Alun Hughes
Hanes, 1973
Cyflwynais gais i Brifysgol 亚洲色吧 yn 1969, yn rhannol oherwydd cefais wybod y gallai鈥檙 brifysgol fod yn fwy hyblyg gyda mi pe na bawn yn cyrraedd y graddau uchaf. Roeddwn yn ddisgybl eithaf dinod ac yn fy nhrydedd flwyddyn yn y chweched ddosbarth, a hyd yn oed wedyn, dim ond drwy鈥檙 broses glirio y cefais fy nerbyn i鈥檙 brifysgol yn 1970. Roeddwn yn dod o Fodelwyddan, taith gyfleus o 30 milltir i lawr y l么n.
Bues yn byw yn Neuadd Reichel ac Anecs Reichel drwy gydol fy ngradd 3 blynedd, ac ym Mangor yn ystod fy mlwyddyn TAR. Hanes gydag Economeg oedd fy mhwnc gradd, a chefais radd 2:2 yn y diwedd yn 1973. Er gwaethaf fy sgiliau cyffredin fel myfyriwr, roeddwn wrth fy modd 芒 亚洲色吧 ac es ymlaen i ddilyn gradd TAR mewn Hanes a Saesneg yn 1973-4.
Roedd bywyd myfyrwyr ym Mangor yn wych. Roeddwn yn fachgen 18 oed swil, ond fe wnaeth 亚洲色吧 fy nhrawsnewid. Ymunais 芒 Chlwb P锚l-droed Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a Chylchgrawn Forecast, a threuliais 4 blynedd yn chwarae p锚l-droed i wahanol dimau'r Coleg. Roeddwn yn gasglwr recordiau brwd, a llwyddais i ddod yn DJ yn y Coleg, a ddaeth yn rhywbeth rheolaidd yn y pen draw. Roedd pawb yn wych gyda mi yn y brifysgol ac mi adewais yn barod i wynebu鈥檙 byd yn 1974.
Yn 1974, cefais fy mhenodi fel athro yn Ysgol Grove Park yn Wrecsam ac roeddwn yn gallu rhoi fy sgiliau Hanesyddol ac Economeg ar waith yn broffesiynol. Cefais ganlyniadau rhagorol yno a chefais fy mhenodi i Goleg Chweched Dosbarth Yale yn 1980 fel darlithydd Hanes ac Economeg. Yma, ffynnodd fy sgiliau addysgu ac astudio Hanes, a chefais brofiad gwych dros yr 8 mlynedd.
Yn wahanol i lawer o athrawon, roedd gen i ddau linyn i'm bwa, a datblygais ochr DJ fy mywyd, yn ogystal 芒 pharhau i ryngweithio 芒 Cherddoriaeth yn gyffredinol. Yn 1977, agorais siop Recordiau fach - siop hob茂au - yn Wrecsam. Cefais gymaint o fwynhad dros y ddegawd nesaf, twf adwerthu a llwyddiant addysgu, gyda theulu a oedd yn tyfu ar ben hynny. Yn 1988, roeddwn yn wynebu dewisiadau go iawn a phenderfynais adael addysgu (mwy neu lai) a mentro i鈥檙 byd adwerthu鈥檔 llawn amser. Es ymlaen i agor siopau mewn trefi eraill.
Yn 1995, dewisais ddilyn Cwrs MA mewn Hanes yr Unol Daleithiau ym Mhrifysgol Keele a phasio gyda chanmoliaeth fawr 2 flynedd yn ddiweddarach. Yn fuan wedi hynny, dechreuais ar y gwaith ymchwil i'm llyfr ar Hanes diplomyddol yr Unol Daleithiau (1775-1850), a oedd yn dasg a hanner. Yn y cyfamser, roeddwn yn llywio nifer o newidiadau yn fy mywyd preifat, gan lansio fy menter adwerthu olaf yn 2006, yn Wrecsam o hyd. Rwy'n dal i gymryd rhan mewn Ffeiriau Recordiau a marchnadoedd achlysurol, ac yn parhau i wneud rhywfaint o addysgu achlysurol ac, yn 2020, cyhoeddais fy llyfr ar Kindle.
Rwy'n gwirfoddoli i siarad am ystod o bynciau mewn sesiynau prifysgol, Chweched Dosbarth ac Addysg Bellach, gan ddefnyddio fy mhrofiad eang i arwain myfyrwyr uchelgeisiol.
Pan ddaeth ap锚l gan Senedd Cymru am fodelau r么l yn y byd Entrepreneuraidd, rhoddais fy enw ymlaen. Cefais fy nefnyddio fel prif gyflwynydd y neges 'Dynamo' (bryd hynny) o annog pobl ifanc i ystyried Entrepreneuriaeth yn eu llwybr gyrfa. Treuliais dros 20 mlynedd yn rhan o hyn (yn ddiweddarach o fewn y sefydliad 'Syniadau Mawr'). Er bod myfyrwyr yn cael eu hannog i astudio nifer o gyrsiau yn eu bywyd ysgol, cymharol ychydig sy'n cael eu hamlygu i'r syniadau o Entrepreneuriaeth a all ehangu bywydau a bod mor werthfawr i ieuenctid y genedl.
Mae fy mywyd wedi bod yn enghraifft o ddatblygiad rhagweithiol, adeiladu set sgiliau a phositifrwydd. Mae hyn wedi caniat谩u i mi ymgolli mewn gwahanol brofiadau, gwahanol fydoedd, ac mae cyfoethogi hynny wedi caniat谩u i mi gael bywyd cynhyrchiol a phleserus.