliau a鈥檙 gallu i greu fy rhaglenni dogfen fy hun wedyn, gan gynnwys fy nhraethawd hir lle creais raglen ddogfen am y bywyd gwyllt a geir yng Ngardd Fotaneg Treborth. Er mawr syndod i mi, edrychodd Steve Backshall, anturiaethwr bywyd gwyllt y BBC, sydd bellach yn ddarlithydd er anrhydedd ym Mhrifysgol 亚洲色吧, ar fy ffilm ar Twitter gan ddymuno鈥檙 dda i mi yn y diwydiant i鈥檙 dyfodol.

Tra oeddwn yn y brifysgol b没m yn gwirfoddoli yn Amgueddfa Byd Natur y brifysgol am ddwy flynedd yn adnabod, catalogio a threfnu casgliadau鈥檙 amgueddfa. Trwy wneud hynny cefais helpu ar ddyddiau agored y brifysgol yn hyrwyddo fy nghwrs. Byddwn yn hebrwng darpar fyfyrwyr mewn bysys o amgylch y campws ac yn s么n wrthynt am fywyd prifysgol a b没m hefyd yn arwain teithiau tywys o amgylch cyfleusterau'r brifysgol. Hyd yn oed ar 么l i mi raddio gofynnodd y brifysgol yn garedig iawn i mi roi araith mewn diwrnod agored yn syth ar 么l i鈥檙 dirprwy is-ganghellor siarad, roedd hyn yn anrhydedd mawr i mi yn cael siarad 芒 rhwng 200-300 o ddarpar fyfyrwyr a鈥檜 teuluoedd. Roedd mynd o fod mor swil yn yr ysgol i sefyll i fyny a siarad o flaen cynulleidfa mor fawr yn foment fythgofiadwy.
A
Ar 么l graddio gyda 2:1, teithiais yn 么l i Tenerife fel gweithredwr camera bywyd gwyllt a chydlynydd creadigol lle b没m yn ffilmio morfilod a dolffiniaid yn y gwyllt am chwe mis ac yn dysgu gwirfoddolwyr am gadwraeth morfilod a ffotograffiaeth bywyd gwyllt. Oherwydd rhesymau personol fe ddes yn 么l i鈥檙 Deyrnas Unedig a gweithio mewn bwytai am gyfnod byr cyn i mi gael swydd addysgu yng ngholeg Rodbaston fel darlithydd gofal anifeiliaid yn dysgu cyrsiau gofal anifeiliaid lefel 1, 2 a 3.
Tra'n gweithio'n llawn amser yn y coleg, cefais hefyd swydd fel tywysydd bws mini ym Mharc Saffari Gorllewin Canolbarth Lloegr gan yrru bws mini 15 sedd o amgylch y cylch saffari 4 milltir, gan dywys y gwesteion i weld trigolion y parc megis y rhinoserosod a鈥檙 llewod. Ar 么l gwneud hyn am ychydig, daeth cyfle i drio am swydd fel swyddog addysg yn y parc saffari, ond roedd elfennau ychwanegol yn rhan o鈥檙 r么l arbennig hon, megis cael bod yn agos i鈥檙 anifeiliaid, cynnal teithiau deinosoriaid a neidio ar fysys a dysgu grwpiau ysgolion a cholegau am gadwraeth bywyd gwyllt. Fe wnes i gais a chael y swydd, ac ymhen rhyw fis ar 么l dechrau fe drawodd y pandemig Covid-19 gan gau鈥檙 wlad i lawr. Digwyddodd hynny ar fy mhen-blwydd yn 24, sef y 23ain o Fawrth.
Wrth i ni ddod allan o'r pandemig, roedd r么l newydd ar gael yn y parc fel tywysydd saffari VIP, yn mynd 芒 gwesteion ar deithiau o amgylch y parc saffari a chael mynd yn agos at lawer o anifeiliaid hyfryd gan wneud pethau megis bwydo llewod a theigrod a hyd yn oed dreulio'r diwrnod fel ceidwad y rhinoserosod, dydw i ddim wedi edrych yn 么l ers hynny.
Yn olaf, yn 2021 sefydlais 鈥淥ur cities鈥 wild islands鈥 sef syniad am raglen ddogfen y meddyliais amdano sy鈥檔 s么n am y nodweddion sy鈥檔 gyffredin rhwng ynysoedd y cefnfor a chylchfannau traffig a sut y gall y mannau hyn o dir nas oes defnydd iddynt ddod yn gynefinoedd i fywyd gwyllt. Daeth hwn yn broject y buom yn gweithio arno mewn partneriaeth 芒 chynghorau lleol gan gynnwys Cyngor Dinas Wolverhampton i ddechrau ail-wylltio parciau, a gobeithiwn yn y blynyddoedd nesaf y bydd yn arwain at wneud hynny gydag ymylon glaswelltog a chylchfannau, a fydd yn creu priffyrdd sy鈥檔 addas i fyd natur ac yn ein galluogi ni a bywyd gwyllt i ailgysylltu 芒鈥檔 gilydd unwaith eto.
Rydw i鈥檔 dathlu 10 mlynedd o weithio gydag anifeiliaid. Mae mynd o gael gwybod gan arbenigwyr meddygol na fyddai bywyd o weithio gydag anifeiliaid yn bosibl i gael gyrfa sydd wedi ymestyn dros ddegawd hyd yn hyn